2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 10 Mawrth 2021.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol yn ystod tymor y Senedd hon? OQ56395
Diolch, Vikki. Rydym wedi buddsoddi mwy nag erioed mewn tai fforddiadwy yn ystod tymor y Senedd hon. Mae ystadegau 2019-20 wedi cadarnhau y byddwn, o ganlyniad uniongyrchol i'n buddsoddiad, yn rhagori ar ein targed uchelgeisiol o 20,000 o dai fforddiadwy yn nhymor y Llywodraeth hon.
Diolch, Weinidog. Yn ogystal â rhoi cartrefi addas i'r diben i bobl sy'n agored i niwed, mae'r grant tai cymdeithasol hefyd wedi helpu i adfywio safleoedd allweddol sy'n ddiffaith a segur, sydd i'w gweld yn aml mewn mannau amlwg iawn yn ein cymunedau. Un enghraifft yn fy etholaeth i yw'r adeilad segur ar Stryd Rhydychen yng nghanol y dref yn Aberpennar, safle y mae Tai Cynon Taf yn ei droi'n fflatiau un ystafell wely mawr eu hangen drwy'r grant. Weinidog, gwn eich bod wedi cofnodi cyn hyn eich ymrwymiad i barhau i ddarparu cartrefi cymdeithasol i'w rhentu yn nhymor nesaf y Senedd, ond a ydych yn cytuno â mi y gall cynlluniau o'r fath hefyd fod yn ysgogiad allweddol i drawsnewid a gwella ein cymunedau i'r holl drigolion?
Diolch, Vikki. Ydym, rydym yn falch iawn o'r modd y caiff gwahanol bolisïau'r Llywodraeth eu cyfosod. Felly, mae ein hagenda Trawsnewid Trefi yn cyd-fynd, wrth gwrs, â'n hagenda polisi tai cymdeithasol, ac rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod gennym dai cymdeithasol da, tai fforddiadwy da, wedi'u hadeiladu'n agos at ganol ein trefi, ac yn ddelfrydol, fel y dywedwch, mewn adeiladau diffaith neu ar dir diffaith sydd wedi bod yn ddolur llygad hyd yma ac yn niweidiol i'r gymdeithas. Yr hyn y mae'n ei wneud, wrth gwrs, yw dod â bywiogrwydd, gobaith newydd ac optimistiaeth ac ymwelwyr i ganol y ddinas, felly mae'n gyfuniad hyfryd o'r gallu i roi cartrefi hyfryd iawn i bobl, a fydd yn hawdd eu fforddio, cartrefi y byddant yn falch o fyw ynddynt, ac a fydd hefyd yn cynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y ddinas ac yn cael gwared ar adeilad a fyddai wedi bod yn niweidiol fel arall. Felly, rwy'n falch iawn o'r ffordd y mae'r agenda Trawsnewid Trefi a'r agenda adeiladu tai cymdeithasol wedi cyfuno i allu cael yr effaith honno mewn lleoedd fel Aberpennar. Rwy'n gwybod eich bod wedi bod yn dadlau'n gryf dros yr angen i adfywio trefi lleol yn eich ardal. Cofiaf yn dda y cyflwyniad fideo a wnaethoch, pan oeddem i gyd yn y Siambr, o'r gwahanol leoedd yn eich etholaeth a oedd angen y math hwnnw o adfywio, ac rwy'n falch iawn fod un ohonynt yn dwyn ffrwyth, ac yn falch iawn o weld mai fflatiau un ystafell wely ydynt, sef un o'r pethau y mae fwyaf o'u hangen yn y sector tai cymdeithasol. O ganlyniad i'r pandemig, fe fyddwch yn gwybod ein bod eisoes wedi cartrefu dros 6,000 o bobl. Rydym yn amlwg iawn yn gwthio yn awr i adeiladu'r cartrefi parhaol y mae ar bobl eu hangen er mwyn eu hatal rhag profi digartrefedd o'r fath eto.
