1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 9 Mawrth 2021.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y defnydd o gyllid sydd heb ei ddyrannu yng nghyllideb flynyddol y llynedd? OQ56385
A gaf i ddiolch i Huw Irranca-Davies am hynna, Llywydd? Mae trydedd gyllideb atodol y flwyddyn ariannol hon, a fydd yn cael ei thrafod yn y Senedd yn ddiweddarach y prynhawn yma, yn cwblhau ein cynlluniau gwariant cyllidol. O gyfanswm yr adnoddau sydd ar gael o £23.3 biliwn, mae 99.6 y cant o'r arian hwnnw wedi ei ymrwymo gan Lywodraeth Cymru fel y nodir yn y drydedd gyllideb atodol.
Prif Weinidog, diolch i chi am egluro hynna, a gofynnais y cwestiwn hwn i chi gan fod Llywodraeth Cymru, er iddi ddyrannu'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud wrthym ni oedd yn 99.6 y cant o'i adnodd, wedi ei beirniadu yn barhaus gan y Torïaid yma yng Nghymru, ac ar yr un pryd mae gan eu Canghellor yn San Steffan gronfa COVID wrth gefn sy'n £19 biliwn ar hyn o bryd. Felly, Prif Weinidog, mae'n amlwg erbyn hyn pe byddai Llywodraeth Cymru wedi gwario ei holl sicrwydd COVID a oedd ar gael erbyn mis Hydref 2020, fel yr awgrymwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig yng Nghymru, yna ni fyddech chi wedi gallu cyfateb y cyfnod atal byr a chyfyngiadau'r Nadolig gyda'r cymorth busnes pellgyrhaeddol a roddwyd ar waith yn gyflym. Nawr, os oes un cysondeb, Prif Weinidog, gyda'r blaid Geidwadol yng Nghymru ar hyn o bryd, ffugio dicter pan fydd ein Llywodraeth ni yng Nghymru yn gwneud y penderfyniadau cywir i gadw Cymru yn ddiogel yw hwnnw, dim ond i ymdawelu pan fydd eu plaid nhw yn San Steffan yn dilyn ein hesiampl Felly, a ydych chi'n cytuno â mi bod y Ceidwadwyr Cymreig erbyn hyn mor bell oddi ar radar Rishi Sunak fel eu bod nhw'n teimlo'n hyderus na fydd hyd yn oed yn sylwi pan fyddan nhw'n ymosod arno ef a'i bolisïau yn anfwriadol?
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â Huw Irranca-Davies. Mae'n sicr mai un peth yw peidio â gallu bod yn ddoeth cyn y digwyddiad, a dyna'n sicr yw hanes plaid Geidwadol Cymru, ond mae'n blaid sydd ddim hyd yn oed yn llwyddo i fod yn ddoeth ar ôl y digwyddiad, ychwaith. Pe byddem ni wedi cymryd cyngor y blaid honno yn ôl ym mis Hydref, yna, wrth gwrs, mae Huw Irranca-Davies yn iawn, ni fyddem ni wedi bod mewn sefyllfa o gwbl i gynorthwyo busnesau Cymru yn y ffordd yr ydym ni wedi ei wneud yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol bresennol. Yn ôl ym mis Hydref, roeddem ni wedi gwario dwy ran o dair o'n cyllideb ddwy ran o dair o'r ffordd i mewn i'r flwyddyn ariannol hon. Roeddem ni wedi gwario tri chwarter ein cyllideb pan oeddem ni dri chwarter y ffordd drwy'r flwyddyn ariannol, ac fel y dywedais i yn fy ateb gwreiddiol, ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, byddwn ni wedi gwario 99.6 y cant o'r holl arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, ac mae hwnnw, Llywydd, yn batrwm sydd wedi ei ailadrodd flwyddyn ar ôl blwyddyn yn ystod holl gyfnod datganoli. Bob blwyddyn, mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn defnyddio'r cyllid mwyaf posibl sydd ar gael gennym ni i gynorthwyo busnesau a gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Ac mae ein record hanes yn cymharu yn eithriadol o ffafriol ag adrannau Llywodraeth y DU, nad ydyn nhw byth yn rheoli unrhyw beth tebyg i'r un gyfatebiaeth rhwng yr arian sydd ar gael a'r gallu i'w ddefnyddio yn dda. Mae hanes Llywodraeth Cymru yn y fan yma yn gallu gwrthsefyll archwiliad gan unrhyw un, ac mae cyngor Plaid Geidwadol Cymru a'r lol, y lol llwyr, a gynigiwyd ganddyn nhw i bobl yn ôl ym mis Hydref wedi cael ei amlygu yn eglur iawn ers hynny gan y digwyddiadau a ddaeth i'r amlwg ers hynny.
