– Senedd Cymru am 4:45 pm ar 16 Mawrth 2021.
Therefore, I call on the Minister for Housing and Local Government, Julie James.
Cynnig NDM7631 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygio) (Cyrff Llywodraeth Leol yng Nghymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2021.
Cynnig NDM7630 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 3) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2021.
Cynnig NDM7637 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2021.
Cynnig NDM7634 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynigion. Mae Rhan 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, a basiwyd gan y Senedd y llynedd, yn darparu ar gyfer sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig drwy reoliadau. Bydd cyd-bwyllgorau corfforedig, neu CJCs fel y'u gelwir, yn arf pwysig i lywodraeth leol ei ddefnyddio i gefnogi cydweithredu, gweddnewid, a chynaliadwyedd gwasanaethau cyhoeddus yn y tymor hwy. Maen nhw hefyd yn gyfle i gefnogi ad-drefnu nifer o drefniadau gweithio rhanbarthol presennol ac arfaethedig. Bydd cyd-bwyllgorau corfforedig yn gyrff corfforedig, wedi eu ffurfio o'r prif gynghorau cyfansoddol, wedi eu galluogi i gyflogi staff yn uniongyrchol, dal asedau a rheoli cyllid.
Drwy'r pecyn o reoliadau yr ydym ni'n eu trafod heddiw, rwy'n ceisio rhoi'r ddarpariaeth statudol angenrheidiol ar waith i sefydlu pedwar cyd-bwyllgor corfforedig yng Nghymru, un yr un ar gyfer y canolbarth, y gogledd, y de-ddwyrain a'r de-orllewin. Gwneir hyn yn unol â'r dewis a fynegwyd gan lywodraeth leol i gyd-bwyllgorau corfforedig fod â'r un ôl troed daearyddol â'r ardaloedd bargen ddinesig a bargen twf presennol. Bydd y pedwar cyd-bwyllgor corfforedig yn cael eu sefydlu gan y pedair cyfres ganlynol o reoliadau: Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig Canolbarth Cymru 2021; Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig Gogledd Cymru 2021; Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig De-ddwyrain Cymru 2021; a Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig De-orllewin Cymru 2021. Yn ogystal â darparu ar gyfer sefydlu pob un o'r pedwar cyd-bwyllgor corfforedig arfaethedig, mae'r rheoliadau sefydlu hyn hefyd yn cynnwys y trefniadau cyfansoddiadol craidd a'r manylion allweddol, megis aelodaeth, staffio a chyllidebau. Mae'r rheoliadau sefydlu hefyd yn darparu ar gyfer y swyddogaethau a fydd yn cael eu harfer gan bob cyd-bwyllgor corfforedig: cynllunio datblygu strategol; cynllunio trafnidiaeth ranbarthol; a'r pŵer i wneud pethau i hybu neu wella lles economaidd eu hardaloedd.
Mae'r rheoliadau sefydlu wedi eu llywio gan yr ymatebion i'r ymgynghoriad a lansiwyd gennyf i ar 12 Hydref 2020 a'r gweithgarwch ymgysylltu yr wyf i a'm swyddogion wedi ei gynnal gyda llywodraeth leol a rhanddeiliaid allweddol. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch unwaith eto i arweinyddion yr awdurdodau lleol a'u swyddogion am eu hymagwedd adeiladol tuag at gyd-ddatblygu y rheoliadau hyn.
