– Senedd Cymru am 3:13 pm ar 9 Mawrth 2021.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y diweddaraf am frechiadau COVID-19. Y Gweinidog, Vaughan Gething.
Rwy'n falch o gyhoeddi ein bod ni wedi cael wythnos arall o gynnydd ac uchafbwyntiau gwirioneddol yn ein rhaglen frechu ni yma yng Nghymru. Erbyn hyn, fe gafodd miliwn o bobl eu dos cyntaf o'r brechlyn hwn sydd â'r gallu i achub bywydau. Newyddion rhagorol, felly—carreg filltir bwysig arall i'r rhaglen wirioneddol ryfeddol hon. Unwaith eto, rydym ni wedi cyrraedd y nod hwn o flaen y dyddiad a ymddangosodd yn ein diweddariad ni o'r strategaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Fe ddigwyddodd hynny oherwydd gwaith caled a phenderfyniad y cannoedd ar gannoedd o bobl sy'n gweithio y tu ôl i'r llenni ac mewn clinigau i weinyddu'r brechlynnau ledled y wlad.
Rwy'n ddiolchgar iawn i bob unigolyn sydd wedi manteisio ar gynnig o'r brechlyn. Maen nhw wedi gwneud eu rhan, wedi sefyll yn y bwlch, yn yr ymdrech genedlaethol hon i gadw Cymru'n ddiogel, ac fe ddylen nhw fod yn falch o'r cyfraniad a wnaeth pob un ohonynt yn yr ymdrech genedlaethol hon. Mae pob un dos yn wirioneddol bwysig. Mae pob brechlyn a roddir yn golygu un cam yn nes at ddyfodol mwy disglair i bob un ohonom ni. Mae'r brechlynnau yn ddiogel ac yn effeithiol, ac rwy'n annog pawb i fanteisio ar y cynnig pan ddaw eu tro nhw. Rwy'n edrych ymlaen at gael fy mrechlyn cyntaf innau yn ystod y dyddiau nesaf.
Rydym yn gwneud cynnydd sylweddol o ran cyrraedd yr ail garreg filltir, fel y'i nodir yn ein diweddariad ni ar y strategaeth frechu. Mae dros 85 y cant o bobl rhwng 65 a 69 oed wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn eisoes, ac mae pobl yn y grwpiau oedran 50 i 64 oed wedi cael eu galw am eu hapwyntiadau nhw. Gyda phedwar o bob 10 o'r boblogaeth oedolion wedi cael eu brechu unwaith o leiaf erbyn hyn, rydym ni'n gwneud cynnydd ardderchog.
Fe hoffwn i orffen drwy ddiolch i bawb sydd wedi gwneud eu rhan nhw, nid yn unig yn y llwyddiant a fu hyd yn hyn, ond yn fwy felly, i gydnabod bod hyn wedi digwydd gyda chefnogaeth o bob ochr yn y fan hon a'r tu allan, ac rwy'n edrych ymlaen at gael mwy o gefnogaeth i'n rhaglen frechu yn y dyddiau a'r wythnosau sydd i ddod. Mae gennym dasg sylweddol o'n blaenau ni o hyd, ond rwy'n hyderus y byddwn ni'n ei chyflawni mewn da bryd ac mewn ffordd wirioneddol lwyddiannus, fel y gwnaethom ni hyd yn hyn. Diolch, Llywydd.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi, ac unwaith eto, dyma newyddion da ein bod ni'n brechu cynifer o bobl ar hyn o bryd yng Nghymru. Er hynny, mae gennyf i un neu ddau o gwestiynau i'w gofyn i chi, am y rhaglen frechu, yn gyffredinol.
Y cyntaf yw nad yw 15 y cant o staff cartrefi gofal wedi cael eu brechu eto, o'i gymharu â llai na 5 y cant o breswylwyr, ac mae hwnnw'n rhif llawer is na'r staff gofal iechyd—mae 87.5 y cant ohonyn nhw wedi cael eu brechu. A ydych chi'n fodlon bod popeth yn cael ei wneud i argyhoeddi'r aelodau staff mwy amheus i gael eu brechu, a beth a allwn ni ei wneud i'w hannog nhw, oherwydd, fel y gwyddom ni, mae trigolion ein cartrefi gofal ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ni?