Weinidog, a ydych chi'n cytuno bod angen inni weld aileni tai cymdeithasol yn y 2020au, gan adeiladu yn ôl tueddiadau hanesyddol, neu'n uwch na hynny os oes modd? Ac a ydych chi, fel fi, yn pryderu'n benodol am y grŵp newydd hwnnw: pobl yn eu 30au a'u 40au ar incwm da ond heb gyfoeth teuluol na allant gael mynediad at y farchnad i brynu cartrefi teuluol, er anfantais fawr i'w plant?
Ydw. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny, David Melding. Rydym wedi bod yn awyddus iawn i ymestyn, er enghraifft, y cynlluniau Cymorth i Brynu. Rydym yn awyddus iawn nid yn unig i helpu pobl iau, o'm safbwynt i, sydd yn eu 30au ac yn y blaen, gyda'u teuluoedd, i gael mynediad at gartrefi o ansawdd da, ond rydym yn awyddus iawn i helpu ein diwydiant adeiladu i'w hadeiladu mewn amgylchiadau lle mae angen help gan y Llywodraeth arnynt weithiau i wneud hynny. Rwyf hefyd yn awyddus iawn, serch hynny, i ddefnyddio'r ysgogiad a ddaw yn sgil cyllid y Llywodraeth i adeiladu'r math cywir o gartrefi yn y math cywir o leoedd ac i'r math cywir o safon. Rwyf wedi dweud yn bendant iawn wrth y diwydiant adeiladu tai yma yng Nghymru ein bod am weld tai'n cael eu hadeiladu ar gyfer y dyfodol y mae pobl yn parhau i fod yn falch o fyw ynddynt, nad ydynt yn wynebu tlodi tanwydd, eu bod yn oddefol o ran eu defnydd o garbon neu'n garbon niwtral lle bo'n bosibl, fod ganddynt y safonau gofod sy'n angenrheidiol er mwyn i bobl allu addasu i amodau newidiol eu bywydau yn y tai hynny. Gwn eich bod yn cytuno â'r agenda honno hefyd. Rwy'n gweithio'n galed iawn i sicrhau y bydd gennym system Cymorth i Brynu barhaus yng Nghymru, ein bod yn parhau i fod â chynllun rhentu i brynu yng Nghymru, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn rhannau helaeth iawn o Gymru ac sy'n caniatáu i bobl nad oes ganddynt flaendal i gael troed ar yr ysgol dai er hynny, ac i gael amrywiaeth o gynlluniau rhannu ecwiti, rhanberchnogaeth, perchnogaeth mentrau cydweithredol a chynlluniau tebyg i ymddiriedolaethau tir cymunedol ledled Cymru, yn ogystal ag adeiladu'r nifer angenrheidiol o dai cymdeithasol wrth gwrs fel y gall pobl gael gafael ar dai cymdeithasol os bydd angen a pheidio â chael eu gwthio i gartrefi sector rhentu preifat o safon isel.
Weinidog, er bod eich Llywodraeth ar y trywydd iawn i gyrraedd ei tharged tai fforddiadwy ar gyfer tymor y Senedd hon, a ydych yn derbyn bod y targed hwn yn druenus o annigonol? Rwy’n eich llongyfarch am wneud mwy na Llywodraethau Cymru yn y gorffennol, ond rwy’n siomedig eich bod wedi methu mynd i’r afael â’r gwir angen sy’n bodoli am dai cymdeithasol. Cafodd y cartrefi newydd a adeiladwyd eu bachu cyn i'r fricsen gyntaf gael ei gosod hyd yn oed. Mae teuluoedd yn dal i aros blynyddoedd i gael cartref; mae gormod o lawer o blant yn byw mewn llety gwely a brecwast; ac mae gormod o lawer o bobl yn dal i gysgu ar y stryd neu ar soffas. A ydych yn derbyn nad oedd eich targed yn ddigon uchelgeisiol, ac os byddwch yn dychwelyd i'r Senedd hon ac yn rhan o Lywodraeth nesaf Cymru, a wnewch chi addo gwneud mwy os gwelwch yn dda? Oherwydd yn yr unfed ganrif ar hugain, mae'n resynus yn foesol fod pobl yn dal yn ddigartref a'u bod yn dal i fyw mewn llety sy'n anaddas i'w hanghenion. Diolch yn fawr.