Caiff cronfa wrth gefn Llywodraeth Cymru ddal hyd at £350 miliwn; ar 1 Ebrill 2020, roedd y balans yn £335.9 miliwn. Dair wythnos yn ôl, cytunodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar hyblygrwydd ychwanegol, y tu hwnt i gronfa wrth gefn Cymru, yn parhau i 2021-22, gan alluogi Llywodraeth Cymru i gario drosodd unrhyw elfen heb ei dyrannu o'r £650 miliwn ychwanegol a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU i mewn i flwyddyn ariannol 2021-22, ar ben y ddarpariaeth bresennol i drosglwyddo cyllid rhwng blynyddoedd. Yn y flwyddyn ariannol hon, mae Llywodraeth Cymru yn cario tua £660.2 miliwn o gyllid ychwanegol 2020-21 drosodd i 2021-22. Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiad alldro ar gyfer 2020-21, gyda lefel debyg o fanylder i'r adroddiad ar gyfer 2019-20. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i hyn, a sut y byddwch chi'n sicrhau tryloywder ychwanegol o ran cyllidebau Llywodraeth Cymru pan fo Llywodraeth Cymru, er enghraifft, wedi methu â dyrannu dim o gyllid ychwanegol Llywodraeth y DU, yn wahanol i'r Alban, sy'n golygu eich bod chi wedi methu â dyrannu £1.3 biliwn yn y gyllideb y mae eich Llywodraeth yn ei chyhoeddi heddiw?
Wel, Llywydd, nid wyf i'n credu y bydd y Llywodraeth hon angen unrhyw wersi gan yr Aelod ar fwy o dryloywder. Dyma'r drydedd gyllideb atodol yr ydym ni wedi ei gosod yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Mae'n nodi yn gwbl fanwl yr holl ffyrdd y defnyddiwyd yr arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Ni chyhoeddodd ei Lywodraeth ef, ei Lywodraeth ef yn San Steffan, unrhyw gyllideb atodol, a dim ond, yn hwyr iawn yn y flwyddyn, wythnosau lawer yn ddiweddarach nag yr oedden nhw wedi ei addo, pan gynhyrchwyd yr amcangyfrifon, y darparwyd yr arian ychwanegol ac, yn synhwyrol o'r diwedd, cytunodd y Trysorlys ei bod hi'n rhy hwyr yn y flwyddyn ariannol i'r arian hwnnw gael ei ddefnyddio yn synhwyrol ac y ceid ei gario drosodd i'r flwyddyn ariannol nesaf. Dyna'n union, felly, y mae fy nghyd-Weinidog Rebecca Evans yn bwriadu ei wneud.
Rydym ni wedi adrodd yn ffyddlon ac yn rheolaidd ar bob penderfyniad gwario yr ydym ni wedi ei wneud i'r Senedd, yn wahanol iawn i berfformiad ei blaid ef ar lefel y DU. Wrth gwrs y byddwn ni'n cyhoeddi adroddiad alldro. Mae hynny'n digwydd bob blwyddyn, fel mater o drefn. Mae'n rhaid i ni adrodd ar ganlyniad terfynol ein cyllideb, a byddwn ni'n gwneud yn union hynny. Mae'n siom fawr i mi bod y Canghellor wedi gwrthod, ac yn parhau i wrthod, caniatáu unrhyw hyblygrwydd ychwanegol i ni gyda'n harian ein hunain, Llywydd. Dyna'r hyn yr ydym ni wedi gofyn amdano o ran cronfa wrth gefn Cymru. Nid ydym ni wedi gofyn am yr un geiniog ychwanegol gan y Canghellor; rydym ni wedi gofyn yn syml am y gallu i'r arian sydd gennym ni fel Llywodraeth gael ei reoli gennym ni mewn ffordd a fyddai'n sicrhau'r gwerth mwyaf posibl o'r arian cyhoeddus hwnnw ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Yn hytrach, rydym ni'n dal i gael ein trin gan Lywodraeth y DU fel pe byddem ni'n adran arall o'r Llywodraeth, yn hytrach na Llywodraeth a Senedd yn ein rhinwedd ein hunain. Ac rwy'n credu bod honno ddim ond yn un enghraifft arall o'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn parhau i wrthod cydnabod gwirioneddau'r Deyrnas Unedig ar ôl 20 mlynedd o ddatganoli.
Cwestiwn 6, Lynne Neagle.
Ni allaf eich clywed chi ar hyn o bryd, Lynne Neagle. Gallaf weld eich bod chi wedi dad-dawelu, ond a ydych chi wedi eich tawelu yn ganolog ar eich—?
A wnaf i roi cynnig arall arni? A yw hynna'n well?
Ydy, mae'n llawer gwell yr eildro. Diolch.