Mae fy ail gwestiwn i'n ymwneud ag achosion coronafeirws mewn ysbytai. Pa adolygiad sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd o ran achosion yn torri allan mewn ysbytai? Maen nhw'n digwydd yma a thraw o hyd, ac maen nhw'n rhwystr i ailddechrau gwasanaethau. Esgusodwch fi. Rwyf wedi darllen eich fframwaith chi ar gyfer profion COVID-19 i gleifion mewn ysbytai yng Nghymru, ond, wrth gwrs, nid yw hynny'n cynnwys atal yr haint mewn ysbytai mewn gwirionedd, ac roeddwn i'n meddwl tybed a oeddech chi'n teimlo y dylem ni wneud mwy i geisio symud yr agenda honno ymlaen. Fe wn i, er enghraifft, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, fod gennym nifer o achosion wedi torri allan ar hyn o bryd yn Llwynhelyg, ac mae hynny'n rhwystr i ailddechrau gwasanaethau.
Gan ein bod yn sôn am fyrddau iechyd, a fyddech chi'n ystyried pa gyngor y gellid ei roi i fyrddau iechyd o ran gohirio ac aildrefnu apwyntiadau brechu? Mae llawer o bobl wedi cysylltu â mi i ddweud eu bod nhw wedi cael negeseuon testun, ac maen nhw'n awyddus iawn i fynd i gael eu brechlyn nhw, ond ni allant gyrraedd y fan am ryw reswm neu ei gilydd, ond nid ydyn nhw wedi llwyddo i gael gafael ar neb i aildrefnu. Ac mae yna deimlad o euogrwydd—mae'n rhaid imi gyfaddef, rwyf i'n un o'r rhain—lle na allwn gael gafael ar neb i aildrefnu fy apwyntiad i, felly fe gollais i'r un cyntaf, ond ni allwn i ddweud wrth neb, ac maen nhw'n ceisio gwneud yr ail un nawr. Ond dim ond un llais yn unig ydw i; mae torreth o bobl wedi cysylltu â mi. Maen nhw naill ai'n cael negeseuon testun lle nad oes rhif ffôn i'w ffonio na chyfeiriad e-bost i'w ddefnyddio. Ac, wrth gwrs, mae'n amhosibl i bawb ymddangos yn sydyn bob amser ar gyfer dyddiad neu amser penodol. A allwn ni wneud rhywbeth ynghylch hynny? Oherwydd rwy'n credu bod hyn yn atal rhai rhag cael y brechlynnau, yn enwedig rhai o'r grwpiau sy'n fwy anodd eu cyrraedd yr ydym ni wedi sôn amdanyn nhw lawer tro cyn hyn.
Mae Andrew Evans, y prif swyddog fferyllol, wedi dweud bod y capasiti gennym ni yng Nghymru i weinyddu mwy na 30,000 o frechlynnau bob dydd. Nawr, nid ydym wedi taro 30,000 o frechlynnau mewn diwrnod ers 4 Mawrth. Rwy'n deall bod rhywfaint o hynny'n ymwneud â diffyg cyflenwad, ond wrth ddarllen eich diweddariad chi ar COVID, dyddiedig 9 Mawrth, rydych chi'n disgwyl i hynny gynyddu gyda'r cyflenwad o frechlynnau, gan ddechrau o'r wythnos hon ac wrth symud ymlaen, na ddylai fod unrhyw broblemau. A ydych chi o'r farn y byddwn ni'n gallu cyflawni'r nod hwnnw o 30,000?
