– Senedd Cymru am 6:00 pm ar 9 Mawrth 2021.
Symudwn yn awr at y ddadl nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma, sydd ar setliad yr heddlu yn 2021-22. Unwaith eto, galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig—Julie James.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy'n cyflwyno i'r Senedd, i'w cymeradwyo, fanylion cyfraniad Llywodraeth Cymru at gyllid refeniw craidd ar gyfer y pedwar comisiynydd heddlu a throseddu, neu'r Comisiynwyr, yng Nghymru ar gyfer 2021-22. Cyn i mi wneud hynny, Dirprwy Lywydd, hoffwn i dalu teyrnged i bawb sy'n gwasanaethu yn ein heddluoedd. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae ein heddluoedd wedi gorfod ymdrin â heriau digynsail o ganlyniad i'r pandemig. Maen nhw wedi rhoi eu hunain ar y rheng flaen wrth orfodi cyfyngiadau cenedlaethol, gan beryglu eu hiechyd a'u lles eu hunain a'u teuluoedd. Nid y pandemig, wrth gwrs, yw'r unig ddigwyddiad brys y mae'r heddlu wedi helpu i ymdrin ag ef yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn ogystal â chadw ein cymunedau yn ddiogel, mae'r rhai sy'n gwasanaethu yn ein heddluoedd ledled Cymru hefyd yn cynnal y safonau uchaf o ran dyletswydd, ymroddiad ac, ar adegau, dewrder. Yn arbennig o ystyried y digwyddiadau diweddar, hoffwn i gofnodi fy niolch i holl wasanaethau brys Cymru am eu cydnerthedd, ac rwy'n siŵr y bydd y sylwadau hyn yn cael eu hatseinio ar draws y Siambr hon.
Rwy'n cydnabod pwysigrwydd heddluoedd Cymru a'u swyddogaeth hanfodol wrth ddiogelu a gwasanaethu ein cymunedau yma yng Nghymru. Mae gwasanaeth yr heddlu yng Nghymru yn enghraifft gadarnhaol o sut y gall gwasanaethau datganoledig a gwasanaethau nad ydyn nhw wedi eu datganoli gydweithio yn effeithiol. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod y cyllid craidd ar gyfer yr heddlu yng Nghymru yn cael ei ddarparu trwy drefniant tair ffordd sy'n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r dreth gyngor. Gan nad yw polisi plismona a materion gweithredol wedi eu datganoli, mae'r darlun cyffredinol o gyllid yn cael ei bennu a'i lywio gan y Swyddfa Gartref. Felly, mae'r dull sefydledig o bennu a dosbarthu cydran Llywodraeth Cymru wedi'i seilio ar egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru a Lloegr.
Hoffwn i ddiolch i'r Comisiynwyr unwaith eto am eu hamynedd eleni. Oherwydd yr oedi yn yr adolygiad o wariant Llywodraeth y DU, ni chafodd cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ei chyhoeddi tan 2 Mawrth. Unwaith eto, mae hyn wedi golygu bod Comisiynwyr wedi gorfod gosod eu praeseptau cyn i setliad yr heddlu fynd trwy'r Senedd. Fel yr amlinellwyd yn y cyhoeddiad o setliad terfynol yr heddlu ar 4 Chwefror, cyfanswm y cymorth refeniw heb ei neilltuo ar gyfer gwasanaeth yr heddlu yng Nghymru ar gyfer 2021-22 yw £408 miliwn. Cyfraniad Llywodraeth Cymru at y swm hwn trwy'r grant cynnal refeniw ac ardrethi annomestig wedi'u hailddosbarthu yw £143.4 miliwn, a dyma'r cyllid y gofynnir i chi ei gymeradwyo heddiw.
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r Swyddfa Gartref wedi penderfynu troshaenu ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion gyda dull llawr. Mae hyn yn golygu, ar gyfer 2021-22, y bydd yr holl Gomisiynwyr ledled Cymru a Lloegr yn cael cynnydd o 6.3 y cant mewn cyllid o'i gymharu â 2020-21. Bydd y Swyddfa Gartref yn darparu grant ychwanegol gwerth cyfanswm o £23.1 miliwn i sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Gwent yn cyrraedd lefel y llawr. O ran cyllid craidd, setliad arian gwastad yw hwn.
