Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 9 Mawrth 2021.
Llywydd, i gynorthwyo busnesau i adfer yn sgil COVID-19, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu'r pecyn cymorth mwyaf hael o'i gymharu ag unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Ddydd Mercher diwethaf, cyhoeddodd y Gweinidog cyllid y bydd ein cynllun rhyddhad ardrethi busnes 100 y cant, sy'n cynorthwyo dros 70,000 o fusnesau, yn parhau drwy'r holl flwyddyn ariannol nesaf.