13. Dadl: Cyllideb Derfynol 2021-22

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 9 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:29, 9 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Gorffennaf fy sylwadau drwy ddiolch ar goedd i'r Pwyllgor Cyllid ac i'r bobl eraill sydd wedi bod yn craffu ar hyn am y gwaith y maen nhw wedi'i wneud gyda'r gyllideb hon, ond hefyd eu gwaith dros y blynyddoedd eithriadol diwethaf, a diolchaf eto i'm swyddogion am y gwaith eithriadol y maen nhw wedi'i wneud. Cymeradwyaf y cynnig i'm cyd-Aelodau.