Mae'r Swyddfa Gartref yn dweud mai diben y cynnydd o 6.3 y cant yw darparu cyllid i recriwtio 6,000 o swyddogion heddlu ychwanegol, wedi'i rannu ymhlith y 43 heddlu yng Nghymru a Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o gryfhau'r economi a chreu cyfleoedd cyflogaeth ledled y wlad. Rwy'n croesawu'r cyfle i bobl ledled Cymru ystyried gyrfa yn yr heddluoedd. Mae'r Prif Weinidog wedi ymrwymo i darged o 20,000 o swyddogion newydd erbyn diwedd 2022-23. Fodd bynnag, ni ddylid cyrraedd y targed hwn ar draul gwasanaethau craidd yr heddlu. Fel yn 2020-21, bydd y Swyddfa Gartref yn parhau i ddarparu grant penodol i'r Comisiynwyr yn 2021-22 i ariannu'r pwysau ychwanegol o ganlyniad i newidiadau Llywodraeth y DU i'r cyfraddau cyfraniadau pensiwn. Mae'r Swyddfa Gartref wedi cadw gwerth y grant ar £143 miliwn yn 2021-22, ac mae £7.3 miliwn o hyn wedi ei ddyrannu i Gomisiynwyr yng Nghymru.
Mae gan Gomisiynwyr hefyd y gallu i godi arian ychwanegol trwy eu praesept treth gyngor. Mae Llywodraeth y DU wedi gosod terfyn uchaf y praesept ar gyfer Comisiynwyr yn Lloegr yn £15 yn 2021-22, gan amcangyfrif y bydd hyn yn codi £288 miliwn yn ychwanegol. Yn wahanol i'r terfynau sy'n berthnasol yn Lloegr, mae gan Gomisiynwyr Cymru y rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch codiadau yn y dreth gyngor. Mae gosod y praesept yn rhan allweddol o swyddogaeth y comisiynydd heddlu a throseddu, sy'n dangos atebolrwydd i'r etholwyr lleol.
Rydym yn sylweddoli bod angen gwneud penderfyniadau anodd wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer y blynyddoedd i ddod pan mai cyllideb un flwyddyn yn unig sydd gennym. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda'r Comisiynwyr a phrif gwnstabliaid i sicrhau bod heriau cyllid yn cael eu rheoli mewn ffyrdd sy'n lleihau'r effaith ar ddiogelwch cymunedol yng Nghymru. Yn rhan o hyn, mae Llywodraeth Cymru, yn ei chyllideb ar gyfer 2021-22, wedi parhau i ariannu'r 500 o swyddogion cymorth cymunedol a recriwtiwyd o dan ymrwymiad blaenorol y rhaglen Lywodraethu. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal yr un lefel o gyllid ar gyfer cyflawni'r ymrwymiad hwn ag yn 2020-21, gyda'r £18.6 miliwn y cytunwyd arno yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, yn amodol, wrth gwrs, ar y bleidlais y prynhawn yma, Dirprwy Lywydd. Un o'r prif sbardunau y tu ôl i'r prosiect hwn oedd ychwanegu at bresenoldeb gweladwy yr heddlu ar ein strydoedd ar adeg pan fo Llywodraeth y DU yn cwtogi ar gyllid yr heddlu. Mae nifer llawn y swyddogion wedi eu defnyddio ers mis Hydref 2013, ac maen nhw'n gwneud cyfraniad cadarnhaol at ddiogelwch y cyhoedd ledled Cymru. Byddan nhw'n parhau i weithio gyda chymunedau a phartneriaid lleol i wella canlyniadau i'r rhai y mae troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio arnynt.
Gan ddychwelyd at ddiben y ddadl heddiw, y cynnig yw cytuno ar yr adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer comisiynwyr heddlu a throseddu sydd wedi ei osod gerbron y Senedd. Os caiff ei gymeradwyo, bydd hyn yn caniatáu i'r comisiynwyr gadarnhau eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Felly, gofynnaf i Aelodau'r Senedd gefnogi'r cynnig hwn heddiw. Diolch.
Hoffwn i, wrth gwrs, Gweinidog, ymuno â chi wrth ganmol gwaith yr heddluoedd yn ei gyfanrwydd, a'r gwasanaethau brys hefyd, yn enwedig yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, rwyf i yn credu y gallai fod wedi bod yn bosibl eu diogelu yn well ar y rheng flaen.
