Part of the debate – Senedd Cymru am 6:37 pm ar 9 Mawrth 2021.
Diolch, Llywydd, am y cyfle hwn i wneud cyfraniad byr at yr hyn sydd, yn fy marn i, yn achlysur pwysig heddiw. Bydd pasio'r Bil hwn, yn ogystal â gosod y fframwaith cyfreithiol ar gyfer adolygiad cyntaf y cwricwlwm ers dros 30 mlynedd—hwn fydd ein Cwricwlwm cyntaf i Gymru, wedi ei datblygu ar y cyd â'r proffesiwn ac wedi ei wneud yng Nghymru. Ac os bu amser erioed ar gyfer cwricwlwm sydd wedi ei wreiddio mewn lles, hon yw'r adeg honno, ar ôl popeth y mae ein plant a'n pobl ifanc wedi bod drwodd.
Er gwaethaf cyfyngiadau'r pandemig a'r trafodion rhithwir, fe wnaeth y pwyllgor ymgymryd â phroses Cyfnod 1 lawn, ac rwy'n gobeithio y bydd unrhyw un sydd wedi darllen ein hadroddiad Cyfnod 1 yn cytuno ein bod ni wedi gwneud ein gorau i wneud cyfiawnder â'r Bil hwn. Felly, hoffwn i ddiolch i'r pwyllgor cyfan am eu gwaith caled ar y Bil hwn, ond hefyd i ddiolch yn arbennig iawn i fy nhîm pwyllgor i. Gweithiodd Llinos Madeley a Michael Dauncey yn anhygoel o galed, gan fynd i'r afael â rhai materion cymhleth a heriol iawn, ac maen nhw wedi rhoi cefnogaeth hollol wych i waith y pwyllgor ar y Bil hwn. A gan ei bod yn ddigon posibl mai hwn fydd fy nghyfle olaf i wneud hyn yn y Siambr, hoffwn i hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch i dîm cyfan y pwyllgor, yn clercio ac yn ymchwilio, am y gefnogaeth gwbl ryfeddol y maen nhw wedi ei rhoi i mi a gweddill y pwyllgor yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Diolch o galon.
Hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am ei pharodrwydd cyson i ymgysylltu â'r pwyllgor a gwrando arno drwy gydol y broses gyfan hon. Rwyf i wedi credu erioed bod craffu cryf gan bwyllgorau yn darparu gwell Lywodraeth, ac mae tystiolaeth amlwg iawn o hyn, yn fy marn, yn y Bil hwn, a hefyd i ddiolch i'w swyddogion, sydd, yn fy marn i, wedi gwneud popeth yn eu gallu i ymgysylltu â'r pwyllgor, trefnu sesiynau briffio ychwanegol a bod yno bob tro i ymateb i'n hymholiadau. Felly, fy niolch o galon iddyn nhw hefyd.
Yn benodol, rwyf i wrth fy modd bod y Gweinidog wedi cytuno i roi iechyd meddwl ar wyneb y Bil hwn, gan nodi bod iechyd meddwl, yn ogystal â bod yn agwedd hollbwysig ar yr hyn sy'n cael ei addysgu yn ein cwricwlwm newydd, ei fod hefyd yn ystyriaeth ar draws y system gyfan i lywio pob penderfyniad yn ymwneud â'r cwricwlwm. Bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth mor enfawr a sylfaenol i bobl ifanc yng Nghymru. Ac wrth ddweud hynny, hoffwn i ddiolch i Samariaid Cymru a Mind Cymru sydd wedi gweithio mor galed gyda mi y tu ôl i'r llenni i wthio am y gwelliant hwn. Wrth gwrs, mae mwy o waith i'w wneud, ac rwy'n siŵr na fydd y Gweinidog yn synnu fy nghlywed i'n dweud fy mod i'n edrych ymlaen, os caf i fy ailethol, at weithio gyda'i holynydd i sicrhau bod y ddyletswydd newydd yn cael ei chefnogi gan ganllawiau cryf a'i bod wedi'i chysylltu'n glir â'r gwaith sy'n cael ei wneud ar ddull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl.
Ond wrth gloi heddiw, hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno—a Llywodraeth Cymru gyfan—y darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth. Nid oes gen i unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd hyn yn gwneud cyfraniad enfawr at sicrhau bod gennym ni blant a phobl ifanc cyflawn, llwyddiannus ac, yn anad dim, iach eu meddwl yng Nghymru. Diolch o galon.