16. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:33 pm ar 9 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 6:33, 9 Mawrth 2021

Mae Plaid Cymru yn cefnogi'r cyfeiriad y mae'r cwricwlwm addysg newydd yn mynd â ni. Mae pobl ifanc Cymru wedi bod yn crefu am gael dysgu sgiliau sy'n addas ar gyfer bywyd a byd gwaith cyfoes. Rydyn ni hefyd yn credu mewn grymuso athrawon a rhoi'r rhyddid iddyn nhw gynnal eu dysgu mewn ffordd greadigol. Mae'r pwyslais ar ddatblygiad a chynnydd yr unigolyn hefyd i'w groesawu'n fawr. Mae galluogi pob person, beth bynnag fo'r amgylchiadau, i gyrraedd eu llawn potensial yn greiddiol i'n gwerthoedd fel cenedl.

Mae cyfle gwirioneddol, drwy'r cwricwlwm, i ddechrau trawsffurfio'r gyfundrefn addysg yng Nghymru. Os ydy o am wreiddio'n iawn, mae'n hathrawon ni'n mynd i fod angen y gofod a'r cyfle i ddod i adnabod gofynion y cwricwlwm newydd yn llawn. Mae hyn yn bwysicach nac erioed yn sgil COVID, pan fydd cymaint o heriau'n wynebu ein hysgolion ni. Ond dwi'n cytuno efo'r Gweinidog y gall y pwyslais ar anghenion y cwricwlwm newydd fod yn fuddiol yn yr adferiad, efo'r pwyslais ardderchog sydd ynddo fo ar lesiant meddyliol.

Os ydy'r cwricwlwm am lwyddo, mae rhoi cyfle i'n hathrawon ni i addasu yn hollbwysig, ac i wneud hynny fe fydd angen cefnogaeth athrawon llanw, a bydd hynny'n amhrisiadwy. Mi fydd hefyd angen adnoddau dysgu digonol, ac i gyflawni hynny, mae angen chwistrelliad o fuddsoddiad ariannol newydd i gyrraedd yr ysgolion. Mae hefyd angen alinio'r gyfundrefn asesu a'r gyfundrefn atebolrwydd ysgolion i'r cwricwlwm newydd, ailddylunio cymwysterau, a symud i ffwrdd o arholiadau a thuag at asesu parhaus. Mae'r pwyslais ar gynnydd yr unigolyn angen ei adlewyrchu yn y ffordd yr ydym yn asesu hefyd.

Troi at y ddeddfwriaeth—y Bil—sydd gerbron heddiw, dwi yn credu bod y Bil ei hun yn wallus. Does yna ddim cysondeb ynddo fo, oherwydd mae o'n pwysleisio rhai elfennau mandadol, ond yn gwrthod cynnwys rhai eraill. Tra'n cyd-fynd efo cynnwys cyd-berthynas ac addysg ryw, a chynnwys crefydd, gwerthoedd a moeseg ar wyneb y Bil, fe wnaeth Plaid Cymru ddadlau dros gynnwys yn fandadol ddwy agwedd arall allai hefyd gyfrannu tuag at greu trawsnewidiad cymdeithasol pellgyrhaeddol, sef hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth, gan gynnwys hanes pobl ddu a phobl o liw, ac addysg amgylcheddol, yn cynnwys newid hinsawdd.

Tra bydd sicrwydd y bydd y ddwy elfen drawsnewidiol sydd ar wyneb y Bil yn cael eu dysgu, does dim sicrwydd y bydd y ddwy agwedd arall yn cael y sylw haeddiannol, ac i mi mae hynny'n wendid sylfaenol yn y Bil. Dydy canllawiau ddim digon da. Mae'n hawdd iawn cael gwared ar ganllawiau a'u newid, yn wahanol iawn i faterion sydd yn gadarn statudol ar wyneb y Bil.

Dwi ddim wedi cael esboniad rhesymegol sydd wedi fy argyhoeddi pam na ddylid cynnwys y gwelliannau rhoesom ni gerbron a oedd hefyd yn cynnwys cryfhau'n sylweddol y ffordd y dysgir yr iaith Gymraeg yn ein hysgolion ni. Felly, fe fyddwn ni yn pleidleisio yn erbyn y ddeddfwriaeth, ac fe fyddwn ni, mewn Llywodraeth, yn chwilio am gyfle cynnar i'w ddiwygio.