Yn olaf, roeddwn i'n awyddus i'ch holi chi ynglŷn â chynlluniau'r dyfodol. Canolfannau brechu torfol—mae nifer ohonyn nhw mewn adeiladau a chyfleusterau a ddefnyddir ar gyfer pethau eraill, fel canolfannau hamdden, ac yn y pen draw fe fyddan nhw'n dechrau cynnal eu gweithgareddau priodol nhw unwaith eto, ac, felly, ni fyddwn ni'n gallu eu defnyddio nhw'n ganolfannau brechu torfol. Mae staff a gwirfoddolwyr yn ein helpu ni ar hyn o bryd, ond rywbryd, fe fydd yn rhaid iddyn nhw ddychwelyd at eu bywydau a'u swyddogaethau arferol. Pa gynlluniau sy'n cael eu rhoi ar waith neu a ystyrir ar hyn o bryd i sicrhau y bydd gennym gyfleusterau ac adnoddau dynol i allu parhau o hyd i frechu ar gyflymder, yn enwedig os ydym yn rhagweld trydedd don? Wrth gwrs, rydym ni'n dechrau meddwl efallai y bydd angen cael brechiad blynyddol rheolaidd er mwyn ein hamddiffyn ni rhag coronafeirws a'r gwahanol fwtadiadau sy'n dod i'r amlwg, ac felly fe fydd angen inni allu cynnwys hyn yn ein system ni. Tybed a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am hynny? Diolch yn fawr iawn. Ymddiheuriadau am y pwl o beswch.
Mae'n drueni na allwn roi cwpanaid arall o ddŵr ichi, Angela. [Chwerthin.]
Diolch.
Diolch am y cwestiynau. Nid oes angen ymddiheuro am orfod cymryd hoe fach oherwydd peswch. O ran staff cartrefi gofal a'r gyfradd frechu, rydych chi'n iawn i dynnu sylw at y niferoedd is ymhlith staff sy'n manteisio ar y brechlyn o'u cymharu â niferoedd y preswylwyr. Mae honno'n nodwedd o'r petruster am y brechlyn a welwn ni mewn amrywiaeth o grwpiau oedran. Wrth gwrs, mae staff cartrefi gofal yn cynnwys pobl o wahanol oedrannau, gan gynnwys y grŵp oedran iau, lle rydym ni'n sylweddoli bod mwy o betruster ynghylch yr angen neu'r rheswm dros fanteisio ar y brechlyn i bobl dan 40 oed. Mae rhai o'r mythau hyn ynglŷn â brechlynnau a gaiff eu lledaenu gan y garfan wrth-frechu, y gweithiau ffuglen, yn effeithio ar bobl sy'n awyddus, efallai, i gael plant eto yn y dyfodol. Felly, mae yna bryder y gallai hyn effeithio ar ffrwythlondeb dynion neu fenywod; nid oes sail o gwbl i hynny, ond mae hon yn chwedl barhaus sy'n ailymddangos ym mhob rhan o'r DU a'r tu hwnt hefyd. Dyma un o'r meysydd hynny lle rwyf i'n credu mai un o'r pethau gorau y gallwn ni ei wneud, unwaith eto, yw gweithio ledled y DU, ni waeth beth fyddo lliw ein cotiau gwleidyddol ni ym mhob un o'r Llywodraethau, ac yn y fan hon hefyd hyd yn oed, i fod yn eglur iawn nad oes yna unrhyw wirionedd o gwbl yn hynny. Ac mae'n ymwneud â chyflwyno neges ddibynadwy ac unol i berswadio pobl i fanteisio ar y brechlyn, ac ailystyried y dystiolaeth amdano. Fel y dywedais, nid yw diogelwch nac effeithiolrwydd y brechlyn yn digwydd oherwydd fy mod i'n dweud ei fod yn ddiogel ac yn effeithiol, ond mae gennyf gyfrifoldeb i fod yn eglur iawn ynghylch hynny. Mae hynny'n deillio o'r sgyrsiau mwyaf dibynadwy a gaiff pobl gyda'r bobl y maen nhw'n eu credu: sef staff ein gwasanaeth iechyd, gwyddonwyr a theulu a ffrindiau yn aml, pobl yr ydych chi'n agos atyn nhw. Ac yn anffodus, er y gall pobl rannu gwybodaeth sy'n ddibynadwy, mae cyfeiliorni a chamwybodaeth hefyd yn digwydd fel hyn. Felly, mae'r gwaith o berswadio pobl yn waith parhaus. Er gwaethaf hynny, rydym yn gweld cyfraddau uchel iawn o frechu mewn cartrefi gofal, ond yn sicr mae mwy i'w wneud, ac fe fyddwch chi'n gweld hynny eto pan fyddwn yn symud i'r cam brechu ar ôl cwblhau grwpiau 1 i 9.
