– Senedd Cymru am 5:43 pm ar 16 Mawrth 2021.
Eitem 26 yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Cam-drin Domestig. Rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i wneud y cynnig. Jane Hutt.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ddweud fy mod i'n falch o gynnig y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ac rwy'n croesawu'r cyfle i egluro pam yr wyf i'n credu y dylai'r Senedd ei gymeradwyo? Mae'n amserol iawn ein bod ni'n trafod hyn heddiw. Rwyf i eisiau dechrau drwy gynnig ein cydymdeimlad—ac rwy'n siŵr bod hyn yn cael ei rannu ledled Senedd—i deulu Sarah Everard. Fel y dywedais i yn fy natganiad ysgrifenedig, a gafodd ei gyhoeddi yn gynharach heddiw, mae'r Llywodraeth hon bob amser wedi bod yn glir iawn ynglŷn â'n huchelgais i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, ac mae'r protestiadau yn sgil marwolaeth Sarah yn ein hatgoffa ni i gyd o bwysigrwydd hanfodol yr holl gamau y gallwn ni eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater hwn. Wrth gwrs, mae hynny'n seiliedig ar ein deddfwriaeth a'n strategaeth trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig. Ond mae'r ddadl heddiw hefyd yn amserol iawn.
Hoffwn i ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am graffu ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol Rhif 2. Rwy'n credu bod y Bil hwn yn nodi darn gwerthfawr o ddeddfwriaeth, a dylai elfennau ohono fod yn berthnasol i Gymru hefyd. Bydd y Bil yn ymdrin â rhai meysydd pwysig iawn y byddaf i'n tynnu sylw atyn nhw yn fyr heddiw. Wrth gwrs, fel y dywedais i, yng Nghymru, mae gennym ni eisoes ein Deddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, sy'n creu diffiniad statudol o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais Rhywiol. Yn yr un modd, bydd y diffiniad o fewn y Bil Cam-drin Domestig yn sicrhau bod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael ei ddeall yn briodol, ei ystyried yn annerbyniol, a'i herio ym mhob agwedd ar fywyd ledled gwasanaethau datganoledig a gwasanaethau nad ydyn nhw wedi'u datganoli. Ac mae hyn yn cyd-fynd yn dda â diben strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol y Llywodraeth hon i wella'r broses o atal pob math o gam-drin domestig a thrais.
Mae'r Bil yn gwneud newidiadau amrywiol i brosesau llysoedd, gan gynnwys gwahardd y cyhuddedig rhag croesholi'r achwynydd mewn achosion sifil, fel sy'n digwydd eisoes mewn achosion troseddol. Ac mae hyn hefyd yn cyd-fynd â'n strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i roi cymorth i ddioddefwyr a'u diogelu. Mae'r Bil yn creu swydd comisiynydd cam-drin domestig Cymru a Lloegr fel deiliad swydd statudol. Rydym ni wedi cael gwelliant i'r Bil fel y cafodd ei gyflwyno'n wreiddiol a fydd yn atal y comisiynydd rhag ymyrryd ar faterion datganoledig. Rwyf i eisoes wedi cael dau gyfarfod gyda'r darpar gomisiynydd, Nicole Jacobs, ac mae hi'n awyddus i weithio gyda'r Llywodraeth hon, awdurdodau lleol Cymru a sefydliadau'r trydydd sector i gyfrannu at ddarpariaeth a gweithredu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru.
Bydd gwelliant diweddar Llywodraeth y DU a gafodd ei gyflwyno ar 1 Mawrth ac sydd wedi'i gynnwys yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol Rhif 3 yn sicrhau bod gan y comisiynydd gopi o adroddiadau adolygu dynladdiad domestig terfynol, a fydd yn helpu i ddatblygu arfer da mewn gwasanaethau nad ydyn nhw wedi'u datganoli, fel yr heddlu a'r gwasanaethau prawf yma yng Nghymru. Rwy'n arbennig o gefnogol i welliannau diweddar Llywodraeth y DU a fydd yn gwella'r ddarpariaeth ar gyfer goroeswyr yng Nghymru ymhellach, sydd wedi'u cynnwys yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol Rhif 3. Mae'r gwelliant ar gyfer tagu nad yw'n angheuol yn ei gwneud yn drosedd i dagu neu'i fygu unigolyn arall yn fwriadol, yn enwedig pan nad yw ymosodiad o'r fath yn gadael unrhyw anafiadau gweladwy neu dim ond mân anafiadau gweladwy. Bydd y drosedd newydd a phenodol hon yn ei gwneud yn haws dod â throseddwyr o'r fath i gyfiawnder. A rhoddais i fy nghefnogaeth gref i'r drosedd hon pan wnaethom ni gyfarfod yn ddiweddar â'r Gweinidogion Chalk ac Atkins, noddwyr y Bil hwn. Rwyf i hefyd yn croesawu'r gwelliant i ymestyn y tramgwydd o reoli ymddygiad neu ymddygiad rheolaeth drwy orfodaeth o ran perthynas deuluol neu berthynas agos at gyn-bartneriaid ac aelodau o'r teulu nad ydyn nhw'n byw gyda'i gilydd. Rydym ni'n gwybod yn iawn nad yw trais yn dod i ben dim ond oherwydd nad yw pobl yn byw gyda'i gilydd mwyach.
