1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 9 Mawrth 2021.
2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad i addysg bellach ac uwch i weithwyr yng Nghymru a allai fod yn bwriadu ailhyfforddi? OQ56422
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £40 miliwn mewn swyddi a sgiliau eleni, gan gynorthwyo unigolion sy'n chwilio am gyflogaeth neu hyfforddiant newydd neu amgen. Mae ein rhaglen cyfrif dysgu personol yn helpu pobl gyflogedig i wella eu sgiliau neu ailsgilio mewn sectorau â blaenoriaeth, gan ddarparu dysgu mewn modd hyblyg gan ystyried gwaith ac ymrwymiadau eraill presennol pob unigolyn, ac yn gwneud hynny drwy golegau ledled Cymru.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Roeddwn i'n falch iawn o weld yng nghyllideb eich Llywodraeth yr ymrwymiad i ehangu'r rhaglen cyfrif dysgu personol. Nawr, mae'r rhaglen hon, fel y dywedwch, yn rhoi cymorth hanfodol i weithwyr cyflogedig, ond hefyd i'r gweithwyr hynny sydd ar ffyrlo ac unigolion sydd mewn perygl o gael eu diswyddo. Rydym ni'n gwybod mai un o effeithiau pandemig y coronafeirws fu colli swyddi a mwy o betruso ymhlith busnesau o ran buddsoddi, a fyddai wedi creu swyddi newydd ac wedi cynnig mwy o gyfleoedd i'r rhai sy'n chwilio am waith. Mae cynllun Llywodraeth Cymru i gynorthwyo pobl i ennill sgiliau a chymwysterau lefel uwch mewn sectorau blaenoriaeth erbyn hyn yn paratoi ein gweithlu ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd wrth i ni weld yr economi yn adfer. A allech chi, felly, roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa hon a sut y bydd yn cael ei darparu i'r unigolion hynny?
Llywydd, diolchaf i David Rees am y cwestiwn pwysig yna. Gwn fod fy nghyd-Weinidog Rebecca Evans, fel Gweinidog cyllid, yn awyddus iawn i ddod o hyd i gyllid ychwanegol ar gyfer y rhaglen cyfrif dysgu personol—£5.4 miliwn o gyllid ychwanegol yn y fan honno—oherwydd y llwyddiant ysgubol a fu eisoes. Ac, fel y dywedodd David Rees, Llywydd, i weithwyr mae'n cynnig cyrsiau a chymwysterau sy'n cael eu hariannu yn llawn gan Lywodraeth Cymru, wedi'u trefnu i fod yn hylaw o amgylch ymrwymiadau presennol yr unigolion hynny. Maen nhw ar gael waeth beth fo cymwysterau blaenorol pobl, ac mae 3,000 o bobl eisoes wedi dechrau cyrsiau cyfrif dysgu personol ac mae gennym ni 6,000 a mwy o geisiadau ar gyfer y cynllun.
Ac i gyflogwyr, Llywydd, mae'n cynnig cynllun hyblyg ac ymatebol sydd â'r nod o oresgyn prinder sgiliau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, sy'n benodol i'r sector, wedi'i dargedu at ardaloedd twf newydd ac uchel yn yr economi werdd, peirianneg, adeiladu, yr economi ddigidol ac mewn gweithgynhyrchu uwch. Ac yn y modd hwnnw, fel y mae David Rees yn ei ddweud, byddwn yn datblygu cronfa o weithwyr medrus ac ymroddedig sy'n barod i fanteisio ar y cyfleoedd newydd hynny a denu'r cyfleoedd newydd hynny i rannau o Gymru, gan greu swyddi'r dyfodol.
Hyd yn oed cyn y pandemig, Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno bod ffurf yr economi fyd-eang yn newid, a dyna pam, gan gydnabod hyn, y bydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn ogystal â ReAct, yn cyflwyno cronfa ail gyfle i helpu unrhyw un o unrhyw oedran i astudio ar gyfer cymwysterau lefel 3 yn y coleg i'w helpu i symud o'r fagl cyflog isel, sgiliau isel i fyny'r ysgol yrfaol waeth ble y dechreuon nhw. A dyna'r meddylfryd sy'n sail i'n cynlluniau ar gyfer cynyddu prentisiaethau gradd hefyd. Onid ydych chi'n cytuno, serch hynny, bod llwybrau i ragoriaeth wedi culhau o dan y Llywodraeth hon yng Nghymru ac, yn hytrach na sianelu pawb drwy raddau Meistr, y dylem ni fod yn edrych ar ddoniau ac agweddau i sicrhau bod mwy o bobl yng Nghymru yn cael y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo yn bersonol ac i gredu eu bod nhw'n chwarae rhan werthfawr i helpu ein gwlad i ffynnu?
Wel, rwy'n cytuno â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud am natur newidiol yr economi fyd-eang a'r angen i'r Llywodraeth barhau i fuddsoddi yn y sgiliau y bydd eu hangen ar ein gweithlu i wynebu'r dyfodol hwnnw. Nid wyf i, wrth gwrs, yn cytuno o gwbl â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am gyfleoedd yn culhau. Mae cyfleoedd dros y pum mlynedd diwethaf wedi ehangu yn aruthrol oherwydd y newidiadau yr ydym ni wedi eu gwneud ym maes addysg uwch. Yn dilyn adolygiad Diamond, mae gennym ni'r niferoedd uchaf erioed o fyfyrwyr mewn addysg uwch yng Nghymru, gan greu cyfleoedd yn enwedig i bobl sydd eisiau astudio yn rhan-amser ar lefel nad yw'n cael ei weld yn unman arall yn y Deyrnas Unedig.
Rwy'n falch o gael cefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig i raglen prentisiaeth gradd Llywodraeth Cymru: buddsoddwyd £20 miliwn yn y rhaglen arloesol hon yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae 200 o gyflogwyr yn rhan ohoni a 600 o fyfyrwyr. Mae'n enghraifft arall o'r ffyrdd arloesol y mae Llywodraeth Cymru wedi ehangu cyfleoedd drwyddynt, ochr yn ochr â'r cyfrifon dysgu personol y cyfeiriodd David Rees atyn nhw—ystod eang o ffyrdd y mae pobl yng Nghymru yn gallu manteisio erbyn hyn ar gyfleoedd i ailsgilio ac uwchsgilio a fydd yn gwneud yn siŵr, pan fydd y cyfleoedd hynny ar gael, bod gennym ni weithlu yma yng Nghymru sy'n barod i fanteisio arnyn nhw.