Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 9 Mawrth 2021.
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Llywydd, mae cronfa her yr economi sylfaenol wedi cefnogi prosiect Rhondda Skyline i adeiladu ar ei astudiaeth o ddichonoldeb ac ymchwilio i sefydlu prosiect stiwardiaeth tir cymunedol, hirdymor cyntaf Cymru ar raddfa tirwedd o amgylch tref Treherbert.