Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 16 Mawrth 2021.
Bydd Plaid Cymru'n pleidleisio yn erbyn y prif reoliadau i sefydlu'r cydbwyllgorau corfforedig heddiw. Byddwn ni'n galw ar bob Aelod i wneud yr un peth. Mae Plaid Cymru yn credu y dylai llywodraethiant Cymru i'r dyfodol barhau i gynnwys haenau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, ac yn cytuno bod angen y strwythurau cywir mewn lle i gefnogi gwneud penderfyniadau effeithiol ar y lefel iawn a chyda atebolrwydd democrataidd clir i'r bobl y mae'r strwythurau yn eu gwasanaethu.
Mae angen i unrhyw newid ddigwydd fel rhan o weledigaeth glir ar gyfer llywodraethiant Cymru yn ei chyfanrwydd er mwyn cyflawni egwyddorion penodol, ac yn anffodus, dwi ddim yn meddwl bod hwnna yn wir fan hyn—egwyddorion fel trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus, codi'r genedl, cysylltu holl gymunedau Cymru, sicrhau y budd mwyaf o arian trethdalwyr ac osgoi dyblygu strwythurau. Yn anffodus, dim cynllun ar gyfer y tymor hir sydd yma ond ymgais annerbyniol, buaswn i'n dweud, i ruthro newid pellgyrhaeddol drwy'r Senedd gydag wythnos i fynd o'n mandad fel Aelodau etholedig yng nghanol pandemig, heb unrhyw weledigaeth nac egwyddorion clir o unrhyw werth yn sail i'r newidiadau yma.
Yn amlwg, oherwydd COVID, mae'r holl broses wedi digwydd yn frysiog. Daeth y ddeddfwriaeth gynradd sy'n galluogi cyflwyno'r cydbwyllgorau corfforedig i rym ym mis Ionawr tra roedd mwyafrif y cyrff sy'n cyflawni'r gwasanaethau cyhoeddus a fydd yn cael eu heffeithio gan hyn yn brwydro ton waethaf eto y pandemig. Mae'r ymgynghori annigonol, buaswn i'n dweud, sydd wedi digwydd, wedi ennyn ymateb chwyrn gan awdurdodau lleol, a hefyd cymdeithas sifig, fel sydd wedi cael ei osod mas, i gyd yn poeni am effaith y newidiadau annemocrataidd.
Mae disgwyl i'r rheoliadau ddod i rym—os ydyn nhw'n cael eu pasio heddiw gan y Senedd—ar 1 Ebrill pan na fydd y Senedd yma'n eistedd rhagor. Pwrpas etholiadau yw gadael i bobl benderfynu, felly, yn amlwg, buaswn i'n dweud mai'r peth priodol i'w wneud byddai gadael i'r pleidiau i roi eu gweledigaeth ar gyfer llywodraethiant Cymru o flaen pobl Cymru fel y gall y bobl benderfynu os ydyn nhw'n cytuno. Mae cydweithio rhanbarthol gwirfoddol, wrth gwrs, yn rhywbeth really pwysig, ac mae'n digwydd ers nifer o flynyddoedd yng Nghymru, i wahanol raddau o lwyddiant, ond mae'r newid sy'n cael ei gynnig yma yn syfrdanol, fel rydyn ni wedi clywed eto. Mae'n bellgyrhaeddol; mae'n creu endidau newydd fydd yn gallu cyflogi staff, fel mae Laura Jones wedi'i osod mas, gan gynnwys prif weithredwyr, uwch staff, caffael, adeiladau, adnoddau, a byddai'n golygu newid mawr yn nhirlun llywodraethiant Cymru.
Ond nid yn unig ar sail diffygion y broses ac absenoldeb gweledigaeth i'r peth y byddwn ni'n gwrthwynebu, ond ar sail y sylwedd hefyd, oherwydd mae'n gynllun sydd yn amlwg fydd yn gostus iawn. Buaswn i'n dweud byddai fe'n wastraff o'r arian yna, yn ogystal â'r problemau o ran diffyg democratiaeth. Yn y gogledd, er enghraifft, mae'r Gweinidog wedi cadarnhau bydd yna ddau strwythur rhanbarthol cyfochrog ar gyfer cyfrifoldebau datblygu economaidd y bwrdd uchelgais sydd yn endid ar staff a chynllun strategol, ac sydd wedi'i sefydlu gan y city deals Prydeinig a'r cydbwyllgor corfforedig. Dwi jest ddim yn gweld sut byddai hwnna yn gallu gwneud synnwyr.
Mae'r pandemig wedi dangos na allwn ni roi ein ffydd mewn grymoedd pell i ffwrdd—a dwi'n gwybod bod y pwynt yma wedi cael ei wneud yn barod, ac mae hyn wedi ennyn teimladau cryf iawn, dwi'n meddwl. Oherwydd gwrthwynebiadau pobl leol o ran y trosglwyddo pwerau sydd yn mynd i ddigwydd, buaswn i'n dweud ei bod hi'n bwysicach i ni beidio â dilyn map San Steffan, sydd yn parhau i'n gwneud ni'n ddibynnol ar friwsion oddi ar fwrdd rhywun arall, yn hytrach na chysylltu cymunedau a gwireddu potensial ein gwlad ni'n hunain.
Buaswn i'n cau, Dirprwy Lywydd, drwy ddweud fy mod i'n obeithiol y bydd y rheoliadau yma'n dod i ben mor gyflym â'u bod nhw wedi dod i rym, gan y bydd Llywodraeth Cymru yn eu disodli ar unwaith ac yn edrych i godi'r genedl yng nghysgod y pandemig, nid ei rannu ymhellach.