Wel, Caroline, rwyf wedi synnu braidd eich bod yn gallu wfftio rhywbeth rydym yn wirioneddol falch ohono yma yng Nghymru i’r fath raddau, ac mae'n rhaid imi ddweud nad wyf yn cytuno ag unrhyw beth a ddywedasoch, bron â bod, ar wahân i’r ddwy frawddeg olaf honno.
Rydym yn hynod falch o'n cyflawniad o fod wedi cyrraedd ein 20,000 o dai fforddiadwy. Wrth gwrs, dim ond yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf y bu modd inni gynyddu faint o dai cyngor a oedd yn cael eu hadeiladu, ar ôl i'r Llywodraeth Geidwadol wneud y peth iawn o'r diwedd a chael gwared ar y capiau ar y cyfrifon refeniw tai fel ein bod, ddwy flynedd yn ôl, wedi gallu dechrau cynyddu faint o dai cyngor yr oeddem yn eu hadeiladu. Rydym wedi gwneud yn anhygoel o dda yn hynny o beth. Mae ein hystadegau dros dro diweddaraf yn dangos, yn 2019-20, fod cyfanswm o 2,940 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol wedi’u cyflenwi ledled Cymru, ac rwy'n falch iawn fod hynny nid yn unig yn adeiladu ar ein llwyddiant blaenorol, ond yn gosod record newydd. Mae’n gynnydd o 13 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, a dyma’r cyfanswm blynyddol uchaf ers dechrau cadw cofnodion.
Wrth gwrs, oherwydd effeithiau COVID-19, nid ydym wedi rhagori ar y targed ar y lefelau y byddem wedi hoffi. Mae’n rhaid imi ddweud nad ydym yn gweithio tuag at yr 20,000 o dai fforddiadwy; mae'r ystadegau swyddogol yn dangos ein bod wedi cyrraedd y targed hwnnw bellach. Rwy'n siomedig, oherwydd y pandemig, fod y gwaith wedi arafu ac nad oeddem yn gallu mynd mor gyflym ag y byddem wedi’i hoffi, ond rydym yn hynod o falch hefyd o'n cyflawniad yn rheoli digartrefedd ledled Cymru. Rwy'n hynod falch o'r bobl yn yr awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector, gwasanaethau cymorth tai ledled Cymru sydd wedi gwneud mwy na’r disgwyl—llawer mwy na’r disgwyl—i gartrefu pobl drwy gydol y pandemig, mewn cyferbyniad llwyr â'r Ceidwadwyr dros y ffin. Nid ydym wedi cael pandemig o bobl yn cysgu allan ar ein strydoedd yn ystod yr argyfwng, ac rydym yn falch dros ben o'r ffaith ein bod wedi cartrefu dros 6,000 o bobl. Rydym wedi buddsoddi dros £137 miliwn mewn grantiau tai cymdeithasol yn 2019-20, a dros £25 miliwn mewn grantiau cyllid tai i gefnogi’r gwaith o ddarparu tai cymdeithasol yng Nghymru. Ac rydym yn buddsoddi £71.5 miliwn mewn cyllid refeniw o dan raglen y grant tai fforddiadwy i gynorthwyo awdurdodau tai lleol i adeiladu tai cyngor newydd. Felly, nid wyf yn derbyn y rhagosodiad a oedd yn sail i’w chwestiwn o gwbl. Lywydd, rydym yn falch iawn wir o gyflawniadau'r Llywodraeth hon yn y sector tai cymdeithasol, ac rwy'n mawr obeithio y byddwn yn gallu parhau â hynny am y pum mlynedd nesaf.