– Senedd Cymru am 2:50 pm ar 9 Mawrth 2021.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r ddadl ar y pedair set o reoliadau newid hinsawdd wedi'i gohirio tan yr wythnos nesaf. Mae'r busnes drafft ar gyfer y pythefnos sydd ar ôl o'r tymor wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Rwy'n galw am un datganiad gan Lywodraeth Cymru ar gefnogaeth i reilffordd Llangollen. Cyhoeddodd cyfarwyddwyr y rheilffordd treftadaeth wych hon yr wythnos diwethaf eu bod, yn anfoddog, wedi cymryd y cam o wahodd eu banc i benodi derbynnydd. Dywedodd bwrdd yr ymddiriedolaeth y bydd angen cymryd camau i drafod gyda'r derbynnydd er mwyn ceisio sicrhau'r rheilffordd a chadw cerbydau a seilwaith gyhyd â phosibl. Bwriedir ailddechrau gweithredu maes o law ond mae hyn yn dibynnu ar gymeradwyaethau cyfreithiol a rheoliadol, gan gynnwys trwyddedu, a bydd pob un ohonynt yn amlwg yn cymryd amser.
Gallai effaith hyn ar eu staff, gwirfoddolwyr, cwsmeriaid, cyflenwyr, perchnogion locomotifau a'u sefydliadau, ac unrhyw un arall sydd â chysylltiadau â'r rheilffordd, fod yn ddifrifol, yn ogystal â'r effaith ehangach bosibl ar yr economi ymwelwyr yn Llangollen a ledled dyffryn Dyfrdwy. Felly, gofynnwyd imi godi hyn yn Senedd Cymru a rhybuddio'r Prif Weinidog a gofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn unol â hynny.
Rwy'n ddiolchgar i Mark Isherwood am godi mater rheilffordd Llangollen yn y Siambr y prynhawn yma, ac mae'n sefyllfa sy'n peri pryder, fel y mae'n ei disgrifio. Rwy'n ei wahodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn y lle cyntaf, ac rwy'n gwybod y bydd ef yn trafod y mater hwn gyda Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a'r Gogledd, i roi'r wybodaeth ysgrifenedig ddiweddaraf ynghylch y sefyllfa i Mark Isherwood, o gofio mai dim ond pythefnos o fusnes sydd ar ôl gennym ni nawr yn y Siambr.
Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad heddiw, Trefnydd, os caf i. A gaf i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Addysg ynghylch a fyddai'n ystyried estyniad i Gymru gyfan ar ymgynghoriadau ysgolion sydd wedi bod yn digwydd dan amgylchiadau pandemig? Rwy'n gwybod bod hyn yn broblem i lawer o gymunedau yn fy rhanbarth i, ym Mhowys yn arbennig, ac yn sir Gaerfyrddin. Yn dilyn adolygiad diweddar o ganllawiau Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol, penderfynodd bwrdd gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin yr wythnos diwethaf i ymestyn ymgynghoriadau ar bedwar cynnig gwahanol, gan gynnwys y cynigion o ran Ysgol Mynyddygarreg, tan 16 Gorffennaf. Byddwn i'n gwerthfawrogi cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog ynghylch a yw'n teimlo, o ystyried pa mor anodd y bu i gymunedau drefnu ac ymateb i ymgynghoriadau yn ystod y pandemig, y byddai'n briodol cael estyniad cenedlaethol ar yr ymgynghoriadau hyn.
Hoffwn i ofyn ymhellach i'r Trefnydd am ddatganiad ynghylch y sefyllfa yn yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau yn Abertawe. Bydd y Trefnydd yn ymwybodol iawn, rwy'n siŵr, bod gweithwyr yn ystyried streicio oherwydd yr amodau gwaith yno. Nid ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel. Nawr, yn amlwg, nid yw'r DVLA ei hun wedi'i ddatganoli, ond Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am orfodi arferion gweithio diogel. A gaf i ofyn i'r Trefnydd am ddatganiad gan y Gweinidog Cymru priodol i amlinellu beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu'r gweithwyr hynny, y mae llawer ohonyn nhw, wrth gwrs, yn byw yn Llanelli, yn fy rhanbarth i? Ac a fyddai hi'n barod i ymuno â mi heddiw i anfon neges o undod i'r gweithwyr hynny wrth iddyn nhw ystyried a oes raid iddynt gymryd camau diwydiannol ai peidio, fel yr wyf fi, fel Aelod Plaid Cymru o'r Senedd, yn hapus i'w wneud?
Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar i Helen Mary Jones am godi dau fater pwysig y prynhawn yma. Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog Addysg wedi gwrando'n astud ar y cais am estyniad i Gymru gyfan o ran ymgynghoriadau a'r enghreifftiau yr ydych chi wedi'u rhoi ynghylch ymestyn tri ymgynghoriad o'r fath yn sir Caerfyrddin. Bydd hi'n rhoi ystyriaeth briodol i'r cais hwnnw, rwy'n siŵr iawn.
O ran mater y DVLA, mae'n amlwg ei fod yn destun pryder mawr i ni nad yw pobl yn teimlo'n ddiogel yn y gweithle, a byddwch chi'n ymwybodol o'r sylwadau a wnaeth Llywodraeth Cymru i gefnogi'r gweithlu yno yn y DVLA yn y cyfnod yn arwain at nawr, ac wrth gwrs rydym ni'n parhau i gefnogi'r gweithwyr hynny. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi mesurau cyfreithiol ar waith i gadw pobl yn ddiogel yn y gweithle, ond, yn amlwg, mae angen i'r mesurau hynny gael eu gweithredu, wedyn, gan y cyflogwyr. Felly, byddwn i'n hapus iawn i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf honno i'r Senedd drwy fy nghydweithiwr, Gweinidog yr Economi, o ran y gefnogaeth yr ydym ni wedi gallu ei chynnig i weithwyr DVLA hyd yma a'r sylwadau yr ydym ni wedi bod yn eu cyflwyno ar eu rhan i sicrhau eu bod yn ddiogel yn y gweithle.FootnoteLink
Tybed a fyddai modd inni gael rhywfaint o eglurder ynghylch perthnasedd yr ymgynghoriad gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar ddiwygio rheoliadau arolygu bwyd, a lansiwyd ganddi ychydig cyn inni wybod am gytundeb pontio gwan â'r UE. Mae'n codi cwestiwn ynghylch a yw'n ceisio tanseilio'r safon yr ydym ni wedi dod i'w disgwyl, yn hytrach na'i fod yn fater o addasu'r cod. A chafodd hyn ei nodi, yn wir, fel pryder gan yr Athro Terry Marsden pan oedd ef yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yr wythnos diwethaf. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad gan Lesley Griffiths i roi barn y Llywodraeth ynghylch yr hyn y gallai hyn ei olygu o ran tanseilio safonau uchel iawn bwyd Cymru, fel sydd gennym ni ar hyn o bryd.
Wel, mae Llywodraeth Cymru yn rhannu'n llwyr y pryderon y mae Jenny Rathbone wedi bod yn eu codi ers amser maith o ran effaith cytundeb gwan ar y safonau sydd gennym ni o ran bwyd, a hefyd safonau ehangach o ran yr amgylchedd a hawliau gweithwyr, ac yn y blaen. Byddaf i'n gofyn i Lesley Griffiths roi'r wybodaeth ddiweddaraf honno i Jenny Rathbone o ran goblygiadau'r ymgynghoriad penodol hwnnw y mae'r ASB yn ei gynnal ar hyn o bryd.
Ddoe, fel y gwyddoch chi, Trefnydd, oedd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ac, ynghyd ag Aelodau eraill, roeddwn i'n hapus i ddangos fy nghefnogaeth ac ymrwymiad i ddatblygu Cymru fwy cyfartal. Cefnogais i'r ymgyrch Picau ar y Maen ar gyfer Cymorth i Fenywod Cymru drwy gynnal bore coffi rhithwir gyda fy staff i drafod gwaith Cymorth i Fenywod Cymru, ac i atgoffa ein hunain o'r gwasanaethau cymorth y maen nhw'n eu cynnig a sut i fanteisio ar eu gwasanaethau. Yng ngoleuni hynny, a gaf i ofyn am ddatganiad cyfredol gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i hymdrechion i fynd i'r afael â cham-drin domestig? Efallai eich bod chi'n ymwybodol bod Heddlu Dyfed Powys, ym mis Awst y llynedd, wedi cael 900 o adroddiadau am gam-drin domestig, o'i gymharu â 350 o achosion y mis yn 2017, ac mae hynny'n dangos yr angen i ymdrin ar frys â cham-drin domestig mewn cymunedau ledled Cymru.
