Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 9 Mawrth 2021.
Ac rwy'n dal yn sigledig yn dilyn cyfarfod eithaf rhyfeddol a gawsom ddoe ochr yn ochr â Ken Skates a Jeremy Miles gyda'r Gweinidog yn y Weinyddiaeth Dai a Llywodraeth Leol ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, lle cawsom ein trin, yn y bôn, fel rhanddeiliaid mewn sesiwn friffio ar y gronfa codi'r gwastad, ac ni fu unrhyw ymgysylltu o gwbl â Llywodraeth Cymru ar hynny hyd yma.
Synnais pan ddywedodd y Gweinidog yn y Weinyddiaeth Dai a Llywodraeth leol wrthyf, yn falch iawn, ei fod yn bwriadu gosod rhai pobl i weithio yng Nghaerdydd fel bod pobl ar lawr gwlad a oedd yn adnabod ac yn deall Cymru, ac felly, wrth gwrs, bu'n rhaid imi ddweud wrtho, 'Wel, mae gennym eisoes bobl yng Nghymru sy'n adnabod ac yn deall Cymru, sef Llywodraeth Cymru, ein partneriaid ni, y Senedd, a dyma lle mae angen gwneud y penderfyniadau hynny, yn unol â'r setliad datganoli.' A'r hyn yr ydym yn ei weld yn ei hanfod yw ymosodiad gwarthus ar hynny, ac mae popeth a ddywedodd Alun Davies yn ei gyfraniad am y ffordd y mae Deddf y farchnad fewnol yn cael ei defnyddio i osgoi Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn taro tant.
Mae arnaf eisiau rhoi sylw i rai o'r sylwadau a wnaed mewn cysylltiad â'r penderfyniadau treth yr wyf wedi'u gwneud yn y gyllideb derfynol hon. Wrth gwrs, yn y gyllideb derfynol, rydym wedi cyhoeddi estyniad i gyfnod gostyngiad treth dros dro'r dreth trafodiadau tir yng Nghymru tan 30 Mehefin. Ers mis Gorffennaf diwethaf, mae pob prynwr tai yma sydd wedi bod yn ddarostyngedig i brif gyfraddau'r Dreth Trafodiadau Tir ar eiddo sy'n costio mwy na £180,000 wedi elwa ar ostyngiad treth o hyd at £2,450, ac nid yw'r rhai sy'n talu mwy na £250,000 wedi talu unrhyw dreth o gwbl. Felly, dim ond tua 25 y cant o bobl sy'n prynu eu cartrefi sydd wedi bod yn talu treth yn hynny o beth. Ac, wrth gwrs, os yw'r unigolion y cyfeiriodd Mark Isherwood atynt eisiau symud yn ôl i Gymru, ond i wneud hynny mae angen iddyn nhw brynu'r eiddo pontio hwnnw, wel, wrth gwrs, gallant gael y dreth ychwanegol y maen nhw'n ei thalu yn ôl os gwnânt y symudiad hwnnw a gwerthu'r eiddo ychwanegol hwnnw o fewn tair blynedd. Felly, mae gennym y mesurau diogelu hynny o fewn y system i sicrhau bod ein treth yma yng Nghymru yn flaengar. Os ydych eisiau gwybod am yr hyn nad yw'n flaengar, unwaith eto, fel yr wyf wedi sôn o'r blaen y prynhawn yma, nid oes rhaid inni ond edrych ar yr hyn y mae'r Canghellor wedi'i wneud o ran cyfraddau'r lwfans personol, a fydd yn taro'r gweithwyr â'r cyflogau isaf galetaf. Ac, wrth gwrs, y bobl â'r cyflogau isaf fydd yn talu'r pris uchaf am bandemig y coronafeirws.
Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu darparu 12 mis llawn o ryddhad ardrethi i fusnesau yn y sectorau manwerthu, twristiaeth a lletygarwch. Ac, wrth gwrs, fe'm syfrdanwyd o glywed beirniadaeth Mark Isherwood ar hynny, oherwydd mae'r cynnig yr ydym yn ei wneud i fusnesau yma yn mynd ymhell y tu hwnt i'r hyn y mae'r Canghellor wedi'i gynnig i'w fusnesau dros y ffin. A chredaf y gallwn fod yn falch iawn o'n hanes o gefnogi busnes yma yng Nghymru. Rydym wedi dweud droeon fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi mwy o gymorth ariannol i fusnesau nag yr ydym wedi'i gael mewn cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU, ac felly mae hynny'n golygu bod £1.9 biliwn bellach yng nghyfrifon banc busnesau yma ledled Cymru. Ac mae dros £1 biliwn wedi'i ddarparu drwy 178,000 o ddyfarniadau grant mewn partneriaeth unigryw, gan weithio gydag awdurdodau lleol sydd wedi gwneud gwaith rhyfeddol o dda i'n helpu i ddarparu'r grantiau hynny. Ac mae dros £520 miliwn wedi'i ddarparu'n uniongyrchol drwy Lywodraeth Cymru a Busnes Cymru. Gyda'i gilydd, mae'r cymorth busnes hwnnw wedi helpu i ddiogelu mwy na 165,000 o swyddi yma yng Nghymru, drwy gyfuniad o gymorth grant a benthyciadau. A chredaf fod hynny'n dangos yn glir y flaenoriaeth y mae'r Llywodraeth hon wedi'i rhoi ar achub swyddi pobl a'u bywoliaeth drwy'r hyn yr ydym i gyd yn cydnabod sydd wedi bod yn argyfwng economaidd.