Cyfanswm y cymorth canolog i heddluoedd yng Nghymru yn 2021-22 fydd £408.2 miliwn. Mae hwn yn gynnydd o ryw £24 miliwn o'i gymharu â'r flwyddyn ariannol flaenorol. O ganlyniad i'r cynnydd yn y cymorth ariannol gan Lywodraeth Geidwadol y DU, bydd heddluoedd yng Nghymru yn cael cynnydd o 6.3 y cant i'r cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Daw hyn ar ben cynnydd o 7.5 y cant i gyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol. Bydd hyn yn helpu heddluoedd i fynd i'r afael â throseddu a darparu strydoedd mwy diogel, gan alluogi cymunedau Cymru i ailadeiladu yn fwy diogel.
Fodd bynnag, mae cyfraniad Llywodraeth Cymru i setliad yr heddlu wedi aros yr un fath. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyfanswm o £143.4 miliwn, sef yr un lefel o gyllid ag yn 2019-20 a 2020-21. Mewn gwirionedd, mae cymorth Llywodraeth Cymru i setliad yr heddlu wedi cynyddu gan £4.7 miliwn yn unig rhwng 2017-18 a 2021-22. O'i gymharu â hyn, mae cymorth Llywodraeth Geidwadol y DU wedi cynyddu gan £53.6 miliwn rhwng 2017-18 a 2021-22, sy'n golygu bod cyfanswm y cymorth canolog i heddluoedd Cymru wedi cynyddu gan fwy nag 16 y cant ers 2017. Mae hyn yn gynnydd o 5.7 y cant o'i gymharu â 2020-21, sy'n sylweddol uwch na chyfradd chwyddiant. Mae hyn yn golygu y bydd heddluoedd Cymru yn rhannu cyfanswm cyllid adnoddau o dros £780 miliwn, gan dynnu sylw at fuddion bod yn rhan o'r undeb trwy sicrhau bod gan heddluoedd yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i gadw Cymru yn ddiogel.
Mae comisiynwyr heddlu a throseddu Llafur Cymru a Plaid wedi cynyddu praesept yr heddlu, fel y gwnaethoch chi ei amlinellu, bron i draean ers etholiadau diwethaf y Comisiynwyr, gan dynnu hyd yn oed mwy o arian o bocedi'r bobl. Er gwaethaf cwyno ynghylch diffyg cyllid, mae Comisiynwyr Cymru wedi gwario mwy nag £8 miliwn ar gysylltiadau cyhoeddus a chostau staffio rhwng 2016 a 2020. Byddai Comisiynwyr Ceidwadol Cymru yn mynd i'r afael â'r gwastraff anfaddeuol hwn o arian cyhoeddus ac yn hytrach yn canolbwyntio ar gyflawni blaenoriaethau'r bobl—rhoi mwy o swyddogion yr heddlu ar ein strydoedd, mynd i'r afael â throseddu a chreu strydoedd mwy diogel. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 309 o swyddogion yr heddlu ychwanegol wedi eu recriwtio hyd yma yng Nghymru o dan strategaeth recriwtio Llywodraeth y DU. Yn y cyfamser, mae'r DU wedi cyhoeddi y bydd 283 o swyddogion yr heddlu ychwanegol yn cael eu recriwtio yng Nghymru o dan flwyddyn 2 rhaglen ymgodiadau'r heddlu yn 2021-22.
Hefyd, bydd Cymru yn elwa ar swyddogion heddlu arbenigol ychwanegol, gan sicrhau bod Cymru ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn terfysgaeth a throseddu cyfundrefnol. Mae ystadegau diweddar yn dangos, er gwaethaf pandemig COVID-19, fod troseddu yng Nghymru a Lloegr wedi gostwng gan 6 y cant yn y 12 mis hyd at fis Medi 2020, gan dynnu sylw at y ffaith fod buddsoddiad Llywodraeth y DU yn ein heddlu yn cyflawni canlyniadau.
