1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 16 Mawrth 2021.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am statws y berthynas rynglywodraethol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU? OQ56457
Llywydd, mae'r berthynas yn parhau, yn rhy aml, i fod yn anrhagweladwy, yn ad hoc, wedi ei tharfu gan weithredoedd unochrog ymosodol gan Lywodraeth y DU, a heb y sylfaen angenrheidiol o weithdrefnau ar gyfer cydweithredu rhynglywodraethol sydd ei hangen i gynnal y DU a chaniatáu iddi ffynnu fel cymdeithas wirfoddol o bedair gwlad.
Prif Weinidog, rydych chi'n hoffi rhoi'r bai ar Lywodraeth y DU am broblemau neu ymddygiad ymosodol yn y berthynas, ond oni ddylech chi gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb? Fe wnaethoch chi ddewis cael eich hun wedi eich ffilmio yn dweud bod Prif Weinidog y DU yn wirioneddol ofnadwy. Sut mae hynny yn helpu i ddod â Llywodraeth y DU at y bwrdd? Rydych chi wedi dod i'r casgliad bod y DU ar ben; rydych chi'n defnyddio ymgeiswyr sy'n cefnogi annibyniaeth yn yr etholiad sydd i ddod. Y bore yma, cefnogodd un o'ch Gweinidogion benodiad BBC Cymru o gyn-brif weithredwr Plaid Cymru fel ei gyfarwyddwr cynnwys. Onid oedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn iawn i ddweud wrthyf i yr wythnos diwethaf bod hyn i gyd yn ymwneud â chi'n ymgyfeillio a Phlaid Cymru gyda golwg ar glymblaid ar ôl yr etholiad, a, chyhyd ag y bydd gennym ni ddatganoli, y byddwn ni ar lethr llithrig i annibyniaeth?
Wel, Llywydd, mae Llywodraeth Cymru, dro ar ôl tro, ers degawd, o dan yr arweiniad a roddodd fy rhagflaenydd, Carwyn Jones, i'r holl agenda hon, wedi dadlau dros gonfensiwn cyfansoddiadol i roi'r Deyrnas Unedig ar sail a fyddai'n caniatáu iddi ffynnu yn y dyfodol, a dyna fy safbwynt i a safbwynt fy mhlaid. Rydym ni'n credu bod y Deyrnas Unedig yn well ei byd o fod â Chymru ynddi a bod Cymru yn well ei byd o fod yn y Deyrnas Unedig. Nid oes unrhyw amwysedd o gwbl yn ein safbwynt ni. Yr hyn nad oes gennym ni yw Llywodraeth y DU sy'n barod i weithredu mewn ffordd sy'n cydnabod, 20 mlynedd ers datganoli, na fydd ceisio gwneud i Lywodraethau datganoledig ufuddhau yn hytrach na dod â ni yn nes at ein gilydd, byth yn rysáit ar gyfer sicrhau parhad Teyrnas Unedig lwyddiannus.
Dro ar ôl tro, mae Carwyn Jones a minnau wedi annog Gweinidogion y DU i gynnal y sgyrsiau difrifol sydd eu hangen i sefydlu gweithdrefn rynglywodraethol, i ddod o hyd i ffyrdd annibynnol o ddatrys ac osgoi anghydfod rhwng y cenhedloedd, i wneud hynny ar sail cydraddoldeb cyfranogiad a pharch. Yn hytrach, rydym ni'n wynebu Llywodraeth y DU sy'n cymryd cyllid yn unochrog ac yn ymosodol, yn cymryd pwerau oddi wrth Lywodraethau datganoledig ar draws y Deyrnas Unedig ac, yn ei gweithredoedd bob dydd, yn bwydo'r grymoedd a fydd yn arwain at chwalu'r Deyrnas Unedig, oni bai bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn barod i gydnabod ffolineb ei dull gweithredu ac yn dilyn, yn hytrach, y mathau o ddadleuon a chynigion adeiladol y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cyfrannu yn gyson at y ddadl hon.
Prif Weinidog, a gaf i eich holi am gamau cadarnhaol y gallwch chi eu cymryd gan weithio gyda Llywodraeth y DU i wneud Cymru yn lle mwy diogel i bawb? Goleuais i, ynghyd â llawer o Aelodau a phobl eraill ledled Cymru, fy stepen drws nos Sadwrn i gefnogi ymgyrch Reclaim the Streets, nid yn unig i dalu teyrnged i Wenjing Lin a Sarah Everard, ond hefyd i ddangos ymrwymiad i wneud ein cymunedau ledled Cymru yn lleoedd mwy diogel. Rydych chi newydd sôn am gymunedau. Mae angen llawer mwy o weithredu nawr i helpu menywod a phobl i deimlo yn fwy diogel yn ein cymunedau. A allwch chi gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud yr hyn a all i gydweithio yn gadarnhaol gyda Llywodraeth y DU ar y mater penodol hwn? Ac a allech chi ddweud ychydig mwy wrthym ni hefyd am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i rymuso menywod ac i dawelu meddyliau pobl eu bod nhw'n ddiogel mewn cymunedau ledled Cymru?
