Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 9 Mawrth 2021.
Diolch am y cwestiynau. Nid oes angen ymddiheuro am orfod cymryd hoe fach oherwydd peswch. O ran staff cartrefi gofal a'r gyfradd frechu, rydych chi'n iawn i dynnu sylw at y niferoedd is ymhlith staff sy'n manteisio ar y brechlyn o'u cymharu â niferoedd y preswylwyr. Mae honno'n nodwedd o'r petruster am y brechlyn a welwn ni mewn amrywiaeth o grwpiau oedran. Wrth gwrs, mae staff cartrefi gofal yn cynnwys pobl o wahanol oedrannau, gan gynnwys y grŵp oedran iau, lle rydym ni'n sylweddoli bod mwy o betruster ynghylch yr angen neu'r rheswm dros fanteisio ar y brechlyn i bobl dan 40 oed. Mae rhai o'r mythau hyn ynglŷn â brechlynnau a gaiff eu lledaenu gan y garfan wrth-frechu, y gweithiau ffuglen, yn effeithio ar bobl sy'n awyddus, efallai, i gael plant eto yn y dyfodol. Felly, mae yna bryder y gallai hyn effeithio ar ffrwythlondeb dynion neu fenywod; nid oes sail o gwbl i hynny, ond mae hon yn chwedl barhaus sy'n ailymddangos ym mhob rhan o'r DU a'r tu hwnt hefyd. Dyma un o'r meysydd hynny lle rwyf i'n credu mai un o'r pethau gorau y gallwn ni ei wneud, unwaith eto, yw gweithio ledled y DU, ni waeth beth fyddo lliw ein cotiau gwleidyddol ni ym mhob un o'r Llywodraethau, ac yn y fan hon hefyd hyd yn oed, i fod yn eglur iawn nad oes yna unrhyw wirionedd o gwbl yn hynny. Ac mae'n ymwneud â chyflwyno neges ddibynadwy ac unol i berswadio pobl i fanteisio ar y brechlyn, ac ailystyried y dystiolaeth amdano. Fel y dywedais, nid yw diogelwch nac effeithiolrwydd y brechlyn yn digwydd oherwydd fy mod i'n dweud ei fod yn ddiogel ac yn effeithiol, ond mae gennyf gyfrifoldeb i fod yn eglur iawn ynghylch hynny. Mae hynny'n deillio o'r sgyrsiau mwyaf dibynadwy a gaiff pobl gyda'r bobl y maen nhw'n eu credu: sef staff ein gwasanaeth iechyd, gwyddonwyr a theulu a ffrindiau yn aml, pobl yr ydych chi'n agos atyn nhw. Ac yn anffodus, er y gall pobl rannu gwybodaeth sy'n ddibynadwy, mae cyfeiliorni a chamwybodaeth hefyd yn digwydd fel hyn. Felly, mae'r gwaith o berswadio pobl yn waith parhaus. Er gwaethaf hynny, rydym yn gweld cyfraddau uchel iawn o frechu mewn cartrefi gofal, ond yn sicr mae mwy i'w wneud, ac fe fyddwch chi'n gweld hynny eto pan fyddwn yn symud i'r cam brechu ar ôl cwblhau grwpiau 1 i 9.
O ran achosion yn torri allan mewn ysbytai, a'r gwaith a wnawn ni ynglŷn â throsglwyddiad nosocomiaidd, hynny yw trosglwyddiad rhwng staff iechyd a gofal a phobl eraill, dyna ran o'r rheswm pam rydym ni'n credu bod yr ystyfnigrwydd yn parhau n y gogledd-orllewin. Bu achosion yn Ysbyty Gwynedd, ac rydym ni'n credu bod hynny wedi arwain at ffigurau uwch yn y fan honno nag a fyddai wedi bod fel arall. Rydym ni ar fin cyhoeddi diweddariad ar y cyngor a'r arweiniad ynglŷn â phrofi mewn ysbytai. Mae rhan sylweddol o hynny'n ymwneud â'n gwaith ni ar drosglwyddiad nosocomiaidd, ac rydym yn nodi yno sut rydym yn defnyddio dyfeisiau llif ochrol yn ogystal â phrofion adwaith cadwyn polymerase. Wrth gwrs, fe gaiff y gwaith hwnnw ei arwain gan y dirprwy brif swyddog meddygol a'r prif swyddog nyrsio yma yng Nghymru, felly fe gaiff ei arwain gan bobl sydd ag arweinyddiaeth a pharch proffesiynol gwirioneddol. Fe gaiff ei gefnogi hefyd gan y cyngor parhaus a ddarparodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn â sut i leihau'r rhagolygon ar gyfer trosglwyddiad nosocomiaidd, oherwydd fe all yr achosion hynny achosi niwed gwirioneddol. Nodwedd gadarnhaol o'r gostyngiad yng nghyfraddau coronafeirws fydd bod yr achosion hynny'n llai lluosog nag y bydden nhw wedi bod fel arall, a diolch am waith caled pawb ledled y wlad wrth helpu i leihau'r cyfraddau trosglwyddo.