Ochr yn ochr â'r rheoliadau sefydlu, mae Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021 a'r memorandwm esboniadol cysylltiedig hefyd wedi eu gosod. Mae'r rheoliadau yn gwneud yr addasiadau angenrheidiol i Ddeddf Trafnidiaeth 2000 i'w gwneud yn ofynnol i'r cyd-bwyllgorau corfforedig ddatblygu polisïau trafnidiaeth a sefydlu cynllun trafnidiaeth rhanbarthol ar gyfer eu hardaloedd. Mae pum offeryn statudol arall hefyd wedi eu gosod ochr yn ochr â'r rheoliadau sefydlu i sicrhau, o'r pwynt y cânt eu sefydlu, bod cyd-bwyllgorau corfforedig yn ddarostyngedig i safonau ymddygiad priodol, a'u bod yn dod o dan gylch gwaith Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; yn ddarostyngedig i ddyletswyddau cyfrifyddu a rheoli ariannol priodol ac yn dod o fewn cylch gwaith Archwilydd Cyffredinol Cymru; yn ddarostyngedig i ddyletswydd cydraddoldeb y gwasanaethau cyhoeddus; a byddan nhw'n ddarostyngedig i safonau'r Gymraeg. Mae hyn yn sicrhau bod cyd-bwyllgorau corfforedig a'u haelodau yn destun goruchwyliaeth a gofynion rheoli ac ymddygiad priodol o'r dechrau.
Fy mwriad i yw y bydd yr offerynnau statudol yr ydym ni'n eu trafod yma heddiw yn dod i rym o 1 Ebrill eleni. Mewn cytundeb â phob un o'r rhanbarthau, bydd y swyddogaeth cynllunio datblygu strategol, y swyddogaeth cynllunio trafnidiaeth ranbarthol, a'r swyddogaeth llesiant economaidd wedyn yn dechrau yn 2022. Bydd hyn yn rhoi'r amser y mae llywodraeth leol wedi gofyn amdano i roi'r trefniadau llywodraethu a gweinyddu angenrheidiol ar waith. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw. Diolch.
Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau technegol iawn hyn, sydd wedi eu grwpio i'w trafod y prynhawn yma, yn ein cyfarfod ar 8 Mawrth. Bydd fy sylwadau y prynhawn yma yn canolbwyntio ar Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021, a Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021. Nid ydym wedi gwneud unrhyw sylwadau ynglŷn â'r rheoliadau eraill sy'n cael eu hystyried yn y grŵp hwn, ac rydym wedi gosod adroddiadau clir yn gysylltiedig â'r rheoliadau hynny. Mae ein hadroddiad ar Gyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021 yn cynnwys dau bwynt adrodd technegol ac un pwynt rhinwedd.
Nododd ein pwynt technegol cyntaf y dylai pennawd pwnc y rheoliadau gynnwys 'llywodraeth leol', i nodi'r maes cyfreithiol y mae'r offeryn yn ymwneud ag ef. Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â'n barn ac, yn ei hymateb i'n hadroddiad, mae wedi nodi, pe byddai'r rheoliadau'n cael eu cymeradwyo y prynhawn yma, y bydd y pennawd pwnc ychwanegol yn cael ei gynnwys yn y fersiwn sydd i'w llofnodi gan y Gweinidog.
Mae ein hail bwynt technegol yn ymwneud â'r hyn yr oeddem yn ei ystyried yn gamgymeriad yn y pwerau a nodwyd yn y rhagymadrodd i'r rheoliadau. Mae Llywodraeth Cymru yn anghytuno â'n hasesiad ni ar hyn, ac mae ei hymateb i'n hadroddiad yn nodi'r rhesymeg dros y pwerau a nodwyd.
Mae'r un pwynt adrodd ar rinweddau sydd gennym yn amlygu'r hyn yr ydym yn ei ystyried yn gyfeiriad amherthnasol yn y memorandwm esboniadol sy'n cyd-fynd â'r rheoliadau. Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno â'n hasesiad, a nodaf fod y memorandwm esboniadol wedi ei ddiweddaru i ddisodli'r cyfeiriad gwallus.
