Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 9 Mawrth 2021.
Fel pob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, mae'r gwasanaeth heddlu wedi bod yn destun cyni ers cwymp bancio 2008, ac mae pob gwasanaeth heddlu yn y wlad hon wedi gweld ei gyswllt rheng flaen â'r cyhoedd yn lleihau wrth i orsafoedd heddlu gau a chanolfannau heddlu gael eu sefydlu ymhellach i ffwrdd o'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu. Mae pawb yr wyf i wedi siarad â nhw sy'n gweithio yn y gwasanaeth heddlu yn dymuno cael mwy o adnoddau. Erbyn hyn mae materion penodol yn ymwneud â COVID sydd wedi gosod gofynion eraill, gofynion ychwanegol, ar amser ac adnoddau yr heddlu. Hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ychwanegu fy niolch i bawb sydd wedi gweithio ar reng flaen y gwasanaeth heddlu a'r holl weithwyr allweddol eraill, sydd wedi gweld eu bywydau gwaith yn newid yn gyfan gwbl o'i gymharu â'r hyn yr oedden nhw'n gyfarwydd ag ef o ganlyniad i'r argyfwng COVID hwn. Mae'n bwysig i roi ar y cofnod bod pob un ohonom ni yn gwerthfawrogi eu hymdrechion yn fawr iawn.
Mae COVID yn golygu bod mwy o gyfreithiau i'w gorfodi bellach, ac er y gallai rhywfaint o ystyriaeth fod wedi ei rhoi i hynny mewn termau ariannol, mae'r ffaith yn parhau bod blynyddoedd o doriadau un ar ôl y llall yn y gyllideb wedi cyflwyno heriau i'r heddlu yn ystod COVID, yn union fel y mae pob gwasanaeth cyhoeddus arall wedi wynebu heriau o ganlyniad i COVID. Ac, wrth gwrs, mae toriadau i wasanaethau cyhoeddus eraill yn effeithio ar yr heddlu hefyd. Mwy o bobl ddigartref, mwy o waith i'r heddlu. Mae toriadau i wasanaethau iechyd meddwl yn golygu bod yn rhaid i'r heddlu ymdrin â mwy o bobl â phroblemau iechyd meddwl, pryd y byddai wedi bod yn bosibl iddyn nhw gael gafael ar y cymorth arbenigol sydd ei angen arnyn nhw yn llawer rhwyddach flynyddoedd lawer yn ôl.
Nawr, gwn fod gan ymgeiswyr comisiynydd heddlu a throseddu Plaid Cymru syniadau gwych ynglŷn â'r hyn y gellid ei wneud yn y swyddogaeth honno. Ac, wrth gwrs, mae gennym ni ddau gomisiynydd heddlu a throseddu sydd eisoes yn gwneud gwaith gwych yn y swyddogaeth honno. Ond, wrth gwrs, bydd eu holl uchelgeisiau wedi'u cyfyngu, o leiaf i ryw raddau, gan gyllidebau. Nid yw'n gyfrinach bod Plaid Cymru yn dymuno gweld yr heddlu—y system cyfiawnder troseddol gyfan mewn gwirionedd—yn cael ei datganoli. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr i rai o'r gwasanaethau cyhoeddus gael eu datganoli ond nid yr heddlu. Rydym ni'n dymuno gallu trin sylweddau fel mater iechyd ac nid fel mater troseddol, pan fo hynny'n berthnasol, ond ni allwn wneud hynny heb gyfrifoldeb dros heddlu a throseddu. Sut gallwn ni fynd i'r afael yn briodol â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod pan fo iechyd ac addysg wedi eu datganoli ond nid plismona a chyfiawnder troseddol? Mae'r Alban yn dangos i ni sut y gallwch chi, gyda heddlu datganoledig, fod ag ymagwedd systemau cyfan, gan ganolbwyntio yn fwy ar atal troseddu, ymyrraeth gynnar, cymorth amlddisgyblaethol i ddargyfeirio pobl i ffwrdd o'r system cyfiawnder troseddol pan mai dyna'r peth iawn i'w wneud—rhywbeth y dylem ninnau allu ei wneud, yn enwedig pan fo problem yr unigolyn yn fwy o broblem iechyd na phroblem droseddol.
Cyn bo hir bydd Plaid Cymru yn amlinellu ein cynlluniau cyn etholiadau'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu i wneud cyllid yr heddlu yng Nghymru yn decach. Mae cymaint mwy y gallem ni ei wneud i fynd i'r afael ag ofn trosedd, i fod yn fwy gweladwy mewn cymunedau, i leihau troseddu ac aildroseddu, i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, i gefnogi dioddefwyr a mynd i'r afael â throseddau casineb. Ond, er mwyn gwneud hyn yn iawn, mae angen buddsoddiad teilwng yn yr heddlu. Mae'r Llywodraeth yn gwybod bod y setliad hwn yn annigonol, ac mae'n gwybod nad yw'r hyn sydd ger ein bron heddiw yn ddigon.