O ran eich pryder chi ynghylch byrddau iechyd yn canslo neu'n aildrefnu apwyntiadau, rwy'n cydnabod bod hyn yn digwydd o bryd i'w gilydd, ac mae hyn yn ymwneud â phobl yn gallu aildrefnu eu hapwyntiadau nhw neu beidio. Fe fu'n rhaid i mi aildrefnu apwyntiad fy mam innau hefyd, ac fe gymerodd beth amser imi fynd trwodd ar y ffôn, ond fe wnes i yn y pen draw, ac nid oedd yna unrhyw drafferth o gwbl i aildrefnu'r apwyntiad. Mae'n ymwneud ag annog pobl i wneud yr ymdrech i aildrefnu a bod yn eglur iawn na fydd y GIG yn gadael neb ar ôl. Felly, os yw pobl yn ei chael hi'n anodd bod yn bresennol ar gyfer eu hapwyntiadau nhw, ac nad ydyn nhw wedi gallu mynd drwodd ar y ffôn, fe allan nhw aildrefnu o hyd ac fe ddylen nhw wneud hynny a derbyn y cynnig sydd ar gael, ac mae hynny'n cynnwys pobl sydd newydd newid eu meddyliau ac yn dymuno cael y brechlyn nawr.
Rwy'n credu eich bod chi'n iawn i dynnu sylw at yr heriau a fydd gennym ni yn y dyfodol ynghylch canolfannau aml-frechu yn dychwelyd i'w diben blaenorol yn y dyfodol. Ond mae honno'n broblem dda i'w chael, mae'n ymwneud â'n llwyddiant ni wrth yrru'r trosglwyddiad i lawr a'r angen i sicrhau bod cyfleusterau cyfredol ar gael mewn ffordd arall. Yr agwedd gadarnhaol, serch hynny, yw bod gennym 546 o wahanol leoliadau lle mae'r brechlyn yn cael ei weinyddu eisoes. Felly, wrth inni fynd trwy fwy o gamau eto a brechu'r grwpiau presennol o'r boblogaeth yn llwyddiannus, fe fydd yr her yn lleihau. Ond mae eich pwynt chi am ddyfodol y tymor hwy yn un teg hefyd. Fe fyddwn ni'n dysgu llawer o'r cam brechu hwn am yr hyn y mae'n debygol y bydd angen inni ei wneud o ran gweinyddu brechlyn COVID eto yn y dyfodol. Yr hyn nad ydym ni'n ei wybod eto yw pryd y gallai hynny fod a'r math o raglen a fyddai'n rhaid inni ei chael. Mae'r rhaglen frechu bresennol rhag y ffliw, er enghraifft, yn cael ei gweinyddu mewn practisau cyffredinol a fferyllfeydd cymunedol yn bennaf. Nid ydym yn gwybod eto a fydd y normaleiddio hwnnw'n bosibl yng ngham nesaf y brechlyn, os mynnwch chi, ar ôl inni ddiogelu'r boblogaeth o oedolion yng Nghymru. Ond rydym yn credu bod yr hyblygrwydd gennym ni eisoes ar gyfer cyflawni yn y dyfodol i gynnwys pob oedolyn yn y wlad.
Yn olaf, ynglŷn â phwynt Andrew Evans am ein hangen ni i gyflawni a'n gallu i ddarparu mwy na 30,000 dos y dydd, ydym, rydym yn credu y byddwn ni'n gallu gwneud hynny. Nid ydym wedi gwneud hynny yn y gorffennol diweddar. Maint y cyflenwad yw'r unig reswm am hynny. Ond, rydym ni yn credu, yn ystod gweddill yr wythnos hon, y byddwch chi'n dechrau gweld y ffigurau hynny'n mynd yn ôl i tua 30,000 dos y dydd, ac fe fyddwch chi'n gweld hynny'n parhau am gyfnod byr, yna fe fydd cyfnod tawelach ac yna fe fydd cyfradd gyson o weinyddu brechlynnau wrth i'r cyflenwad normaleiddio. Ac, ar y sail honno, rydym ni'n dal i fod yn y sefyllfa ffodus o gael y gyfradd orau o frechu yn unrhyw un o wledydd y DU, gyda chyfran fwy o bobl yng Nghymru wedi cael dau ddos o'r brechlyn. Mae hynny'n newyddion da i ni, ond mae'n dangos hefyd ein bod ni ar frig grŵp llwyddiannus iawn o genhedloedd ledled y DU ar hyn o bryd, ac rwy'n edrych ymlaen at adrodd am fwy o lwyddiant yn y dyddiau a'r wythnosau nesaf.