O ran achosion yn torri allan mewn ysbytai, a'r gwaith a wnawn ni ynglŷn â throsglwyddiad nosocomiaidd, hynny yw trosglwyddiad rhwng staff iechyd a gofal a phobl eraill, dyna ran o'r rheswm pam rydym ni'n credu bod yr ystyfnigrwydd yn parhau n y gogledd-orllewin. Bu achosion yn Ysbyty Gwynedd, ac rydym ni'n credu bod hynny wedi arwain at ffigurau uwch yn y fan honno nag a fyddai wedi bod fel arall. Rydym ni ar fin cyhoeddi diweddariad ar y cyngor a'r arweiniad ynglŷn â phrofi mewn ysbytai. Mae rhan sylweddol o hynny'n ymwneud â'n gwaith ni ar drosglwyddiad nosocomiaidd, ac rydym yn nodi yno sut rydym yn defnyddio dyfeisiau llif ochrol yn ogystal â phrofion adwaith cadwyn polymerase. Wrth gwrs, fe gaiff y gwaith hwnnw ei arwain gan y dirprwy brif swyddog meddygol a'r prif swyddog nyrsio yma yng Nghymru, felly fe gaiff ei arwain gan bobl sydd ag arweinyddiaeth a pharch proffesiynol gwirioneddol. Fe gaiff ei gefnogi hefyd gan y cyngor parhaus a ddarparodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn â sut i leihau'r rhagolygon ar gyfer trosglwyddiad nosocomiaidd, oherwydd fe all yr achosion hynny achosi niwed gwirioneddol. Nodwedd gadarnhaol o'r gostyngiad yng nghyfraddau coronafeirws fydd bod yr achosion hynny'n llai lluosog nag y bydden nhw wedi bod fel arall, a diolch am waith caled pawb ledled y wlad wrth helpu i leihau'r cyfraddau trosglwyddo.
O ran eich pryder chi ynghylch byrddau iechyd yn canslo neu'n aildrefnu apwyntiadau, rwy'n cydnabod bod hyn yn digwydd o bryd i'w gilydd, ac mae hyn yn ymwneud â phobl yn gallu aildrefnu eu hapwyntiadau nhw neu beidio. Fe fu'n rhaid i mi aildrefnu apwyntiad fy mam innau hefyd, ac fe gymerodd beth amser imi fynd trwodd ar y ffôn, ond fe wnes i yn y pen draw, ac nid oedd yna unrhyw drafferth o gwbl i aildrefnu'r apwyntiad. Mae'n ymwneud ag annog pobl i wneud yr ymdrech i aildrefnu a bod yn eglur iawn na fydd y GIG yn gadael neb ar ôl. Felly, os yw pobl yn ei chael hi'n anodd bod yn bresennol ar gyfer eu hapwyntiadau nhw, ac nad ydyn nhw wedi gallu mynd drwodd ar y ffôn, fe allan nhw aildrefnu o hyd ac fe ddylen nhw wneud hynny a derbyn y cynnig sydd ar gael, ac mae hynny'n cynnwys pobl sydd newydd newid eu meddyliau ac yn dymuno cael y brechlyn nawr.