Ac i orffen, hoffwn i groesawu gwelliant Llywodraeth y DU sy'n sicrhau nad yw ffi yn cael ei chodi ar ddioddefwyr gan ymarferwyr meddygol am adroddiad neu lythyr i'w galluogi i gael cymorth cyfreithiol sifil. Mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu nad yw hwn yn fater mawr yng Nghymru, ond ni fyddwn i eisiau gweld dioddefwyr camdriniaeth, sydd mor aml yn anghenus gyda fawr ddim, neu dim arian o gwbl, yn gorfod talu am adroddiad o'r fath i'w helpu i brofi at ddibenion cymorth cyfreithiol eu bod wedi dioddef cam-drin domestig.
Cyfeiriais i at laddiad Sarah Everard ar ddechrau fy araith i, sydd wedi effeithio ar bob un ohonom ni. Bydd y Llywodraeth hon yn parhau i weithio mewn partneriaeth â gwasanaethau arbenigol a gyda heddluoedd Cymru, comisiynwyr heddluoedd a throseddu, byrddau diogelwch cyhoeddus a Gwasanaeth Erlyn y Goron. Mae'n rhaid i'r Bil hwn gynnig yr amddiffyniad cryfaf posibl i fenywod, ac anogaf yr Aelodau i gynnig cefnogaeth i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol pwysig hwn, ac rwy'n cynnig y cynnig hwn.
Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw?
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ni ystyried memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gwreiddiol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil ym mis Medi a mis Hydref y llynedd, ac fe wnaethom ni ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol yn ein cyfarfod ar 8 Chwefror. Fe wnaethom ni gyflwyno un adroddiad ar y ddau femorandwm ar 25 Chwefror.
Mae ein hadroddiad yn nodi asesiad y Dirprwy Weinidog o'r darpariaethau yn y Bil y mae angen cydsyniad y Senedd ar eu cyfer, yn benodol bod cydsyniad yn cael ei geisio o ganlyniad i ddiben cyffredinol ehangach y Bil. Fe wnaethom ni ofyn am eglurhad gan y Dirprwy Weinidog ynghylch pam yr oedd Llywodraeth Cymru o'r farn bod angen cydsyniad. Roeddem ni o'r farn y dylai dadansoddiad ac esboniad mwy trylwyr yn hyn o beth fod wedi eu cynnwys yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gwreiddiol. Nid oeddem ni o'r farn y gallai cymalau 65, 66 a 68 fel y maen nhw wedi'u drafftio ar hyn o bryd gael eu gwneud gan y Senedd. Fodd bynnag, mae'n amlwg o'n gohebiaeth â'r Dirprwy Weinidog ac o'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol, fod Llywodraeth Cymru wedi ystyried y materion hyn yng nghyd-destun ehangach dibenion ehangach y Bil, sef cam-drin domestig, sydd mewn maes datganoledig.
Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at ofynion Rheol Sefydlog 29, sy'n nodi bod angen cynnig cydsyniad deddfwriaethol pan fydd Bil yn gwneud darpariaeth at unrhyw ddiben sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Gan ystyried y farn ehangach hon, rydym ni'n cytuno bod y darpariaethau hyn yn ymwneud â diben o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
O ystyried mai dim ond prynhawn dydd Gwener y cafodd memorandwm Rhif 3 ei osod, nid ydym wedi cael amser i roi unrhyw ystyriaeth iddo yn y pwyllgor. Fodd bynnag, rwyf i yn nodi bod nifer o welliannau eraill wedi eu gwneud i'r Bil sy'n effeithio ar gymwyseddau datganoledig. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Yn dilyn yr hyn y mae'r Dirprwy Weinidog, Jane Hutt, newydd ei ddweud ar ddechrau ei chyfraniad, hoffwn i ei roi ar gofnod hefyd fod teulu Sarah Everard yn gadarn yn ein meddyliau ni yng Ngheidwadwyr Cymru hefyd, a'n bod yn rhannu ei theimladau. Mae ei llofruddiaeth yn amlygu yn anffodus yr angen i ni wneud mwy, a'r angen i bob un ohonom ni gydweithio i sicrhau diogelwch menywod yn ein gwlad.
