Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 9 Mawrth 2021.
Pe bawn i'n llefarydd ar ran y Ceidwadwyr yn y ddadl hon, mae'n debyg y byddwn i'n gwneud yr hyn a wnaeth Laura Jones, mewn gwirionedd, sef dewis blwyddyn—rwy'n credu iddi ddewis 2017—pan oedd cyllid ar ei isaf, ac yna dangos bod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi bod yn hael drwy roi rhywfaint o'r cyllid yr oedden nhw eu hunain eisoes wedi ei dorri o'r gyllideb yn ôl. Pe bai hi wedi bod yn gwbl onest yn ei hymagwedd, byddai hi wedi mynd yn ôl i 2013, oherwydd dyna'r pellaf yn ôl y gallwn ni fynd o dan y cymariaethau presennol, a byddai hi wedi edrych ar y cyllid a oedd ar gael i heddluoedd gan y Swyddfa Gartref yn 2013 a 2014. Rwyf i wedi gwneud hynny; yr oedd yn £240 miliwn, sy'n ffigur rhyfedd, oherwydd yr un ffigur hwnnw sydd yn y gyllideb gan y Swyddfa Gartref heddiw. Rydym ni wedi cael wyth mlynedd o gyllid sydd wedi ei dorri gan y Swyddfa Gartref a'i roi yn ôl yn ystod y ddwy neu dair blynedd diwethaf, felly mae cyllid y Swyddfa Gartref i heddluoedd Cymru heddiw yn union yr un fath mewn termau arian parod ag yr oedd yn ôl yn 2013 a 2014, ac mae ceisio esgus bod hynny mewn rhyw ffordd yn hael neu fod y Swyddfa Gartref a Llywodraeth y DU mewn rhyw ffyrdd yn cynyddu cyllid i'r heddlu yn hynod o ffuantus ac, mewn gwirionedd, yn anonest; nid yw'n dweud y gwir ynghylch cyllid yr heddlu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Ond mae gwireb arall yno hefyd, a hynny yw bod y Swyddfa Gartref wedi newid trwy ei thoriadau ei hun a thrwy strategaeth ehangach. O ran cydbwysedd y cyllid ar gyfer yr heddlu yn ôl yn 2013 neu 2014, roedd praesept y dreth gyngor fel rhan o gyllid cyffredinol yr heddlu yn ffurfio tua 37 y cant o gyfanswm y gyllideb a oedd ar gael i heddluoedd. Heddiw, 47 y cant yw'r ffigur hwnnw. Mae bron i hanner cyllid yr heddlu yng Nghymru heddiw yn cael ei godi yng Nghymru. Nid yw'n cael ei ddarparu gan y Swyddfa Gartref. Ac wrth gwrs, mae'r praesept cyfartalog wedi cynyddu o £198 yn 2013-14 i £274 heddiw. Ac mae hynny i ddisodli'r toriadau sydd wedi eu gwneud gan y Swyddfa Gartref i gyllid yr heddlu. Felly, gadewch i ni fod yn onest ynghylch y ddadl hon, a gadewch i ni fod yn onest ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hynny'n drasiedi i swyddogion heddlu unigol, mae'n drasiedi i'r gwasanaeth heddlu, ac mae'n drasiedi i'r cymunedau y mae angen yr heddlu arnyn nhw i'n cadw ni'n ddiogel. Mae angen i ni wneud rhywbeth ynglŷn â hynny.
Rwy'n cytuno â llawer o'r hyn yr oedd gan Leanne Wood i'w ddweud yn y ddadl hon, oherwydd nid yw'r mater ynghylch cymorth a strwythur plismona yn ymwneud â dosbarthiad troseddu yn unig; pe bai hynny'n wir, ni fyddai Llywodraeth y DU erioed wedi tynnu'r DU allan o system gyfiawnder yr UE, sef y peth mwyaf dinistriol sydd wedi ei wneud yn ystod y degawdau diwethaf, mae'n debyg, o ran mynd i'r afael â throseddu a dal troseddwyr, a dweud y gwir. Bydd mwy o bobl yn osgoi cyfiawnder heddiw oherwydd yr un penderfyniad hwnnw nag yr ydym ni wedi eu cael ar unrhyw adeg yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Ond mae angen i ni fynd ymhellach a gwneud mwy na hynny. Pe bai gennym ni system gyfiawnder a oedd yn addas i'w diben yng Nghymru, byddai gennym ni system gyfiawnder a fyddai'n ymdrin â materion y menywod ynddi. Nid ydym ni'n gwneud hynny. Ers canrifoedd, mae ein cyfiawnder troseddol wedi ei reoli gan San Steffan heb hidio dim am fuddiannau pobl Cymru. Nid oes un ganolfan ar gyfer menywod wedi'i sefydlu drwy gydol yr holl ddegawdau a chanrifoedd hynny o reolaeth ganolog, ac mae hynny'n drasiedi. Rydym ni'n gwybod hefyd, hyd at ychydig flynyddoedd yn ôl, nad oedd unrhyw gyfleuster diogel yn y gogledd, ac yna crëwyd uwchgarchar yn Wrecsam nad yw'n diwallu anghenion y gogledd, ond sydd yn diwallu anghenion y system gyfiawnder yn Lloegr i raddau helaeth.
Felly, nid oes gennym ni system cyfiawnder troseddol sy'n addas i'w diben. Nid oes gennym ni system cyfiawnder troseddol sy'n cael ei hariannu'n briodol. Dangosodd y ddadl a gawsom yn y ddadl ar y gyllideb yn glir iawn y bydd gennym ni Weinyddiaeth Gyfiawnder a fydd yn gweld toriadau pellach yn y pump neu chwe blynedd nesaf a bydd hynny'n arwain at fwy byth o bwysau ar yr heddlu a hyd yn oed mwy o bwysau ar y system cyfiawnder troseddol. Rwy'n credu nad geiriau cynnes a chydymdeimlad ac, a dweud y gwir, lefel o anonestrwydd, y mae'r heddlu yn ei ddymuno gan y Senedd hon; yr hyn y mae'n ei ddymuno yw cyllid ac adnoddau a'r gallu i gael ei strwythuro, ei lywodraethu'n briodol ymysg gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru, a bod yn atebol i'r cymunedau y maen nhw'n eu plismona, a'r gallu i wneud y gwaith.