Rwy'n credu eich bod chi'n iawn i dynnu sylw at yr heriau a fydd gennym ni yn y dyfodol ynghylch canolfannau aml-frechu yn dychwelyd i'w diben blaenorol yn y dyfodol. Ond mae honno'n broblem dda i'w chael, mae'n ymwneud â'n llwyddiant ni wrth yrru'r trosglwyddiad i lawr a'r angen i sicrhau bod cyfleusterau cyfredol ar gael mewn ffordd arall. Yr agwedd gadarnhaol, serch hynny, yw bod gennym 546 o wahanol leoliadau lle mae'r brechlyn yn cael ei weinyddu eisoes. Felly, wrth inni fynd trwy fwy o gamau eto a brechu'r grwpiau presennol o'r boblogaeth yn llwyddiannus, fe fydd yr her yn lleihau. Ond mae eich pwynt chi am ddyfodol y tymor hwy yn un teg hefyd. Fe fyddwn ni'n dysgu llawer o'r cam brechu hwn am yr hyn y mae'n debygol y bydd angen inni ei wneud o ran gweinyddu brechlyn COVID eto yn y dyfodol. Yr hyn nad ydym ni'n ei wybod eto yw pryd y gallai hynny fod a'r math o raglen a fyddai'n rhaid inni ei chael. Mae'r rhaglen frechu bresennol rhag y ffliw, er enghraifft, yn cael ei gweinyddu mewn practisau cyffredinol a fferyllfeydd cymunedol yn bennaf. Nid ydym yn gwybod eto a fydd y normaleiddio hwnnw'n bosibl yng ngham nesaf y brechlyn, os mynnwch chi, ar ôl inni ddiogelu'r boblogaeth o oedolion yng Nghymru. Ond rydym yn credu bod yr hyblygrwydd gennym ni eisoes ar gyfer cyflawni yn y dyfodol i gynnwys pob oedolyn yn y wlad.
Yn olaf, ynglŷn â phwynt Andrew Evans am ein hangen ni i gyflawni a'n gallu i ddarparu mwy na 30,000 dos y dydd, ydym, rydym yn credu y byddwn ni'n gallu gwneud hynny. Nid ydym wedi gwneud hynny yn y gorffennol diweddar. Maint y cyflenwad yw'r unig reswm am hynny. Ond, rydym ni yn credu, yn ystod gweddill yr wythnos hon, y byddwch chi'n dechrau gweld y ffigurau hynny'n mynd yn ôl i tua 30,000 dos y dydd, ac fe fyddwch chi'n gweld hynny'n parhau am gyfnod byr, yna fe fydd cyfnod tawelach ac yna fe fydd cyfradd gyson o weinyddu brechlynnau wrth i'r cyflenwad normaleiddio. Ac, ar y sail honno, rydym ni'n dal i fod yn y sefyllfa ffodus o gael y gyfradd orau o frechu yn unrhyw un o wledydd y DU, gyda chyfran fwy o bobl yng Nghymru wedi cael dau ddos o'r brechlyn. Mae hynny'n newyddion da i ni, ond mae'n dangos hefyd ein bod ni ar frig grŵp llwyddiannus iawn o genhedloedd ledled y DU ar hyn o bryd, ac rwy'n edrych ymlaen at adrodd am fwy o lwyddiant yn y dyddiau a'r wythnosau nesaf.
A gaf i eto longyfarch pawb sydd wedi sicrhau ein bod ni wedi cyrraedd y cerrig milltir rhyfeddol yma—dros 1 filiwn o bobl wedi cael y dos gyntaf, ac 1.2 miliwn, bron, wedi cael y dos gyntaf neu'r ail. Mae'n argoeli'n dda ar gyfer cyrraedd y targedau yn y misoedd i ddod.
Gwnaf i gwpwl o bwyntiau, fel dwi'n ei wneud bob wythnos. Does dim eisiau ichi ymateb i'r rhain, Weinidog, achos rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n anghytuno arnyn nhw. Dwi'n meddwl ein bod ni mewn lle mor dda y gallem ni fod yn rhedeg cynllun paralel efo hwn er mwyn sicrhau bod gweithwyr sy'n fwyaf tebygol o ddod ar draws y feirws yn gallu cael eu brechu ynghynt. Ond dydyn ni ddim yn cytuno ar hynny. Hefyd, mi wnaf i ofyn eto, fel dwi wedi ei wneud gymaint, plis gawn ni'r data llawn ar faint o bob brechiad sy'n cael ei roi i bob gwlad? A dweud y gwir, mae'r dyddiau diwethaf wedi bod yn enghraifft dda o pam y byddai hynny'n ddefnyddiol. Mae yna lot wedi bod yn cysylltu efo fi dros y dyddiau diwethaf yn tynnu sylw at y ffaith bod yna fwy yn gymharol o'r ail ddos wedi bod yn cael ei roi yng Nghymru. Mae pobl yn gweld ein bod ni'n disgyn ar ei hôl hi, yn eu llygaid nhw, o ran y dos cyntaf. Buasai'n ddefnyddiol cael eglurhad gennych chi ar y record yn fan hyn o beth sy'n digwydd yma, pam fod y strategaeth yma wedi sifftio tuag at yr ail ddos, ac a oes a wnelo hynny mewn unrhyw ffordd â'r ffaith bod yna ddiffygion yn y cyflenwad o un o'r ddau frechiad yn dod i Gymru. Felly, eglurwch beth sydd wedi digwydd yn y fan honno, achos mae pobl yn edrych yn ofalus iawn ar y data—lot o bobl—ac maen nhw'n gallu gweld patrymau ac maen nhw'n gallu gweld bod yna newid wedi bod mewn dyddiau diweddar.
