1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 9 Mawrth 2021.
4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o berfformiad Cadw ledled Gogledd Cymru? OQ56393
Llywydd, mae Cadw yn parhau i gyflawni ei gyfrifoldebau statudol, ac i gynnal ei geidwadaeth o safleoedd ledled Cymru, mewn ffyrdd sy'n cadw at y cyfyngiadau sy'n angenrheidiol oherwydd argyfwng y coronafeirws.
Diolch. Prif Weinidog, roedd Neuadd Cinmel yn y penawdau unwaith eto yn ddiweddar. Mae wedi cael ei alw yn Versailles Cymru, ond mae wedi dadfeilio i gyflwr peryglus, ac mae'r darn hwn o dreftadaeth Cymru mewn perygl difrifol iawn o gael ei golli am byth, er ei fod yn adeilad rhestredig gradd I. Rwy'n gweld mai un o flaenoriaethau cyntaf Cadw yw gofalu am yr amgylchedd hanesyddol. Prif Weinidog, beth yw diben y system restru a beth yw diben Cadw os nad yw'r naill na'r llall yn diogelu treftadaeth Cymru? Diolch.
Llywydd, diolchaf i Mandy Jones am hynna, ac rwy'n rhannu ei phryderon am Neuadd Cinmel a'r adroddiadau am y dirywiad i gyflwr yr adeilad y byddaf i a hithau wedi eu darllen mewn adroddiadau. Fodd bynnag, dyma'r sefyllfa: Mae Neuadd Cinmel yn gyfleuster sy'n eiddo preifat; nid yw mewn perchnogaeth gyhoeddus. Mae Cadw wedi cyflawni ei gyfrifoldeb, sef rhestru'r adeilad. Ar ôl hynny, mater i'r awdurdod lleol—yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr bod yr adeilad yn cael ei gynnal mewn cyflwr sy'n cyfateb i'r rhestriad y mae Cadw wedi ei ddyfarnu iddo. Ac mae gan yr awdurdod lleol y grym i gyhoeddi atgyweiriadau statudol a hysbysiadau gwaith brys. Nawr, rwy'n deall, er bod y perchnogion presennol yn y gorffennol wedi bod yn amharod i gydnabod yr angen i weithredu i fynd i'r afael â chyflwr yr adeilad, yn fwy diweddar, bu mwy o awydd ar eu rhan i gymryd y camau sy'n angenrheidiol, a bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy mewn trafodaethau gyda nhw i wneud yn siŵr bod y camau hynny yn cael eu cymryd. Mae Cadw yn dal i gymryd rhan, ond mewn swyddogaeth ategol i'r awdurdod cynllunio lleol, gan roi dewisiadau iddyn nhw sydd ar gael i ddiogelu'r busnes—yr adeilad, mae'n ddrwg gen i. Ond nid cyfrifoldeb Cadw, ar ôl i'r rhestriad gael ei wneud, yw gwneud yn siŵr bod yr adeilad yn cael ei gadw mewn cyflwr priodol. Cyfrifoldeb y perchnogion yw hynny, a phan fo'r perchnogion yn methu â chyflawni'r cyfrifoldeb hwnnw, mater i'r awdurdod lleol yw dod i'r amlwg a gwneud yn siŵr bod y camau y dylid eu cymryd yn cael eu cymryd.
Prif Weinidog, rwyf i wedi gwrando yn astud iawn ar eich ateb am Neuadd Cinmel, sydd, fel y gwyddoch, yn fy etholaeth i. Mae'n adeilad gwerthfawr iawn, mae'n rhan bwysig iawn o'n treftadaeth genedlaethol ni fel cenedl, ac, wrth gwrs, mae gan Lywodraeth Cymru y gallu i gamu i mewn, caffael yr adeilad hwn, a gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Fel y byddwch chi'n gwybod, mae Cadw nid yn unig yn gweithio gydag awdurdodau lleol ac yn rhestru adeiladau, maen nhw mewn gwirionedd yn gweithredu fel ceidwad ar gyfer llawer o adeiladau hanesyddol pwysig ledled Cymru. Felly, hoffai fy etholwyr weld Llywodraeth Cymru a Cadw yn gweithio gyda'r awdurdod lleol a'r perchnogion presennol, ond pan nad oes gan y perchnogion presennol hynny yr awydd na'r adnoddau i ddiogelu'r adeilad hwn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, a gaf i ofyn: a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried camu i mewn a chaffael yr adeilad hwn yn rhan o'n treftadaeth genedlaethol? Dyma gartref gwledig mwyaf Cymru, fe'i gelwir yn Versailles Cymru, ac mae'n haeddu'r lefel ychwanegol honno o ddiogelwch nad oes ei hangen ar adeiladau eraill a allai fod mewn cyflwr adfeiliedig tebyg. Felly, a allwch chi gamu i mewn os bydd yr angen yn codi?
Llywydd, diolchaf i Darren Millar am y cyfraniad yna, ac rwy'n rhannu llawer o'r hyn y mae wedi ei ddweud am arwyddocâd Neuadd Cinmel, ei phwysigrwydd i Gymru gyfan. Lle mae Cadw yn gyfrifol am gynnal a chadw henebion, adeiladau a safleoedd, y rheswm yw bod y safleoedd hynny mewn perchnogaeth gyhoeddus, ac nad yw Neuadd Cinmel mewn perchnogaeth gyhoeddus, mae ganddi berchnogion preifat, a hyd y gwn i, nid yw'r perchnogion hynny erioed wedi dangos awydd i'r adeilad gael ei dynnu allan o'u perchnogaeth a chael ei gaffael gan y Llywodraeth ar ran poblogaeth Cymru yn fwy cyffredinol. Byddai'n gam mawr iawn, oni fyddai, i'r Llywodraeth dynnu adeilad o berchnogaeth breifat yn orfodol, ac nid dyna fyddai fy newis i o ran ffordd o weithredu. Os oes awydd ar ran y perchnogion am wahanol fodel perchnogaeth yn y dyfodol, yna, wrth gwrs, byddai Llywodraeth Cymru yn rhan o'r sgwrs honno. Nid ni yw'r unig bosibilrwydd yn hynny o beth, wrth gwrs. Gwn y bydd Darren Millar yn ymwybodol iawn o weithrediad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yma yng Nghymru, ac mae nifer o ffyrdd y gall adeiladau preifat wneud eu ffordd i fathau ehangach o berchnogaeth â gwahanol lefelau o warchodaeth ar gyfer y dyfodol.