Wrth i'r Ceidwadwyr gefnogi'r heddlu a darparu strydoedd mwy diogel, mae gan Lafur Cymru a Plaid Cymru obsesiwn ynghylch datganoli cyfiawnder, cyfreithloni cyffuriau a phleidleisiau i droseddwyr a gollfarnwyd. Argymhellodd adroddiad Comisiwn Llywodraeth Cymru ar Gyfiawnder yng Nghymru y dylid datganoli cyfiawnder yn llawn i Lywodraeth Cymru, ac eto mae hyn yn methu â chydnabod natur drawsffiniol gweithgaredd troseddol a phwysigrwydd cydweithio i fynd i'r afael â throseddu. Gall unrhyw ddatganoli cyfiawnder troseddol lesteirio cydweithio rhwng heddluoedd yng Nghymru a mannau eraill yn y DU. Llywydd, mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn cyflawni blaenoriaethau pobl Cymru trwy sicrhau bod mwy o swyddogion yr heddlu ar ein strydoedd, yn ogystal â phwysleisio ei hymrwymiad i ddarparu'r adnoddau sydd eu hangen ar ein heddluoedd. Diolch yn fawr.
Fel pob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, mae'r gwasanaeth heddlu wedi bod yn destun cyni ers cwymp bancio 2008, ac mae pob gwasanaeth heddlu yn y wlad hon wedi gweld ei gyswllt rheng flaen â'r cyhoedd yn lleihau wrth i orsafoedd heddlu gau a chanolfannau heddlu gael eu sefydlu ymhellach i ffwrdd o'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu. Mae pawb yr wyf i wedi siarad â nhw sy'n gweithio yn y gwasanaeth heddlu yn dymuno cael mwy o adnoddau. Erbyn hyn mae materion penodol yn ymwneud â COVID sydd wedi gosod gofynion eraill, gofynion ychwanegol, ar amser ac adnoddau yr heddlu. Hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ychwanegu fy niolch i bawb sydd wedi gweithio ar reng flaen y gwasanaeth heddlu a'r holl weithwyr allweddol eraill, sydd wedi gweld eu bywydau gwaith yn newid yn gyfan gwbl o'i gymharu â'r hyn yr oedden nhw'n gyfarwydd ag ef o ganlyniad i'r argyfwng COVID hwn. Mae'n bwysig i roi ar y cofnod bod pob un ohonom ni yn gwerthfawrogi eu hymdrechion yn fawr iawn.
Mae COVID yn golygu bod mwy o gyfreithiau i'w gorfodi bellach, ac er y gallai rhywfaint o ystyriaeth fod wedi ei rhoi i hynny mewn termau ariannol, mae'r ffaith yn parhau bod blynyddoedd o doriadau un ar ôl y llall yn y gyllideb wedi cyflwyno heriau i'r heddlu yn ystod COVID, yn union fel y mae pob gwasanaeth cyhoeddus arall wedi wynebu heriau o ganlyniad i COVID. Ac, wrth gwrs, mae toriadau i wasanaethau cyhoeddus eraill yn effeithio ar yr heddlu hefyd. Mwy o bobl ddigartref, mwy o waith i'r heddlu. Mae toriadau i wasanaethau iechyd meddwl yn golygu bod yn rhaid i'r heddlu ymdrin â mwy o bobl â phroblemau iechyd meddwl, pryd y byddai wedi bod yn bosibl iddyn nhw gael gafael ar y cymorth arbenigol sydd ei angen arnyn nhw yn llawer rhwyddach flynyddoedd lawer yn ôl.
Nawr, gwn fod gan ymgeiswyr comisiynydd heddlu a throseddu Plaid Cymru syniadau gwych ynglŷn â'r hyn y gellid ei wneud yn y swyddogaeth honno. Ac, wrth gwrs, mae gennym ni ddau gomisiynydd heddlu a throseddu sydd eisoes yn gwneud gwaith gwych yn y swyddogaeth honno. Ond, wrth gwrs, bydd eu holl uchelgeisiau wedi'u cyfyngu, o leiaf i ryw raddau, gan gyllidebau. Nid yw'n gyfrinach bod Plaid Cymru yn dymuno gweld yr heddlu—y system cyfiawnder troseddol gyfan mewn gwirionedd—yn cael ei datganoli. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr i rai o'r gwasanaethau cyhoeddus gael eu datganoli ond nid yr heddlu. Rydym ni'n dymuno gallu trin sylweddau fel mater iechyd ac nid fel mater troseddol, pan fo hynny'n berthnasol, ond ni allwn wneud hynny heb gyfrifoldeb dros heddlu a throseddu. Sut gallwn ni fynd i'r afael yn briodol â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod pan fo iechyd ac addysg wedi eu datganoli ond nid plismona a chyfiawnder troseddol? Mae'r Alban yn dangos i ni sut y gallwch chi, gyda heddlu datganoledig, fod ag ymagwedd systemau cyfan, gan ganolbwyntio yn fwy ar atal troseddu, ymyrraeth gynnar, cymorth amlddisgyblaethol i ddargyfeirio pobl i ffwrdd o'r system cyfiawnder troseddol pan mai dyna'r peth iawn i'w wneud—rhywbeth y dylem ninnau allu ei wneud, yn enwedig pan fo problem yr unigolyn yn fwy o broblem iechyd na phroblem droseddol.