Gan symud ymlaen at ein hadroddiad ar Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021, dim ond un pwynt rhinwedd y mae ein hadroddiad yn ei gynnwys, sydd unwaith eto yn ymwneud â phennawd pwnc y rheoliadau. Mae pennawd pwnc y rheoliadau a ddrafftiwyd ar hyn o bryd yn cyfeirio at 'lywodraeth leol, Cymru'. Fodd bynnag, prif bwyslais y rheoliadau yw trosglwyddo swyddogaethau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth leol i'r cyd-bwyllgorau corfforedig perthnasol sydd newydd eu ffurfio. O'r herwydd, nid yw'n glir pam nad yw'r pennawd pwnc yn cynnwys 'trafnidiaeth' hefyd. Unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â'n barn ni ac wedi nodi, pe byddai'r rheoliadau'n cael eu cymeradwyo y prynhawn yma, y bydd y pennawd pwnc ychwanegol yn cael ei gynnwys yn y fersiwn sydd i'w llofnodi gan y Gweinidog. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Ni all y Ceidwadwyr Cymreig ymrwymo 100 y cant i'r rheoliadau hyn o hyd. O dan y rheoliadau, bydd cynghorau'n cael eu gorfodi i gymryd rhan mewn cyd-bwyllgorau corfforedig newydd, cyrff cyhoeddus a fydd yn gwneud penderfyniadau rhanbarthol ar bopeth—addysg, trafnidiaeth, defnydd tir a lles economaidd. Diben y rheoliadau hyn yw gwella cydweithredu a gweithio rhanbarthol rhwng cynghorau ac, yn y bôn, tacluso'r strwythurau cydweithredol. Bydd cyd-bwyllgorau corfforedig yn cynnwys aelodau etholedig yn eu prif gynghorau cyfansoddol, yn ogystal ag aelodau cyfetholedig a fydd yn gallu cyflogi staff a dal asedau a chyllid. Byddai'r rheoliadau hyn yn trosglwyddo nifer o swyddogaethau i'r cyd-bwyllgorau corfforedig hyn, megis y swyddogaeth llesiant economaidd, trafnidiaeth a'r swyddogaeth cynllunio strategol.
Yn ystod Cyfnod 1 y trafodion ar Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, codwyd nifer o bryderon ynghylch cyd-bwyllgorau corfforedig. Cododd Cartrefi Cymunedol Cymru bryderon am ddarpariaeth gyfyngedig trefniadau atebolrwydd cyd-bwyllgorau corfforedig, sy'n groes i ymrwymiad y Bil i wella mynediad a chyfranogiad mewn penderfyniadau lleol. Yn y cyfamser, dadleuodd Un Llais Cymru y bydd gwasanaethau yn dod yn fwy rhanbarthol ac ymhellach ac yn fwy anghysbell oddi wrth etholwyr lleol.
Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, er ei bod yn gefnogol i gyd-bwyllgorau corfforedig gwirfoddol, yn pryderu am yr effaith y byddai cyd-bwyllgorau corfforedig a orfodwyd gan Lywodraeth Cymru yn ei chael ar gynghorau, gan fwriadu bod ganddi bryderon sylfaenol ynghylch yr egwyddor o orfodi, yr ystyrir ei bod yn tanseilio democratiaeth leol.
Er ein bod yn cydnabod bwriadau'r cyd-bwyllgorau corfforedig yn gyffredinol, mae'n rhaid iddyn nhw beidio ag arwain at gydweithredu dim ond er mwyn cydweithredu. Mae'n rhaid i ni fod yn siŵr y bydd unrhyw gyd-bwyllgorau corfforedig yn gwella cydweithredu yn hytrach na dim ond dyblygu yr hyn sy'n bodoli eisoes. Fodd bynnag, rydym ni'n pryderu bod cyd-bwyllgorau corfforedig gorfodol yn tanseilio'r datganoli mewnol a'r gwaith partneriaeth lleol sydd eisoes wedi'i sefydlu ac y bydd yn arwain at uno cynghorau drws cefn ym mhopeth ond enw. Rydym o'r farn bod trefniadau gweithio cydweithredol yn gweithio orau pan eu bod nhw'n organig, pan fo pob aelod cyfansoddol yn mynd ati i geisio cydweithio i wella'r gwasanaethau a ddarperir yn rhanbarthol er budd cymdeithasol ac economaidd i'r trigolion, a bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru barchu ymreolaeth cynghorau lleol. Yn syml: mae angen i ni weithio gydag awdurdodau lleol, nid gorfodi pethau arnyn nhw. O'r herwydd, rydym ni wedi cyflwyno cyfres o welliannau yn ystod hynt y Ddeddf llywodraeth leol, i gydnabod y pryder a oedd gan randdeiliaid ynghylch creu cyd-bwyllgorau corfforedig. Fodd bynnag, roeddem yn siomedig iawn bod y Gweinidog wedi penderfynu gwrthod ein holl welliannau, a oedd yn adeiladol eu natur ac a oedd â'r bwriad o ymateb i bryderon rhanddeiliaid, ac yn enwedig cynrychiolwyr llywodraeth leol.