Yn ail, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn ag ailddechrau llawdriniaeth ddewisol ledled Cymru? Rwyf i wedi cael sylwadau gan bobl yn Sir Benfro sydd mewn cryn boen ac anghysur ac yn aros am driniaethau, ac maen nhw'n galw am gefnogaeth a sicrwydd y byddan nhw yn cael eu triniaethau. Mae'r Gweinidog Iechyd wedi egluro y gallai gymryd pum mlynedd i GIG Cymru fynd i'r afael â'r ôl-groniad o driniaethau, ac rwy'n sylweddoli y bydd dadl ar y mater hwn yfory. Ond rwy'n credu ei bod yn hollbwysig inni gael datganiad gan y Gweinidog ar ei gynlluniau penodol i ailddechrau holl driniaethau a llawdriniaethau'r GIG ledled Cymru, a sut mae'n bwriadu hwyluso'r gwasanaethau hynny fel y gall pobl sy'n aros am driniaeth ledled Cymru fod yn sicr bod gan Lywodraeth Cymru gynllun ar waith i ddarparu triniaethau nad ydyn nhw'n rhai COVID cyn gynted ag y bo modd.
Byddwn i'n falch iawn o ofyn i fy nghyd-Weinidog, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, roi'r wybodaeth ddiweddaraf honno i gydweithwyr ynghylch ymdrechion Llywodraeth Cymru i ymdrin â cham-drin domestig yng Nghymru. Mae hyn wedi bod yn bryder parhaus inni drwy gydol y cyfyngiadau symud, a'r ffaith nad yw'r cartref, i lawer o bobl, yn fan diogel. Ac rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn falch iawn o ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf ar gamau'r Llywodraeth Cymru yn hyn o beth.
Ac, fel y dywedwch, bydd dadl brynhawn yfory ar ailddechrau llawdriniaethau dewisol. Ond rwy'n gwybod bod fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Iechyd, yn gweithio ar gynllun ar gyfer y camau nesaf i'r GIG a'i fod yn bwriadu cyhoeddi rhywbeth erbyn diwedd y mis hwn a fydd yn crynhoi, gobeithio, y math o weledigaeth y mae Paul Davies yn ei cheisio y prynhawn yma.
Mae pryderon wedi'u codi gan elusennau sy'n gweithio gyda phobl â chanser y gallai llawer o bobl ledled y wlad hon fod wedi colli diagnosis o ganser. Nawr, yn y Rhondda, roedd yn broblem, cyn argyfwng COVID, fod pobl yn gadael pethau'n rhy hwyr cyn mynd i weld y meddyg am symptomau pryderus a pharhaus. Roedd llawer gormod o bobl yn cael diagnosis o ganser yn hwyr, a hynny'n aml wrth iddyn nhw fynd i gael triniaeth yn yr adran damweiniau ac achosion brys. Wrth inni symud y tu hwnt i COVID, mae angen i'r Rhondda weld ymdrech ar y cyd i fynd i'r afael â'r ôl-groniad hwn o ddiagnosis canser. A gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth fel y gallwn ni ddeall sut y mae'r Llywodraeth yn cynllunio'n benodol i wneud hynny, yn enwedig mewn ardal fel ein hardal ni sydd â mwy o anghydraddoldebau iechyd? A allech chi gynnwys yn y datganiad hwnnw gefnogaeth i ganolfan diagnosis canser arbenigol a hygyrch yn y Rhondda?
A wnewch chi hefyd gytuno i oleuo holl adeiladau cyhoeddus Llywodraeth Cymru er cof am bawb yr ydym ni wedi'u colli i COVID ar ddiwrnod coffa 23 Mawrth?