Cyn bo hir bydd Plaid Cymru yn amlinellu ein cynlluniau cyn etholiadau'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu i wneud cyllid yr heddlu yng Nghymru yn decach. Mae cymaint mwy y gallem ni ei wneud i fynd i'r afael ag ofn trosedd, i fod yn fwy gweladwy mewn cymunedau, i leihau troseddu ac aildroseddu, i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, i gefnogi dioddefwyr a mynd i'r afael â throseddau casineb. Ond, er mwyn gwneud hyn yn iawn, mae angen buddsoddiad teilwng yn yr heddlu. Mae'r Llywodraeth yn gwybod bod y setliad hwn yn annigonol, ac mae'n gwybod nad yw'r hyn sydd ger ein bron heddiw yn ddigon.
Rwy'n cytuno i raddau helaeth iawn â siaradwyr eraill yn y ddadl hon y prynhawn yma. Mae gan bob un ohonom ni ddyled fawr iawn i swyddogion heddlu ac i bawb sydd wedi bod yn gweithio ar y rheng flaen yn y gwasanaethau brys, yn enwedig dros y flwyddyn ddiwethaf gyda phwysau ychwanegol COVID a'r pwysau ychwanegol y maen nhw wedi gorfod eu hwynebu. Ac wrth dalu teyrnged iddyn nhw, ni ddylem ni geisio esgus nad ydyn nhw'n dioddef y pwysau sydd arnyn nhw, ac ni ddylem ni geisio esgus eu bod wedi cael y cyllid a'r adnoddau y maen nhw'n eu haeddu ac sydd eu hangen arnyn nhw.
Pe bawn i'n llefarydd ar ran y Ceidwadwyr yn y ddadl hon, mae'n debyg y byddwn i'n gwneud yr hyn a wnaeth Laura Jones, mewn gwirionedd, sef dewis blwyddyn—rwy'n credu iddi ddewis 2017—pan oedd cyllid ar ei isaf, ac yna dangos bod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi bod yn hael drwy roi rhywfaint o'r cyllid yr oedden nhw eu hunain eisoes wedi ei dorri o'r gyllideb yn ôl. Pe bai hi wedi bod yn gwbl onest yn ei hymagwedd, byddai hi wedi mynd yn ôl i 2013, oherwydd dyna'r pellaf yn ôl y gallwn ni fynd o dan y cymariaethau presennol, a byddai hi wedi edrych ar y cyllid a oedd ar gael i heddluoedd gan y Swyddfa Gartref yn 2013 a 2014. Rwyf i wedi gwneud hynny; yr oedd yn £240 miliwn, sy'n ffigur rhyfedd, oherwydd yr un ffigur hwnnw sydd yn y gyllideb gan y Swyddfa Gartref heddiw. Rydym ni wedi cael wyth mlynedd o gyllid sydd wedi ei dorri gan y Swyddfa Gartref a'i roi yn ôl yn ystod y ddwy neu dair blynedd diwethaf, felly mae cyllid y Swyddfa Gartref i heddluoedd Cymru heddiw yn union yr un fath mewn termau arian parod ag yr oedd yn ôl yn 2013 a 2014, ac mae ceisio esgus bod hynny mewn rhyw ffordd yn hael neu fod y Swyddfa Gartref a Llywodraeth y DU mewn rhyw ffyrdd yn cynyddu cyllid i'r heddlu yn hynod o ffuantus ac, mewn gwirionedd, yn anonest; nid yw'n dweud y gwir ynghylch cyllid yr heddlu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Ond mae gwireb arall yno hefyd, a hynny yw bod y Swyddfa Gartref wedi newid trwy ei thoriadau ei hun a thrwy strategaeth ehangach. O ran cydbwysedd y cyllid ar gyfer yr heddlu yn ôl yn 2013 neu 2014, roedd praesept y dreth gyngor fel rhan o gyllid cyffredinol yr heddlu yn ffurfio tua 37 y cant o gyfanswm y gyllideb a oedd ar gael i