Dau gwestiwn sydyn arall: gofalwyr di-dâl—dwi'n sicr yn falch eu bod nhw wedi cael eu cynnwys rŵan yng ngrŵp blaenoriaeth chwech ar gyfer y brechiad. Dwi'n gwybod bod y ffurflen ar-lein rŵan ar gael iddyn nhw i'w lenwi gan y rhan fwyaf o'r byrddau iechyd. Dwi'n meddwl bod pob un heblaw un wedi ei wneud o ar gael. A gaf i jest gofyn pa waith cyhoeddusrwydd sy'n cael ei wneud i wneud yn siŵr bod gofalwyr di-dâl yn ymwybodol o'r ffurflen yna a lle i ddod o hyd iddo fo?
A'r ail gwestiwn ydy ynglŷn ag asthma. Mae ymchwil yn dangos bod pobl efo asthma mewn perygl ychydig yn uwch o fynd i'r ysbyty os ydyn nhw'n cael y feirws yma, a hefyd yn llawer mwy tebygol o ddioddef COVID hir. Ond, dwi wedi cael un enghraifft o etholwraig yn methu â ffeindio allan os oedd hi'n gymwys i gael y brechiad. Yn y pen draw, mi gafodd hi. Bues i'n cyfathrebu efo'r bwrdd iechyd ar ei rhan hi. Ond dwi'n deall bod yna wybodaeth wedi cael ei rhannu efo meddygfeydd rŵan ynglŷn â phwy efo asthma ac ati ddylai fod yn gymwys. A fyddech chi'n gallu gwneud y wybodaeth yna'n gyhoeddus?
Diolch am y pwyntiau a'r cwestiynau. Rwy'n croesawu eich bod chi'n llongyfarch y tîm a arweinir gan y GIG oherwydd y cyflawniad sylweddol a wnaed hyd yma, a'r hyder wrth gyflawni'r rhaglen frechu hon a arweinir gan y GIG yng Nghymru i'r dyfodol. Ac, unwaith eto, rydych chi'n iawn, rydym yn anghytuno ar gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, a sut y dylem ni ddilyn hwnnw, ac a ddylem ni flaenoriaethu un grŵp ac amddifadu un arall o flaenoriaeth. Felly, mae honno'n ffaith ein bod ni'n anghytuno ar hynny.