Ac wrth symud ymlaen, mae cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn neilltuo £200 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn ar gyfer cymorth busnes ychwanegol y flwyddyn nesaf, i ymateb i heriau esblygol y pandemig, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu gwneud hynny.
Diddorol oedd clywed syniad newydd Plaid Cymru am warant. Wel, wrth gwrs, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ein gwarant i bobl ifanc yn llawer cynt yn yr argyfwng, pan wnaethom warantu i bobl ifanc y byddwn yn eu cefnogi i gael naill ai swydd neu fathau pellach o addysg, neu eu cefnogi i hunangyflogaeth. Roeddwn yn falch iawn yn fy sylwadau agoriadol heddiw o gyhoeddi £18.7 miliwn i ymestyn cymhellion busnes i recriwtio mwy o brentisiaid yma yng Nghymru. Mae hyn yn estyniad i'r cynllun a lansiwyd gennym yn yr hydref, sydd eisoes wedi gweld mwy na 1,300 o brentisiaethau newydd yn cael eu darparu yma yng Nghymru.
Wrth gwrs, mae newid yn yr hinsawdd wedi bod yn thema barhaus yn ein trafodaethau ar y gyllideb eleni. Cofiaf yn y gyllideb y llynedd, y stori fawr bryd hynny oedd ein bod yn darparu'r pecyn o gefnogaeth fwyaf erioed i'r amgylchedd drwy ein buddsoddiad mewn datgarboneiddio a bioamrywiaeth. Wel, eleni, rydym wedi cadw'r mwyafrif helaeth o'r cyllid hwnnw ar waith, ond rydym wedi mynd ymhellach ac wedi dyrannu bron i £80 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol i ddarparu ymyriadau sy'n hyrwyddo datgarboneiddio ac yn gwella eto ein bioamrywiaeth gyfoethog yma yng Nghymru, ochr yn ochr â £17 miliwn ychwanegol o refeniw i gefnogi'r ymyriadau. Mae'r pethau hynny'n cynnwys, er enghraifft, £20 miliwn yn ychwanegol ar gyfer teithio llesol, gan ddod â'n buddsoddiad mewn teithio llesol i £50 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf; £26.6 miliwn i hybu'r economi gylchol; £20 miliwn ar gyfer Nyth, i wella hwnnw ac Arbed, a'n cynlluniau ynni glân; a £5 miliwn ar gyfer y goedwig genedlaethol, sydd, yn fy marn i, yn rhywbeth yr ydym i gyd yn arbennig o gyffrous yn ei gylch. Mae hynny'n mynd â'r gyllideb gyffredinol i £32 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf, ac mae hynny ochr yn ochr ag ymyriadau eraill, megis £5 miliwn ar gyfer bwrw ymlaen â chyflawni prosiect treialu di-garbon a fydd yn ceisio datgarboneiddio ysgolion a cholegau yng Nghymru. Felly, gallwch weld nad yw ein pwyslais ar newid hinsawdd a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd wedi'i leihau gan y pandemig.
Felly, er mwyn dechrau dwyn fy sylwadau i ben, rwy'n falch iawn o hanes y weinyddiaeth hon. Er gwaethaf degawd o gyni, rydym yn buddsoddi ymhellach yn ein GIG, gan ddod â chyfanswm ein buddsoddiad dros dymor hwn y Llywodraeth i £37 biliwn, gyda mwy nag £8.4 biliwn yn 2021-22, ac eithrio cymorth COVID. Mae cyfanswm y buddsoddiad a roddwn i awdurdodau lleol dros y tymor hwn yn fwy na £25 biliwn gyda £16.6 biliwn arall o gyllid yn 2021-22, ac, unwaith eto, mae hyn heb gynnwys y cymorth ychwanegol o ganlyniad i COVID-19.
Ac rydym yn cyflawni'r addewidion gwariant allweddol a wnaethom i bobl Cymru yn 2016. Rydym wedi buddsoddi mwy na £200 miliwn ar ein cynnig gofal plant; £689 miliwn ar brentisiaethau pob oed, ochr yn ochr ag arian sylweddol gan yr UE i mewn i 2021-22; £100 miliwn ar wella safonau ysgolion; y gronfa driniaeth newydd gwerth £80 miliwn; a mwy na £610 miliwn i mewn i 2021-22 gan ddarparu rhyddhad ardrethi i fusnesau bach. Ac fel yr wyf newydd ei nodi, rydym yn cymryd camau difrifol a pharhaus i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Yn ystod tymor y Senedd hon, mae £2 biliwn wedi'i fuddsoddi mewn tai, gan ddarparu dros 20,000 o dai fforddiadwy, gyda £200 miliwn arall ar gyfer tai cymdeithasol yn 2021-22 i ddarparu 3,500 o gartrefi newydd ychwanegol. Ac rydym yn buddsoddi yn yr ardaloedd lle byddwn yn cael yr effaith fwyaf ar atal, ac mae hynny wrth wraidd ein dull gweithredu, a byddwch yn gweld hynny gyda'n lefelau buddsoddi uchaf erioed yn y grant amddifadedd disgyblion o fwy na £100 miliwn yn 2021-22. Felly—