heddluoedd. Heddiw, 47 y cant yw'r ffigur hwnnw. Mae bron i hanner cyllid yr heddlu yng Nghymru heddiw yn cael ei godi yng Nghymru. Nid yw'n cael ei ddarparu gan y Swyddfa Gartref. Ac wrth gwrs, mae'r praesept cyfartalog wedi cynyddu o £198 yn 2013-14 i £274 heddiw. Ac mae hynny i ddisodli'r toriadau sydd wedi eu gwneud gan y Swyddfa Gartref i gyllid yr heddlu. Felly, gadewch i ni fod yn onest ynghylch y ddadl hon, a gadewch i ni fod yn onest ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hynny'n drasiedi i swyddogion heddlu unigol, mae'n drasiedi i'r gwasanaeth heddlu, ac mae'n drasiedi i'r cymunedau y mae angen yr heddlu arnyn nhw i'n cadw ni'n ddiogel. Mae angen i ni wneud rhywbeth ynglŷn â hynny.
Rwy'n cytuno â llawer o'r hyn yr oedd gan Leanne Wood i'w ddweud yn y ddadl hon, oherwydd nid yw'r mater ynghylch cymorth a strwythur plismona yn ymwneud â dosbarthiad troseddu yn unig; pe bai hynny'n wir, ni fyddai Llywodraeth y DU erioed wedi tynnu'r DU allan o system gyfiawnder yr UE, sef y peth mwyaf dinistriol sydd wedi ei wneud yn ystod y degawdau diwethaf, mae'n debyg, o ran mynd i'r afael â throseddu a dal troseddwyr, a dweud y gwir. Bydd mwy o bobl yn osgoi cyfiawnder heddiw oherwydd yr un penderfyniad hwnnw nag yr ydym ni wedi eu cael ar unrhyw adeg yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Ond mae angen i ni fynd ymhellach a gwneud mwy na hynny. Pe bai gennym ni system gyfiawnder a oedd yn addas i'w diben yng Nghymru, byddai gennym ni system gyfiawnder a fyddai'n ymdrin â materion y menywod ynddi. Nid ydym ni'n gwneud hynny. Ers canrifoedd, mae ein cyfiawnder troseddol wedi ei reoli gan San Steffan heb hidio dim am fuddiannau pobl Cymru. Nid oes un ganolfan ar gyfer menywod wedi'i sefydlu drwy gydol yr holl ddegawdau a chanrifoedd hynny o reolaeth ganolog, ac mae hynny'n drasiedi. Rydym ni'n gwybod hefyd, hyd at ychydig flynyddoedd yn ôl, nad oedd unrhyw gyfleuster diogel yn y gogledd, ac yna crëwyd uwchgarchar yn Wrecsam nad yw'n diwallu anghenion y gogledd, ond sydd yn diwallu anghenion y system gyfiawnder yn Lloegr i raddau helaeth.
Felly, nid oes gennym ni system cyfiawnder troseddol sy'n addas i'w diben. Nid oes gennym ni system cyfiawnder troseddol sy'n cael ei hariannu'n briodol. Dangosodd y ddadl a gawsom yn y ddadl ar y gyllideb yn glir iawn y bydd gennym ni Weinyddiaeth Gyfiawnder a fydd yn gweld toriadau pellach yn y pump neu chwe blynedd nesaf a bydd hynny'n arwain at fwy byth o bwysau ar yr heddlu a hyd yn oed mwy o bwysau ar y system cyfiawnder troseddol. Rwy'n credu nad geiriau cynnes a chydymdeimlad ac, a dweud y gwir, lefel o anonestrwydd, y mae'r heddlu yn ei ddymuno gan y Senedd hon; yr hyn y mae'n ei ddymuno yw cyllid ac adnoddau a'r gallu i gael ei strwythuro, ei lywodraethu'n briodol ymysg gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru, a bod yn atebol i'r cymunedau y maen nhw'n eu plismona, a'r gallu i wneud y gwaith.