O ran dosbarthu ail ddos, rydym wedi gwneud dewis o ran rheoli ein stoc ni o frechlyn Pfizer fel y gallwn ni weinyddu'r ail ddos yn effeithiol. Mae hyn yn ymwneud â pha mor effeithlon yw ein rhaglen ni o ran sicrhau bod pobl yn cael eu hail ddos nhw mewn da bryd, a'n bod ni'n osgoi problem yn ddiweddarach yn y mis hwn pan na fydd digon o stoc o'r ail ddos ar gael inni o bosibl. Ac fe fyddai honno'n broblem fawr iawn, yn fy marn i. Mae llawer o bobl yn pryderu am orfod cymysgu brechlynnau. Wel, nid ydym ni am wneud hynny yng Nghymru: mae'r agwedd at hyn yn glir iawn. Rydym ni'n ceisio bod yn effeithlon, ac mae ein hagwedd ni tuag at risg yn wahanol, rwy'n credu, o'i chymharu â gwledydd eraill ynglŷn â'u dull nhw o weinyddu'r dosau hyn yn fwriadol, oherwydd rydych chi'n iawn fod yna rywfaint o wahaniaeth yn y ffigurau. Cyfanswm cyffredinol y dosau cyntaf a ddarparwyd—cyfartaledd y DU yw 33.5 y cant o'r dosau cyntaf ar gyfer y boblogaeth gyfan; mae ychydig o dan hynny yma yng Nghymru. Ar gyfer yr ail ddos, mae'n 1.7 y cant, ond mae'n 5.8 y cant ar gyfer yr ail ddos yng Nghymru. Ac ar gyfer cyfanswm y dosau a ddarparwyd, cyfartaledd y DU yw 35.2 y cant; yng Nghymru, mae'r cyfanswm yn 37.5 y cant. Felly, rydym ni'n gweinyddu mwy o frechlynnau y pen nag unrhyw wlad arall yn y DU. Ac mae'r wybodaeth honno ar gael i'r cyhoedd, ac rwy'n awyddus i sicrhau ein bod ni'n cyhoeddi nid yn unig y tablau ar y ffigurau, ond rhai o'r ffigurau hynny ynglŷn â phwyntiau o gymhariaeth â'r DU hefyd. Felly, nid oes raid ichi aros am fy natganiad i; fe fyddan nhw'n rhan reolaidd o'r ffordd yr ydym ni'n cyhoeddi gwybodaeth. Ac mae pob gwlad yn cyhoeddi ei ffigurau eisoes ynglŷn â sut maen nhw'n defnyddio eu stociau nhw o frechlynnau. Felly, yn hytrach nag ymgais gennyf i yn rhoi sylwebaeth ar y sefyllfa mewn gwledydd eraill, rwy'n gallu siarad am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud a sut rydym ni'n rheoli'r stociau sydd gennym ni'n effeithiol mewn ffordd sydd, yn fy marn i, yn llwyddiannus i raddau helaeth iawn.
O ran gofalwyr di-dâl, mae'n bosibl y byddaf i'n siarad yn nes ymlaen yr wythnos hon gyda chadeirydd un o'r byrddau iechyd lle nad yw'r ffurflen ar-lein yn weithredol er mwyn deall pam nad yw'r ffurflen ar-lein honno ar gael ganddyn nhw. Mae ar gael ar-lein, ac mae pobl yn cael eu gwneud yn ymwybodol ohoni nid yn unig drwy ofal sylfaenol ond, yn hollbwysig, drwy sefydliadau'r gofalwyr, sydd—. Fe aethom ni drwy raglen o gyd-ddylunio'r ffurflen—y Llywodraeth, y GIG a'r sefydliadau hynny i ofalwyr—ac fe wnaethom ni setlo ar rywbeth yr ydym ni o'r farn y bydd yn gweithio. Ac mae'r ffurflen honno'n eich tywys chi drwy gyfres o gwestiynau i sicrhau eich bod chi'n cael yr hyn sy'n haeddiannol. Yna, fe gaiff yr wybodaeth honno ei bwydo i system imiwneiddio Cymru, ac yna fe ddylai hynny gynhyrchu'r apwyntiad. Felly, rydym ni'n awyddus i weld cymaint o ddefnydd â phosibl o'r ffurflen ar-lein honno er mwyn darparu profiad cyson i bobl ledled y wlad.
O ran asthma, rydych chi'n iawn, mae llythyr wedi cael ei anfon gan un o'r uwch arweinwyr clinigol yn y Llywodraeth, ac mae llythyr wedi mynd allan i ofal sylfaenol, ac, o ystyried y bydd hwnnw wedi mynd allan i ystod eang o ddarparwyr gofal sylfaenol, rwy'n credu ei fod yn gyhoeddus yn y bôn. Fe fyddaf yn sicrhau bod trefniadau'n cael eu gwneud i gyhoeddi'r cyngor hwnnw, fel y gall pawb weld sut y darparwyd y cyngor hwnnw ac fe all gofal sylfaenol reoli eu rhestrau nhw o bobl wedyn mewn ffordd a ddylai fod, unwaith eto, mor gyson â phosibl ledled y wlad. Nid wyf i o'r farn fod unrhyw anhawster wrth wneud hynny, ac rwy'n siŵr y gallwn ni gyhoeddi datganiad ysgrifenedig syml ar hynny yn ystod y dyddiau nesaf.