Wel, Llywydd, diolchaf i Nick Ramsay am y cwestiwn difrifol a pherthnasol iawn yna, ac wrth gwrs bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu yn gadarnhaol ac yn adeiladol gyda Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig. Mae'n rhaid i fenywod yng Nghymru ac mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig fod yn ddiogel a theimlo yn ddiogel. Ac os yw hynny yn mynd i ddigwydd yng Nghymru, yna dim ond gyda chyfuniad o wasanaethau sydd wedi eu datganoli ac nad ydyn nhw wedi eu datganoli y gall hynny fod. Os yw Llywodraeth y DU eisiau cael sgwrs ac ymgysylltiad adeiladol ar y mater hwnnw, yna, wrth gwrs, byddan nhw'n canfod partner parod ar gyfer hynny yn y fan yma.
O ran y camau y gallwn ni eu cymryd, nodwyd y rhain yn y datganiad a gyhoeddwyd yn gynharach heddiw gan fy nghyd-Weinidog Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, sydd wedi neilltuo ei gyrfa wleidyddol gyfan i hyrwyddo achosion menywod a merched yma yng Nghymru. Cymeradwyaf y datganiad i Aelodau'r Senedd. Mae'n nodi'r camau y byddwn ni, fel Llywodraeth Cymru, yn ymgymryd â nhw ac, fel y dywedais, wrth ateb Nick Ramsay, pan fo eraill yn barod i weithredu gyda ni mewn modd gwirioneddol gydweithredol, byddwn ni bob amser—byddwn ni bob amser—yn barod i wneud hynny yn y ffordd fwyaf adeiladol.
Prif Weinidog, ni allaf orbwysleisio pa mor ddwfn yr wyf i'n anghytuno â phopeth y mae Mark Reckless yn sefyll drosto erbyn hyn. Mae'n ymddangos i mi mai un o'r prif rwystrau i gysylltiadau rhynglywodraethol da rhwng Cymru a Lloegr yw swyddogaeth ddi-rym, i raddau helaeth, Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae'r deiliad, Simon Hart, wedi dweud yn ddiweddar y dylai Llywodraeth Cymru roi'r gorau i ofidio am eu statws bach eu hunain yng Nghaerdydd ac...edrych ar y darlun ehangach.
A fyddech chi'n cytuno â mi mai'r darlun ehangach y mae angen i ni edrych tuag ato, cyn i ni sicrhau'r annibyniaeth a fydd yn ein grymuso, yw diddymu swyddogaeth Ysgrifennydd Cymru, o ystyried bod ei Lywodraeth ac yntau mor benderfynol o danseilio'r datganoli y mae pobl Cymru wedi pleidleisio drosto ar ddim llai na 14 achlysur, trwy ddau refferendwm a darparu mwyafrifoedd o blaid datganoli ym mhob etholiad ers 1997?
Wel, Llywydd, rwy'n sicr yn cytuno â Delyth Jewell nad oes gen i unrhyw gydymdeimlad o gwbl â'r hyn y mae Mr Reckless yn sefyll drosto nac yn ei gynnig. Rwy'n teimlo'n aml, pan fydd yr Aelod hwnnw yn gofyn cwestiynau i mi, mai'r hyn y mae'n ei wneud mewn gwirionedd yw fy nghyhuddo i o fod yn Gymro. Ac mae'n gyhuddiad, Llywydd, yr wyf i'n pledio yn euog iddo, wrth gwrs—y tu chwith allan, y tu ôl ymlaen, wyneb i waered; dywedwch chi ef, dyna'r hyn yr wyf. Ni fydd yr Aelod, mae arnaf i ofn—Mr Reckless—byth yn deall hynny, ac mae'n arwain at y gyfres gamsyniol o syniadau y mae'n eu rhoi ger ein bron.
O ran swyddfa'r Ysgrifennydd Gwladol, rwyf i wedi credu ers tro—rwyf i wedi credu ers dros ddegawd, tra'r oedd Llywodraethau Llafur yn ogystal â Llywodraethau Ceidwadol—bod y ddadl barhaus dros Ysgrifenyddion Gwladol tiriogaethol, fel y'u gelwir, wedi lleihau flwyddyn ar ôl blwyddyn. Rwy'n credu bod dadl dros weinyddiaeth yn Whitehall sy'n cymryd cyfrifoldeb adeiladol am y berthynas rhwng cenhedloedd y Deyrnas Unedig. Rwy'n credu bod hwnnw yn uchelgais priodol. Ond mae Ysgrifenyddion Gwladol tiriogaethol yn oroesiad o'r dyddiau cyn datganoli ac, fel y dywedais, rwy'n cytuno â Delyth Jewell bod y ddadl o'u plaid yn gwanhau drwy'r amser, ac yn sicr yn cael ei gwanhau pan fydd unrhyw un o ddeiliaid y swydd honno yn defnyddio'r math o iaith fychanol a diraddiol yr ydym ni wedi ei gweld gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.