Mynediad i Addysg Bellach ac Uwch

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 9 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:39, 9 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £40 miliwn mewn swyddi a sgiliau eleni, gan gynorthwyo unigolion sy'n chwilio am gyflogaeth neu hyfforddiant newydd neu amgen. Mae ein rhaglen cyfrif dysgu personol yn helpu pobl gyflogedig i wella eu sgiliau neu ailsgilio mewn sectorau â blaenoriaeth, gan ddarparu dysgu mewn modd hyblyg gan ystyried gwaith ac ymrwymiadau eraill presennol pob unigolyn, ac yn gwneud hynny drwy golegau ledled Cymru.