Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 16 Mawrth 2021.
Ni all y Ceidwadwyr Cymreig ymrwymo 100 y cant i'r rheoliadau hyn o hyd. O dan y rheoliadau, bydd cynghorau'n cael eu gorfodi i gymryd rhan mewn cyd-bwyllgorau corfforedig newydd, cyrff cyhoeddus a fydd yn gwneud penderfyniadau rhanbarthol ar bopeth—addysg, trafnidiaeth, defnydd tir a lles economaidd. Diben y rheoliadau hyn yw gwella cydweithredu a gweithio rhanbarthol rhwng cynghorau ac, yn y bôn, tacluso'r strwythurau cydweithredol. Bydd cyd-bwyllgorau corfforedig yn cynnwys aelodau etholedig yn eu prif gynghorau cyfansoddol, yn ogystal ag aelodau cyfetholedig a fydd yn gallu cyflogi staff a dal asedau a chyllid. Byddai'r rheoliadau hyn yn trosglwyddo nifer o swyddogaethau i'r cyd-bwyllgorau corfforedig hyn, megis y swyddogaeth llesiant economaidd, trafnidiaeth a'r swyddogaeth cynllunio strategol.
Yn ystod Cyfnod 1 y trafodion ar Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, codwyd nifer o bryderon ynghylch cyd-bwyllgorau corfforedig. Cododd Cartrefi Cymunedol Cymru bryderon am ddarpariaeth gyfyngedig trefniadau atebolrwydd cyd-bwyllgorau corfforedig, sy'n groes i ymrwymiad y Bil i wella mynediad a chyfranogiad mewn penderfyniadau lleol. Yn y cyfamser, dadleuodd Un Llais Cymru y bydd gwasanaethau yn dod yn fwy rhanbarthol ac ymhellach ac yn fwy anghysbell oddi wrth etholwyr lleol.
Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, er ei bod yn gefnogol i gyd-bwyllgorau corfforedig gwirfoddol, yn pryderu am yr effaith y byddai cyd-bwyllgorau corfforedig a orfodwyd gan Lywodraeth Cymru yn ei chael ar gynghorau, gan fwriadu bod ganddi bryderon sylfaenol ynghylch yr egwyddor o orfodi, yr ystyrir ei bod yn tanseilio democratiaeth leol.
Er ein bod yn cydnabod bwriadau'r cyd-bwyllgorau corfforedig yn gyffredinol, mae'n rhaid iddyn nhw beidio ag arwain at gydweithredu dim ond er mwyn cydweithredu. Mae'n rhaid i ni fod yn siŵr y bydd unrhyw gyd-bwyllgorau corfforedig yn gwella cydweithredu yn hytrach na dim ond dyblygu yr hyn sy'n bodoli eisoes. Fodd bynnag, rydym ni'n pryderu bod cyd-bwyllgorau corfforedig gorfodol yn tanseilio'r datganoli mewnol a'r gwaith partneriaeth lleol sydd eisoes wedi'i sefydlu ac y bydd yn arwain at uno cynghorau drws cefn ym mhopeth ond enw. Rydym o'r farn bod trefniadau gweithio cydweithredol yn gweithio orau pan eu bod nhw'n organig, pan fo pob aelod cyfansoddol yn mynd ati i geisio cydweithio i wella'r gwasanaethau a ddarperir yn rhanbarthol er budd cymdeithasol ac economaidd i'r trigolion, a bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru barchu ymreolaeth cynghorau lleol. Yn syml: mae angen i ni weithio gydag awdurdodau lleol, nid gorfodi pethau arnyn nhw. O'r herwydd, rydym ni wedi cyflwyno cyfres o welliannau yn ystod hynt y Ddeddf llywodraeth leol, i gydnabod y pryder a oedd gan randdeiliaid ynghylch creu cyd-bwyllgorau corfforedig. Fodd bynnag, roeddem yn siomedig iawn bod y Gweinidog wedi penderfynu gwrthod ein holl welliannau, a oedd yn adeiladol eu natur ac a oedd â'r bwriad o ymateb i bryderon rhanddeiliaid, ac yn enwedig cynrychiolwyr llywodraeth leol.
Cafodd y dadleuon a ddefnyddiwyd gan y Gweinidog eu gwrth-ddweud yn uniongyrchol hefyd gan y sylwadau a wnaed gan randdeiliaid y buom yn gweithio gyda nhw drwy gydol y broses ddiwygio. Unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod ideoleg uwchlaw barn arbenigol rhanddeiliaid. Mae pryderon wedi parhau i gael eu codi gan randdeiliaid amrywiol am gyd-bwyllgorau corfforedig, ac mae'n ymddangos bod y rheoliadau hyn yn anwybyddu pryderon dilys llawer o fewn y sector llywodraeth leol a thu hwnt. Ar adeg pan fo pobl yn dymuno i benderfyniadau fod yn agosach at bleidleiswyr a chan gynrychiolwyr sy'n uniongyrchol atebol, bydd hyn yn creu cyrff sy'n rhoi pŵer yn nwylo unigolion na chafodd eu hethol ac ymhellach i ffwrdd oddi wrth gymunedau. Dyna pam y byddwn yn gwrthwynebu y rhan fwyaf o'r rheoliadau hyn.