Cafodd y dadleuon a ddefnyddiwyd gan y Gweinidog eu gwrth-ddweud yn uniongyrchol hefyd gan y sylwadau a wnaed gan randdeiliaid y buom yn gweithio gyda nhw drwy gydol y broses ddiwygio. Unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod ideoleg uwchlaw barn arbenigol rhanddeiliaid. Mae pryderon wedi parhau i gael eu codi gan randdeiliaid amrywiol am gyd-bwyllgorau corfforedig, ac mae'n ymddangos bod y rheoliadau hyn yn anwybyddu pryderon dilys llawer o fewn y sector llywodraeth leol a thu hwnt. Ar adeg pan fo pobl yn dymuno i benderfyniadau fod yn agosach at bleidleiswyr a chan gynrychiolwyr sy'n uniongyrchol atebol, bydd hyn yn creu cyrff sy'n rhoi pŵer yn nwylo unigolion na chafodd eu hethol ac ymhellach i ffwrdd oddi wrth gymunedau. Dyna pam y byddwn yn gwrthwynebu y rhan fwyaf o'r rheoliadau hyn.
Bydd Plaid Cymru'n pleidleisio yn erbyn y prif reoliadau i sefydlu'r cydbwyllgorau corfforedig heddiw. Byddwn ni'n galw ar bob Aelod i wneud yr un peth. Mae Plaid Cymru yn credu y dylai llywodraethiant Cymru i'r dyfodol barhau i gynnwys haenau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, ac yn cytuno bod angen y strwythurau cywir mewn lle i gefnogi gwneud penderfyniadau effeithiol ar y lefel iawn a chyda atebolrwydd democrataidd clir i'r bobl y mae'r strwythurau yn eu gwasanaethu.
Mae angen i unrhyw newid ddigwydd fel rhan o weledigaeth glir ar gyfer llywodraethiant Cymru yn ei chyfanrwydd er mwyn cyflawni egwyddorion penodol, ac yn anffodus, dwi ddim yn meddwl bod hwnna yn wir fan hyn—egwyddorion fel trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus, codi'r genedl, cysylltu holl gymunedau Cymru, sicrhau y budd mwyaf o arian trethdalwyr ac osgoi dyblygu strwythurau. Yn anffodus, dim cynllun ar gyfer y tymor hir sydd yma ond ymgais annerbyniol, buaswn i'n dweud, i ruthro newid pellgyrhaeddol drwy'r Senedd gydag wythnos i fynd o'n mandad fel Aelodau etholedig yng nghanol pandemig, heb unrhyw weledigaeth nac egwyddorion clir o unrhyw werth yn sail i'r newidiadau yma.
Yn amlwg, oherwydd COVID, mae'r holl broses wedi digwydd yn frysiog. Daeth y ddeddfwriaeth gynradd sy'n galluogi cyflwyno'r cydbwyllgorau corfforedig i rym ym mis Ionawr tra roedd mwyafrif y cyrff sy'n cyflawni'r gwasanaethau cyhoeddus a fydd yn cael eu heffeithio gan hyn yn brwydro ton waethaf eto y pandemig. Mae'r ymgynghori annigonol, buaswn i'n dweud, sydd wedi digwydd, wedi ennyn ymateb chwyrn gan awdurdodau lleol, a hefyd cymdeithas sifig, fel sydd wedi cael ei osod mas, i gyd yn poeni am effaith y newidiadau annemocrataidd.