Dwi nawr yn galw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl—Julie James.
Diolch, Llywydd. Hoffwn i ddiolch i'r Aelodau am eu diddordeb a'u cyfraniadau heddiw.
Unwaith eto, beth i'w ddweud wrth Laura Jones? Nid wyf i'n gwybod ai peidio â deall neu fod yn ffuantus y mae hi, fel y mae Alun yn ei ddweud. Ond i ailadrodd unwaith eto, mae'r cyllid sydd wedi ei ddarparu trwy Lywodraeth Cymru yn cyfrif am 35 y cant o'r cyllid grant refeniw craidd ar gyfer plismona yng Nghymru. Wrth gynnwys y dreth gyngor, mae 65 y cant o'r cyllid cyffredinol ar gyfer plismona yng Nghymru yn cael ei weinyddu yn y fan yma. Yn amlwg, byddai angen i unrhyw ddatganoli plismona sy'n digwydd ddod gyda'r cyllid priodol. Rwy'n cytuno'n llwyr â Leanne Wood ac Alun Davies ynglŷn â phwysigrwydd cael rheolaeth dros hynny er mwyn gwneud yr holl bethau y mae'r ddau ohonyn nhw wedi eu nodi, ac yr wyf i'n cytuno yn llwyr â nhw, a'n gallu i ariannu'r strategaethau hynny, o bosibl.
Mae Laura Anne Jones, rwy'n siŵr, yn gwybod bod Llywodraeth Cymru yn trosglwyddo'r swm y cytunwyd arno ac a drosglwyddir i Lywodraeth Cymru o Drysorlys Ei Mawrhydi a'r Swyddfa Gartref. Nid yw plismona wedi ei ddatganoli, fel y mae hi'n ymwybodol, rwy'n siŵr, ac yn amlwg nid yw'n briodol lleihau'r cyllid ar gyfer cyfrifoldebau datganoledig er mwyn ei gynyddu ar gyfer cyfrifoldebau nad ydyn nhw wedi eu datganoli. Rwy'n credu bod hynny yn amlwg ynddo'i hun. Felly, fel y dywedais i, roedd hi naill ai yn bod yn ffuantus neu mae hi wedi camddeall y diben yn sylfaenol. Rwyf i'n amau yn gryf, fel y dywedodd Alun Davies, mai dim ond ceisio gwneud pwynt gwleidyddol yn wael iawn yr oedd hi.
Hoffwn i ailadrodd unwaith eto fod diogelwch cymunedol yn amlwg yn brif flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, er ei bod yn ymddangos bod y setliad hwn yn un da ar y wyneb, fel y nododd Alun a Leanne, mewn gwirionedd mae'n arian parod digyfnewid o ran cyllid craidd, ac felly nid yw'n setliad da o gwbl mewn gwirionedd. Nid yw ond yn adfer yr heddlu i'r lle yr oedden nhw gynt.
Rwy'n gwybod bod rhai comisiynwyr heddlu a throsedd wedi mynegi pryder, er bod cyllid ychwanegol wedi ei ddarparu ar gyfer swyddogion newydd, fod cyllid annigonol o hyd ar gyfer y cyflenwadau presennol. Fodd bynnag, mae hwn yn fater, yn anffodus, i'r Swyddfa Gartref, gan nad yw wedi ei ddatganoli i ni, ac nid oes dim y gallwn ni ei wneud er mwyn gwneud yn iawn am hynny. Fodd bynnag, rydym ni wedi ymrwymo i weithio gyda chomisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid i sicrhau bod yr heriau hyn yn cael eu rheoli mewn ffyrdd sy'n cyfyngu ar yr effaith ar ddiogelwch cymunedol a phlismona rheng flaen yng Nghymru. Mae parhau i weithio mewn partneriaeth, fel erioed, i nodi a datblygu cyfleoedd yn bwysig iawn, fel y mae defnydd llwyddiannus ein 500 o swyddogion cymorth cymunedol yn ei ddangos, sydd wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i bresenoldeb gweladwy yr heddlu ar ein strydoedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fel ag erioed.
Ar y sail honno, Llywydd, rwy'n cymeradwyo'r setliad hwn i'r Senedd. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi yn gweld gwrthwynebiad—[Torri ar draws.]
Do, fe wnes i weld. Diolch.
Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.