Diolch am godi dau fater pwysig iawn. Ar y cyntaf, hoffwn i ategu'r hyn y mae Leanne Wood wedi'i ddweud y prynhawn yma ynglŷn â pha mor bwysig yw mynd at eich meddyg teulu pe bai gennych chi unrhyw bryderon am symptomau a allai fod yn gysylltiedig â chanser. Y neges mewn gwirionedd yw bod eich GIG yn dal i fod yno ichi yn y cyfnod anodd hwn. Mae ein canllawiau adfer canser wedi bod yn rhan o system cynllunio fframwaith y GIG ers chwarter 2 y llynedd. Mae'r byrddau iechyd eisoes yn cynllunio eu capasiti i drin gofal canser bob chwarter, a hefyd yn ymateb o ddydd i ddydd i ddarparu cymaint o driniaethau canser ag y gallan nhw yng nghyd-destun y pwysau ar eu gwasanaethau. Wrth inni ddechrau dod allan yn awr o'r ail don hon, rydym ni'n edrych yn benodol ar sut y gallwn symud yn barhaol i adfer gwasanaethau canser, a throsglwyddo hynny i'n cynlluniau adfer ffiniol ar gyfer y GIG, yr wyf i newydd gyfeirio atyn nhw mewn ateb i Paul Davies. Gallaf ychwanegu hefyd fod fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Iechyd, wedi cynnal cyfarfod cenedlaethol ym mis Chwefror, gyda GIG Cymru, i drafod adfer gwasanaethau canser yn benodol. Mae cynigion yn cael eu datblygu ar hyn o bryd i gefnogi'r adferiad hwnnw, unwaith eto fel rhan o'r dull adfer ehangach hwnnw yr oeddwn i wedi'i ddisgrifio. Felly, bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chyflwyno maes o law—fel y dywedais i, erbyn diwedd y mis—o ran adferiad y GIG.
Ar fater y diwrnod coffa, gallaf gadarnhau ein bod ni ar hyn o bryd yn ystyried yn ofalus iawn y ffordd orau y gallwn ni nodi'r hyn a fydd yn foment ddwys iawn, yn fy marn i, ar y daith yr ydym ni i gyd wedi bod drwyddi o ran y coronafeirws. Rwy'n siŵr y byddwn ni'n gallu dweud mwy am hynny cyn bo hir.
Trefnydd, rwy'n gwybod mai un o'r Gweinidogion sy'n gwylio hyn yn ofalus yw ein Gweinidog Twristiaeth. Felly, tybed a allwn i, drwoch chi, ofyn am ddatganiad neu am rywfaint o eglurhad ar y cam diweddaraf gan Tripadvisor, sydd wedi poeni llawer o'r gweithredwyr twristiaeth bach a chanolig eu maint yn fy etholaeth i. Mae Tripadvisor eisoes yn cymryd comisiwn o 15 y cant ar unrhyw werthiannau sy'n dod drwy ei safle. I'r gweithredwr bach, mae hynny'n rhan eithaf sylweddol. Ond, yn ddiddorol, yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, anfonwyd e-bost at bob gweithredwr i ddweud, o dan eu telerau ac amodau newydd, eu bod yn cyflwyno hawliau, am byth, iddyn nhw gael defnydd llawn o unrhyw luniau a deunyddiau eraill ar y gwefannau. Nawr, gallai hyn fod yn ymarfer gwbl normal. Pwy â ŵyr? Ond, maen nhw'n poeni, os byddan nhw'n gwrthod y cynnig caredig hwn gan Tripadvisor i gael hawliau am byth dros bob deunydd sy'n cael ei gynnwys ar eu gwefannau—a gyda llaw, Trefnydd, mae rhywfaint o'r deunydd cynnwys ar eu gwefannau, yn golygu deunydd Croeso Cymru hefyd—yna byddan nhw'n cael eu taflu oddi ar Tripadvisor. Ni waeth beth a ddywedwch chi am Tripadvisor, da neu ddrwg, maen nhw'n bwerus o ran creu diddordeb mewn gweithredwyr bach a chanolig eu maint. Byddaf i'n ysgrifennu at y Gweinidog ynghylch hyn hefyd, Trefnydd, ond tybed a gaf i, drwy eich swyddogaethau, ofyn am ddatganiad neu rywfaint o eglurhad ynghylch pa ganllawiau y mae modd eu rhoi i weithredwyr bach a chanolig eu maint ar y cam pendant newydd hwn gan Tripadvisor.