Mae'r Bil Cam-drin Domestig yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth a fydd yn trawsnewid ymateb y Llywodraeth i ddioddefwyr yng Nghymru ac yn helpu i sicrhau bod troseddwyr yn cael eu dwyn o flaen eu gwell. Mae yna ryw 2.4 miliwn o ddioddefwyr cam-drin domestig bob blwyddyn, rhwng 16 a 74 oed, ac mae dwy ran o dair ohonyn nhw'n fenywod. Ac mae mwy nag un o bob 10 o'r holl droseddau sy'n cael eu cofnodi gan yr heddlu yn gysylltiedig â cham-drin domestig. Rydym ni i gyd yn ymwybodol o'r pwysau cynyddol—yr ydym ni wedi tynnu sylw ato droeon yn y Siambr hon—y mae mesurau cyfyngiadau symud sydd wedi eu cyflwyno i fynd i'r afael â'r pandemig yn eu rhoi ar deuluoedd a pherthnasoedd.
Ym mis Rhagfyr 2019, cafodd Llywodraeth y DU ei hethol gydag ymrwymiad maniffesto i gefnogi pawb sy'n dioddef cam-drin domestig a phasiodd y Bil Cam-drin Domestig, a gafodd ei gyflwyno yn wreiddiol yn y Senedd ddiwethaf. Nod y Bil yw sicrhau bod gan ddioddefwyr yr hyder i gyflwyno eu hunain ac adrodd eu profiadau, gan wybod y bydd y wladwriaeth yn gwneud popeth o fewn ei gallu i'w cefnogi nhw a'u plant a mynd ar drywydd y camdriniwr.
Yng ngwanwyn 2018, cynhaliodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad cyhoeddus ar drawsnewid yr ymateb i gam-drin domestig, a ddenodd dros 3,200 o ymatebion. Cafodd ymateb y Llywodraeth i'r ymgynghoriad a'r Bil Cam-drin Domestig drafft ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2019. Nododd ymateb y Llywodraeth 123 o ymrwymiadau, rhai deddfwriaethol a rhai anneddfwriaethol, a gafodd eu cynllunio i hyrwyddo ymwybyddiaeth o gam-drin domestig, amddiffyn a chefnogi dioddefwyr a'u teuluoedd, trawsnewid y broses gyfiawnder, blaenoriaethu diogelwch dioddefwyr a darparu ymateb effeithiol i gamdrinwyr, ac ysgogi cysondeb a gwell perfformiad wrth ymateb i gam-drin domestig ym mhob ardal, asiantaeth a sector lleol.
Mae cam-drin domestig yn drosedd ffiaidd sy'n bygwth bywydau dioddefwyr yn eu cartrefi eu hunain, lle dylen nhw deimlo'n ddiogel. Felly, mae'n iawn ein bod ni'n rhoi'r cymorth sydd ei angen ar ddioddefwyr i'w helpu nhw a'u plant i ailgydio yn eu bywydau. Felly, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig hwn.
Nid oeddwn i'n meddwl y gallem ni fynd heddiw heb ddweud rhywbeth am y pandemig o drais gan ddynion yn erbyn menywod ar ôl digwyddiadau'r pythefnos diwethaf. Y penwythnos cyn diwethaf, cafodd Wenjing Lin 16 oed o'r Rhondda ei lladd o ganlyniad i drais gan ddyn. Wedyn fe wnaethom ni glywed bod corff Sarah Everard wedi'i ganfod, ac mae'n ymddangos y cafodd hithau ei lladd hefyd o ganlyniad i drais gan ddyn. Rydym ni'n meddwl am anwyliaid Wenjing a Sarah, a holl anwyliaid y bobl yr ydym ni wedi eu colli o ganlyniad i drais gan ddynion. A hoffwn i dalu teyrnged hefyd i bawb sy'n byw ag ôl-effeithiau trais gan ddynion. Mae ofn ar lawer o fenywod ar hyn o bryd; prin yw'r ffydd sydd gan lawer o fenywod, os ydyn nhw'n cwyno, y bydd yn cael ei ystyried o ddifrif. Ac ie, wrth gwrs, nid pob dyn sy'n peri risg i ni, ond sut yr ydym ni i fod i wybod pa rai yw'r rhai da, a pha rai sy'n bwriadu achosi niwed i ni?