Mae pobl Islwyn, yr wyf i'n eu cynrychioli, yn eich llongyfarch chi a Llywodraeth Lafur Cymru ar achlysur cyrraedd carreg filltir hanesyddol, sef miliwn o frechiadau. Yn fy etholaeth i, sef Islwyn, mae'r brechu torfol yng nghanolfan hamdden Trecelyn yn effeithiol iawn, ac yn fedrus iawn, yn brechu niferoedd mawr o bobl. Gweinidog, gyda phedwar o bob 10 ymhlith poblogaeth oedolion Cymru wedi cael o leiaf un dos, beth yw eich neges chi i gymunedau Islwyn o ran y cynnydd sy'n cael ei wneud i frechu pob oedolyn erbyn 31 Gorffennaf?
Rwy'n credu y gall pobl fod â lefel uchel iawn o hyder am ein sefyllfa ni, ar ganol mis Ebrill, ac, yn wir, erbyn diwedd mis Gorffennaf hefyd, gan ddibynnu ar y cyflenwadau. A'r cyflenwad yw'r unig fater a allai ein dal ni'n ôl. Rwy'n credu, a bod yn deg, mai'r un fyddai'r ateb pe byddech chi'n siarad ag unrhyw un o'r rhaglenni a arweinir gan y GIG yn y DU. Fe allem fod wedi gwneud mwy erbyn hyn pe byddai yna fwy o gyflenwad wedi bod ar gael. Nid beirniadaeth mohoni; dim ond datgan ein sefyllfa ni, ac rwy'n credu bod hynny'n mynd yn ôl at gwestiynau Angela Burns hefyd. Felly, os ydych chi'n aros am eich brechlyn chi, a'ch bod chi yn perthyn i grwpiau 1 i 9, fe allwch fod yn hyderus y byddwch wedi cael cynnig un, neu fe ddylech gael cynnig un, erbyn canol mis Ebrill. Rwyf i o'r farn fod hynny'n golygu ein bod ni mewn sefyllfa dda i fod yn cynnig brechlyn i weddill y boblogaeth oedolion yng Nghymru, os bydd y cyflenwadau yn ateb y gofyn, o ganol mis Ebrill ymlaen. Ac, unwaith eto, fe ddylai'r rhagolwg i'r tymor hwy, o ran sefydlogrwydd y cyflenwad o frechlynnau, olygu y gallwn ni wneud hynny erbyn diwedd mis Gorffennaf. Mae'n mynd yn fwy ansicr po bellaf i'r dyfodol yr edrychwn. Ond, yn y sgyrsiau yr wyf i wedi eu cael nid yn unig â Gweinidog y DU ynglŷn â'r cyflenwad o frechlynnau, ond gyda Gweinidogion Iechyd eraill yn y DU, ac, yn wir, gyda'r ddau gwmni sy'n cyflenwi'r brechlynnau yr ydym ni'n eu defnyddio ar hyn o bryd, sef Pfizer ac AstraZeneca, rwyf i o'r farn y bydd gennym y lefel o gyflenwad i ganiatáu inni wneud hynny. Ac fe fydd hynny, unwaith eto, yn rhoi dewisiadau amrywiol inni ynglŷn â sut y gall y cyhoedd fwrw ymlaen â'u bywydau a chael mwy o normalrwydd, gan barhau i reoli'r perygl oherwydd yr hyn sy'n dal i fod yn bandemig nad yw wedi dod i ben eto. Ond rwy'n falch iawn o glywed bod yr etholaeth yr ydych chi'n ei chynrychioli yn gwerthfawrogi'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yn y rhaglen hon dan arweiniad y GIG.
Diolch i'r Gweinidog.