Diolch i Huw Irranca-Davies am godi hyn. Rwy'n gallu gweld, yng nghornel y sgrin, fy nghyd-Weinidog, y Dirprwy Weinidog Twristiaeth, ac mae ef wedi bod yn gwrando'n astud ar y sefyllfa yr ydych chi wedi'i disgrifio y prynhawn yma. Rwy'n gwybod y bydd yn awyddus i archwilio pa gymorth y gallwn ni ei gynnig i'r busnesau bach yr effeithir arnynt yn y sector twristiaeth ac y bydd yn edrych ymlaen at eich gohebiaeth fanylach.
Trefnydd, a gaf i alw am ddau ddatganiad? Daw'r cyntaf gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am iechyd meddwl ar fanteision iechyd meddwl a lles pysgota yng Nghymru. Mae llawer o bobl sy'n hoffi mynd i bysgota, yn aml ar eu pennau eu hunain, mewn mannau unig, wedi cysylltu â mi. Maen nhw wedi ei chael hi'n anodd iawn ymdopi â bywyd yn ystod y cyfyngiadau symud diweddaraf, oherwydd nid ydynt wedi gallu gyrru i fannau pysgota lleol. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y mae angen i Lywodraeth Cymru ei ystyried yn ofalus yn yr adolygiad a gawn cyn bo hir o gyfyngiadau coronafeirws. Pa un a yw'r adolygiad yn ystyried pysgota ai peidio, rwy'n credu bod y diddordeb hwn sy'n bwysig i filoedd lawer o bobl ledled Cymru yn haeddu rhywfaint o ystyriaeth gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am iechyd meddwl yn y dyfodol.
A gaf i hefyd, Trefnydd, alw am ddatganiad gennych chi, fel Gweinidog Cyllid, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ynghylch datblygu nodyn cyngor caffael ar y rheoliadau contract cyhoeddus am resymau dewisol dros ystyried eithrio busnesau rhag tendrau cyhoeddus? Byddwch chi'n ymwybodol ein bod ni wedi cael rhywfaint o ohebiaeth ar y mater hwn y llynedd yn dilyn eich ymateb i gwestiwn ysgrifenedig a arweiniodd at bryderon bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi nodyn cyngor caffael a fyddai'n effeithio'n bennaf ar genedl Israel. Byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y mater penodol hwn, oherwydd fe wnaethoch chi awgrymu yn eich gohebiaeth ddiwethaf y byddech chi'n gwneud rhai penderfyniadau terfynol ar hyn ym mis Rhagfyr. Mae bellach yn fis Mawrth, ac rwy'n credu bod pobl yn haeddu cael yr wybodaeth ddiweddaraf. Diolch.
O ran y mater cyntaf, sef y cais ynghylch datganiad ar fanteision pysgota o ran iechyd meddwl a lles, rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog sy'n gyfrifol am iechyd meddwl wedi gwrando'n astud iawn ar y cais hwnnw. Wrth gwrs, pan fyddwn ni'n trafod yr holl faterion sy'n ymwneud â'r cyfyngiadau yr ydym ni'n eu rhoi ar fywydau pobl, rydym ni'n deall pa mor anodd yw pethau i bobl. Mae'r holl bethau sydd fel arfer yn cefnogi ein lles, boed hynny'n bysgota neu gampfa neu weld teulu a ffrindiau—mae cael y pethau hynny wedi'u eu cymryd oddi wrthym ni yn amlwg yn cael effaith gryf ac anodd ar fywydau pobl. Rydym ni'n ymwybodol iawn o hynny wrth wneud ein penderfyniadau. Ond fel y dywedais i, bydd y Gweinidog wedi clywed y cais penodol hwnnw.
Fel y dywedais i y tro diwethaf y cawsom drafodaeth ar y nodyn cyngor caffael, rwyf wedi cytuno i gael rhagor o gyngor. Rydym wedi cael y cyngor hwnnw nawr, ac rwy'n dal i ystyried hynny. Ond byddaf i'n ysgrifennu atoch chi cyn bo hir ynghylch y ffordd ymlaen. Diolch.