Rydym ni'n gwybod bod menywod yn fwy tebygol o gael eu lladd gan rywun y maen nhw'n ei adnabod yn dda. Rydym ni'n gwybod nad yw menywod yn y gwaith, ar y stryd, yn y dafarn, ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn ddiogel ac nad ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel. Rydym ni'n gwybod oherwydd bod ymddygiad o'r math cymharol fân i'r math eithaf difrifol yn digwydd yn gyhoeddus yn rheolaidd ac yn amlach na pheidio, nid yw'n cael ei herio. Mae gormod o bobl yn barod i edrych y ffordd arall, i beidio ag ymwneud â'r sefyllfa, a dyma'r hyn y mae'n rhaid ei newid. Mae Llywodraeth y DU wedi colli nifer o gyfleoedd i amddiffyn menywod a merched yn y Bil hwn, ac rwy'n mawr obeithio y caiff ei gryfhau. Mae yn cynnwys elfennau da, ac rwyf i'n croesawu'n arbennig y datblygiadau ar y mater o dagu. Ond gallai fod wedi mynd gymaint ymhellach. Cyflwynodd Plaid Cymru welliannau, ac un ohonyn nhw oedd creu cofrestr cam-drin domestig. Mae adroddiad yn 2016 gan Brifysgol Caerdydd yn dweud
Mae ymchwil yn dangos bod y rhan fwyaf o droseddwyr cam-drin domestig sy'n ddynion yn droseddwyr aml, wrth i ymchwil o Loegr nodi ffigur o 83% o fewn cyfnod o chwe blynedd.
Mae elusennau cam-drin domestig hefyd wedi galw am gofrestr i ymdrin â hyn. Maen nhw hefyd wedi galw am ddim gwahaniaethu yn erbyn menywod o gefndir mudol wrth geisio a defnyddio gwasanaethau, yn unol â chonfensiwn Istanbul. Ni ddylai diogelwch i fenywod fod ar gyfer rhai menywod, ni ddylai fod ar gyfer menywod gwyn yn unig, dylai fod ar gyfer pob menyw.
Mae'n rhaid mai ein nod, siawns, yw rhoi terfyn ar y pandemig hwn o drais gan ddynion. Nid oes neb yn elwa arno. Mae cynifer o bobl yn byw mewn ofn ohono. Mae wedi'i wreiddio mewn casineb at fenywod sydd bellach yn rhywbeth sefydliadol, a dyna y mae angen mynd i'r afael ag ef. Mae'n rhaid i'r dynion sy'n gwneud hyn roi'r gorau iddi. Mae'n rhaid i'r gymdeithas sy'n eu galluogi nhw a'r sefydliadau sy'n eu hamddiffyn nhw newid. Mae casineb at fenywod yn lladd, a nawr mae'n rhaid i ni ladd casineb at fenywod.
Diolch. Nid oes yr un Aelod wedi gofyn am gael ymyriad, felly rwy'n gofyn i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt, ymateb yn fyr i'r ddadl. Jane Hutt.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a hoffwn i ddiolch i chi i gyd am y cyfraniadau. Yn gyntaf, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad—rwy'n credu y gwnaethoch chi ateb y pwynt, Mick Antoniw, y gwnaethom ni weld, fel y gwnaethoch chithau weld, bod Llywodraeth Cymru o'r farn y byddai angen cydsyniad mewn cysylltiad â darpariaethau Cymru yn y Bil hwn, ac rwyf i'n credu bod y ddadl hon wedi atgyfnerthu'r achos hwnnw yn eithaf clir. Ond rwy'n ddiolchgar, nid yn unig am eich ystyriaeth chi, ond hefyd am ystyriaeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad nad oedd yntau yn gweld unrhyw wrthwynebiad i gytundeb y cynnig.
Hoffwn ddiolch i Laura Anne Jones a Leanne Wood am eu cyfraniadau heddiw, a'u hystyriaethau a'u safbwyntiau a'u geiriau, gan gydnabod bod hyn yn rhywbeth yr wyf i'n gobeithio y cawn ni gefnogaeth drawsbleidiol amdano i sicrhau ein bod yn amddiffyn ein menywod a'n merched yng Nghymru, ac yn cymryd pob cam angenrheidiol i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a phob math o gam-drin yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar i Leanne Wood am sôn am Wenjing Lin—mae ein meddyliau gyda hi a'i theulu—ac i gofio mai dim ond yr wythnos diwethaf yr oedd yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, pan gyhoeddais i ddatganiad yn ymwneud â hyn ac â'r cynnydd rydym ni'n ei wneud o ran mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac roedd Jess Phillips, yr AS Llafur yn San Steffan, unwaith eto yn darllen enwau'r menywod hynny sydd wedi eu lladd o ganlyniad i drais gan ddynion. Felly, mae hi wedi bod yn ddadl bwysig iawn i ni heddiw.
Rwyf i'n gobeithio hefyd, o ran cefnogi'r cynnig hwn, y gwelwch chi fy mod i, yn fy natganiad heddiw, yn galw ar Lywodraeth y DU i gryfhau'r Bil Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a Llysoedd i sicrhau bod y system cyfiawnder troseddol yn amddiffyn menywod a merched yn llawn. Diolch yn fawr.
Diolch. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf i'n gweld unrhyw wrthwynebiadau, ac felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.