Mae disgwyl i'r rheoliadau ddod i rym—os ydyn nhw'n cael eu pasio heddiw gan y Senedd—ar 1 Ebrill pan na fydd y Senedd yma'n eistedd rhagor. Pwrpas etholiadau yw gadael i bobl benderfynu, felly, yn amlwg, buaswn i'n dweud mai'r peth priodol i'w wneud byddai gadael i'r pleidiau i roi eu gweledigaeth ar gyfer llywodraethiant Cymru o flaen pobl Cymru fel y gall y bobl benderfynu os ydyn nhw'n cytuno. Mae cydweithio rhanbarthol gwirfoddol, wrth gwrs, yn rhywbeth really pwysig, ac mae'n digwydd ers nifer o flynyddoedd yng Nghymru, i wahanol raddau o lwyddiant, ond mae'r newid sy'n cael ei gynnig yma yn syfrdanol, fel rydyn ni wedi clywed eto. Mae'n bellgyrhaeddol; mae'n creu endidau newydd fydd yn gallu cyflogi staff, fel mae Laura Jones wedi'i osod mas, gan gynnwys prif weithredwyr, uwch staff, caffael, adeiladau, adnoddau, a byddai'n golygu newid mawr yn nhirlun llywodraethiant Cymru.
Ond nid yn unig ar sail diffygion y broses ac absenoldeb gweledigaeth i'r peth y byddwn ni'n gwrthwynebu, ond ar sail y sylwedd hefyd, oherwydd mae'n gynllun sydd yn amlwg fydd yn gostus iawn. Buaswn i'n dweud byddai fe'n wastraff o'r arian yna, yn ogystal â'r problemau o ran diffyg democratiaeth. Yn y gogledd, er enghraifft, mae'r Gweinidog wedi cadarnhau bydd yna ddau strwythur rhanbarthol cyfochrog ar gyfer cyfrifoldebau datblygu economaidd y bwrdd uchelgais sydd yn endid ar staff a chynllun strategol, ac sydd wedi'i sefydlu gan y city deals Prydeinig a'r cydbwyllgor corfforedig. Dwi jest ddim yn gweld sut byddai hwnna yn gallu gwneud synnwyr.
Mae'r pandemig wedi dangos na allwn ni roi ein ffydd mewn grymoedd pell i ffwrdd—a dwi'n gwybod bod y pwynt yma wedi cael ei wneud yn barod, ac mae hyn wedi ennyn teimladau cryf iawn, dwi'n meddwl. Oherwydd gwrthwynebiadau pobl leol o ran y trosglwyddo pwerau sydd yn mynd i ddigwydd, buaswn i'n dweud ei bod hi'n bwysicach i ni beidio â dilyn map San Steffan, sydd yn parhau i'n gwneud ni'n ddibynnol ar friwsion oddi ar fwrdd rhywun arall, yn hytrach na chysylltu cymunedau a gwireddu potensial ein gwlad ni'n hunain.
Buaswn i'n cau, Dirprwy Lywydd, drwy ddweud fy mod i'n obeithiol y bydd y rheoliadau yma'n dod i ben mor gyflym â'u bod nhw wedi dod i rym, gan y bydd Llywodraeth Cymru yn eu disodli ar unwaith ac yn edrych i godi'r genedl yng nghysgod y pandemig, nid ei rannu ymhellach.
Diolch. Nid oes gennyf unrhyw Aelodau sydd wedi nodi eu bod yn dymuno ymyrryd, felly galwaf ar y Gweinidog i ymateb i'r ddadl. Julie James.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i Gadeirydd ac aelodau'r pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder am y pwyntiau y maen nhw wedi'u gwneud, ac mae'r Cadeirydd yn llygad ei le wrth grynhoi ymateb Llywodraeth Cymru i'r pwyntiau hynny—nid oes gennyf ddim byd pellach i'w ychwanegu at y ddau hynny.