Dau fater, os caf i, Trefnydd. Yn gyntaf, a gaf i ychwanegu fy llais—gan gynnwys Darren Millar, mewn gwirionedd, yr wythnos diwethaf—at y rhai sy'n galw am ailagor canolfannau garddio ledled Cymru? Nawr bod achosion COVID-19 yn ymddangos yn is na'r nifer a sbardunodd y cyfyngiadau symud yn wreiddiol, os ydym yn bwriadu ailagor busnesau, yn gyntaf yn y tymor byr, yna dylai canolfannau garddio, rwy'n credu, fod ar frig y rhestr honno. Maen nhw'n ardaloedd mawr, yn yr awyr agored yn bennaf, gyda digon o gyfleoedd i gadw pellter cymdeithasol. Felly, tybed a allwn ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog ynghylch unrhyw drafodaethau gyda'r sector canolfannau garddio o ran eu hailagor cyn gynted â phosibl.
Yn ail, cafodd rhaglen ddogfen y BBC The Story of Welsh Art ei dangos yn ddiweddar. Nid wyf yn siŵr faint o'r Aelodau a welodd y rhaglen. Roedd yn dangos y goeden Jesse fyd-enwog yn y Fenni, cerflun o'r bymthegfed ganrif yn eglwys priordy'r Santes Fair sy'n dangos llinach Crist o'r Beibl. Roedd trysorau Cymreig eraill o bob cwr o Gymru yn rhan o'r rhaglen honno. Mae Cymru wedi'i bendithio â thrysorau diwylliannol sydd wedi denu twristiaid i Gymru ers blynyddoedd lawer a bydd yn gallu gwneud hynny eto yn y dyfodol. Felly, tybed a gawn ni fframwaith neu'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog, wrth inni ddod allan o'r cyfyngiadau symud, ynghylch sut y mae modd defnyddio treftadaeth ddiwylliannol Cymru i roi hwb cychwynnol i'r economi dwristiaeth eto ledled Cymru. Drwy adeiladu'n ôl yn well a thyfu'n wyrddach, gallwn hefyd dyfu'n ôl yn gryfach yn ddiwylliannol a rhoi trysorau Cymru wrth wraidd y broses honno o dyfu'n ôl .
Bydd Nick Ramsay wedi clywed y Prif Weinidog yn amlinellu'r camau yr ydym ni'n eu cymryd wrth symud tuag at yr adolygiad tair wythnos hwnnw ar 12 Mawrth. Bydd ef yn ystyried yr holl gynrychiolaethau a gyflwynwyd gan gydweithwyr yn ystod yr wythnosau diwethaf, ond wedyn hefyd, wrth gwrs, yn cymryd y cyngor a gawn ni gan ein cynghorwyr gwyddonol a meddygol i benderfynu ar ble y gallwn ni lacio pethau. Nid wyf i eisiau achub y blaen ar unrhyw beth y gallai'r Prif Weinidog ei ddweud ddydd Gwener. Mae trafodaethau'n dal i fynd rhagddynt o fewn y Cabinet ac mae cyngor yn dal i gael ei gymryd wrth inni symud tuag at y pwynt adolygu hwnnw.
Rwy'n cytuno'n llwyr fod gan ein trysorau diwylliannol botensial enfawr o ran ein helpu ni gyda'r gwaith adfer, o ran y math o dwristiaeth y byddem ni eisiau ei gweld o fannau eraill yn y DU, ond hefyd ein gwyliau ni yma yng Nghymru a'n twristiaeth ein hunain y byddwn ni fwy na thebyg eisiau manteisio arnynt yn ein gwlad ein hunain yn ystod yr haf. Oherwydd rwy'n credu os yw'r coronafeirws wedi dysgu unrhyw beth inni, mae'n ymwneud â gwerthfawrogi'r pethau hynny sydd gennym yma ar garreg ein drws. Rwy'n credu bod y trysorau diwylliannol hynny megis coeden Jesse yn eglwys y Santes Fair, y mae Nick Ramsay wedi'i disgrifio, yn enghreifftiau da iawn o hynny. Rwy'n gallu gweld bod y Gweinidog yn gwrando'n astud eto ar yr awgrym am y rhan y gall y trysorau hyn ei chwarae yn ein hadferiad.
Yn olaf, Delyth Jewell.
Wrth inni nesáu at ddiwedd y tymor Seneddol hwn, Trefnydd, ac wrth inni nodi Wythnos Genedlaethol Pontio'r Cenedlaethau, fe hoffwn i gael datganiad, os gwelwch chi'n dda, gan y Llywodraeth ynglŷn â phwysigrwydd pontio rhwng cenedlaethau. Fe hoffwn i gael datganiad sy'n cydnabod yr unigrwydd gwirioneddol a ddioddefodd aelodau iau a hŷn yn ein cymdeithas ni, yn ogystal â'r rhagfarn ar sail oedran sydd wedi bod yn rhan rhy amlwg o'n sgwrs genedlaethol ni drwy gydol y pandemig. Yn aml, roedd yr hen a'r ifanc yn cael eu rhoi benben â'i gilydd yn y wasg yng nghyd-destun cyfyngiadau symud, gyda rhywfaint o'r sylwebaeth yn canolbwyntio ar hunanoldeb ymddangosiadol pobl ifanc ac eraill yn awgrymu bod amddiffyn pobl hŷn a mwy agored i niwed mewn rhai ffyrdd yn bris a oedd yn rhy uchel i'w dalu. Mae'r ddau naratif hyn wedi bod yn niweidiol iawn. Mae grwpiau o bobl ifanc a phobl hŷn fel ei gilydd wedi cael eu gwthio i'r ymylon; ac mae angen cymorth a llais cryfach ar y ddwy garfan wrth wneud penderfyniadau ar gyfer bod wrth galon ein cymunedau ni.
Ddiwedd y llynedd, Trefnydd, fe sefydlodd nifer ohonom grŵp trawsbleidiol ar bontio'r cenedlaethau, a'r wythnos hon fe fyddwn ni'n cyhoeddi ein hargymhellion ni i nodi wythnos pontio'r cenedlaethau. Mewn ymateb i'r rhain fe hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch chi'n dda. Mae ein grŵp ni'n teimlo, gydag un llais, y dylai cynlluniau ar gyfer adferiad wedi COVID hyrwyddo undod rhwng cenedlaethau, y dylai Gweinidog fod yn gyfrifol am oruchwylio hynny, y dylid rhoi mwy o arian i grwpiau cymunedol i hyrwyddo undod rhwng cenedlaethau, ac y dylai hynny gael ei ymgorffori yn y cwricwlwm. Wrth inni ymlwybro ar ein ffordd allan o'r pandemig, mae'r penderfyniadau ynghylch blaenoriaethu brechlynnau, diogelu'r cyhoedd, ac ailagor cymdeithas yn gyfredol, maen nhw'n amrywiol ac yn gymhleth. Mae ailgyhoeddi pwysigrwydd dealltwriaeth rhwng cenedlaethau yn hanfodol yng nghyd-destun pob un o'r penderfyniadau hyn, oherwydd mae'r berthynas rhwng cenedlaethau yn cyfoethogi ein cymdeithas ni, mae'n bwysig, ac fe ddylid ei chryfhau.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y ffordd y mae Delyth Jewell newydd bortreadu'r gwaith a wnaeth y grŵp trawsbleidiol. Os nad oes copi gan Lywodraeth Cymru eto, fe fyddwn i'n awyddus iawn inni gael un, fel y gallwn ni ystyried ac archwilio'r argymhellion hyn yr ydych chi newydd eu disgrifio. Rwy'n cytuno'n llwyr fod y dull o fynegi peth o'r ddadl a gawsom ni drwy gydol y pandemig wedi ceisio rhoi grwpiau benben â'i gilydd. Ond, mewn gwirionedd, rydym ni i gyd yn rhan o hyn, ac mae'r rhai sydd wedi gweld effaith fwyaf y pandemig wedi bod o blith ein dinasyddion hynaf ni, ac o blith ein dinasyddion ieuengaf ni hefyd; y ddau grŵp hyn sydd wedi talu'r pris uchaf mewn gwahanol ffyrdd. Felly, rwy'n awyddus iawn i weld y darn hwn o waith ac archwilio'r syniadau y bydd Delyth a'i chydweithwyr yn eu cyflwyno.
Diolch i'r Trefnydd.