Mae Laura a Delyth, mae arnaf i ofn, wedi ceisio ail-gynnal y sgwrs a ddigwyddodd yn y Senedd cyn pasio'r Ddeddf yng Nghyfnod 2 a Chyfnod 3. Nid y rhain, wrth gwrs, yw'r egwyddorion sylfaenol yr ydym yn sôn amdanyn nhw heddiw, dyma'r rheoliadau sy'n galluogi'r Ddeddf, a basiwyd yn ddemocrataidd gan y Senedd, fel y dywedodd y ddwy ohonyn nhw yn gywir, yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Felly, nid yw ail-gynnal y drafodaeth ar y materion sylfaenol sy'n ymwneud â'r Ddeddf, a gafodd eu hailadrodd yn helaeth yng Nghyfnod 2 a Chyfnod 3, mewn gwirionedd yn mynd i'r afael ag unrhyw un o faterion y rheoliadau sydd ger ein bron heddiw.
Felly, nid wyf i'n bwriadu mynd yn ôl drwy'r holl ddadleuon a gawsom o flaen y Senedd pan basiwyd y Ddeddf honno mewn modd democrataidd, Dirprwy Lywydd. Fe ddywedaf i hyn, serch hynny: rydym ni wedi gwneud hyn mewn cydweithrediad llwyr â llywodraeth leol yr holl ffordd drwodd. Rwyf fi fy hun wedi buddsoddi llawer iawn o amser ac egni yn siarad yn uniongyrchol ag arweinyddion bob wythnos, weithiau bob dydd, drwy'r pandemig. Rydym ni wedi ymgynghori'n eang ynglŷn â hyn, ac mae swyddogion ym mhob rhan o lywodraeth leol wedi ein cynorthwyo i roi'r rheoliadau hyn a'r canllawiau sy'n mynd gyda nhw ar waith. Gwnaed hyn drwy gyd-ddatblygu drwy gydol y daith gyda phobl sy'n deall yn llwyr sut mae llywodraeth leol yn gweithio, gwerthfawrogi ei lle yn ein teulu o atebolrwydd democrataidd ac sy'n awyddus iawn i lywodraeth leol allu cymryd ei lle ar lwyfan priodol.
Felly, gwrthodaf yn llwyr, o'r ddwy ochr, mewn gwirionedd—ac mae'n ddiddorol bod eu hymosodiadau o ochrau hollol wahanol—gwrthodaf hynny'n llwyr. Yr hyn y mae hyn yn ei wneud yw grymuso llywodraeth leol, mae'n rhoi arf pwysig ar gyfer cydweithredu. Bydd yn cefnogi adferiad strategol ac yn gweddnewid y modd y darperir gwasanaethau yng Nghymru. Mae'n rhoi offeryn i lywodraeth leol na fu ganddyn nhw erioed o'r blaen yng Nghymru, ac rwy'n siŵr y byddan nhw yn ei ddefnyddio'n ddoeth, oherwydd rwy'n credu mewn democratiaeth leol ac mewn llywodraeth leol, ac mae'r Ddeddf hon yn dangos bod hynny'n wir. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 9. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwyf yn gweld gwrthwynebiad. Felly, byddwn yn pleidleisio arno yn ystod y cyfnod pleidleisio.
Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 10. A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwelaf bod gwrthwynebiad i eitem 10. Felly, byddwn yn pleidleisio yn ystod y cyfnod pleidleisio.
Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 11. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad yn y fan yna, felly rydym yn gohirio'r pleidleisio.
Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 12. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Ac mae gwrthwynebiad. Felly, unwaith eto, rydym yn gohirio'r pleidleisio o dan yr eitem hon.
Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 13. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae gwrthwynebiad. Felly, rydym yn gohirio'r pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 14. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Mae gwrthwynebiad. Felly, byddwn yn pleidleisio, unwaith eto, yn ystod y cyfnod pleidleisio.
Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 15. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwelaf wrthwynebiad ar 15. Felly, rydym yn gohirio'r pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 16. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwelaf wrthwynebiad ar eitem 16. Felly, rydym ni, unwaith eto, yn gohirio'r pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 17. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwelaf wrthwynebiad. Felly, byddwn yn pleidleisio ar eitem 17 yn ystod y cyfnod pleidleisio.
Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 18. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwyf yn gweld bod gwrthwynebiad. Felly, cytunwn i ohirio'r pleidleisio ar hyn tan y cyfnod pleidleisio.