1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 16 Mawrth 2021.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effeithiolrwydd gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru? OQ56440
Mae profi, olrhain, diogelu yn ddull hanfodol o ganfod, rheoli a diogelu pobl rhag lledaeniad y feirws. Mae'r dull partneriaeth gwasanaethau cyhoeddus yr ydym ni wedi ei fabwysiadu yng Nghymru wedi diogelu arian cyhoeddus, wedi ei ddefnyddio yn onest ac yn ddidwyll, ac wedi darparu system effeithiol iawn i Gymru mewn modd effeithlon.
Prif Weinidog, diolch am yr ateb yna. Y rheswm pam yr wyf i'n codi'r cwestiwn hwn yw oherwydd, yn frawychus, adroddwyd yr wythnos diwethaf, a dyfynnaf, 'nad oes unrhyw dystiolaeth i ddangos bod rhaglen profi ac olrhain gwerth biliynau o bunnoedd Llywodraeth Geidwadol y DU i fynd i'r afael â COVID-19 yn Lloegr wedi cyfrannu at ostyngiad i lefelau heintiad coronafeirws.' Ond yn waeth byth, Prif Weinidog, dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ'r Cyffredin bod y swm enfawr a wariwyd ar y cynllun hwn yn gadael yr argraff bod pwrs y wlad wedi cael ei ddefnyddio fel pwynt arian parod, gan ddod i gyfanswm o £37 biliwn dros ddwy flynedd. Mae hyn yn gwrthgyferbynnu'n llwyr â gwasanaeth profi, olrhain a diogelu GIG Cymru, a oedd, ddiwedd mis Chwefror, yn ôl yr hyn a ddeallaf, wedi cyrraedd 99.6 y cant o achosion positif a oedd yn gymwys, ynghyd â 95 y cant o'u cysylltiadau agos. A fyddech chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, ei bod hi'n sicr yn well buddsoddi arian y mae trethdalwyr yn gweithio yn galed i'w ennill mewn gwasanaethau cyhoeddus profedig sydd â hanes cadarn o gyflawni, a bod y £37 biliwn a wastraffwyd gan Lywodraeth y DU, a dweud y gwir, yn gwneud eu cynnig o godiad cyflog o 1 y cant yn is na chwyddiant i nyrsys hyd yn oed yn fwy sarhaus?
Mae Huw Irranca-Davies yn iawn; mae'r ffigur o £37 biliwn yn dyfrio'r llygad—dosbarthwyd £6 biliwn o bunnoedd mewn contractau drwy ddyfarniad uniongyrchol, heb gystadleuaeth am y contractau hynny o gwbl. Rydym ni wedi gwneud darpariaeth yn ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf i redeg ein system profi, olrhain, diogelu hynod lwyddiannus hyd at ddiwedd mis Medi, a bu angen i ni roi £60 miliwn o'r neilltu er mwyn gwneud hynny. £60 miliwn yw hynny, y gost yma yng Nghymru, nid y symiau sy'n dyfrio'r llygad a feirniadwyd yn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus hwnnw dros y ffin. Rydym ni wedi gwneud hynny, fel y mae'r Aelod yn gwybod, gan ein bod ni wedi dibynnu ar y gwasanaeth cyhoeddus—dim ymgynghorwyr £1,100 y dydd yma yng Nghymru, dim cwmnïau yn rhedeg y gwasanaeth er mwyn gwneud elw preifat. Rydym ni wedi dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus a gweision cyhoeddus, a nhw sydd wedi darparu'r system hynod lwyddiannus sydd gennym ni. Rwy'n cytuno ag ef; dychwelaf at yr ateb a roddais yn gynharach ynglŷn â'r ffordd y gallwn ni weld y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn cymryd camau i wneud yn siŵr bod canlyniadau'r pandemig hwn yn cael eu llwytho ar ysgwyddau'r rhai lleiaf abl i'w hysgwyddo. A phan fyddwn ni'n dweud mai ein gwasanaeth cyhoeddus a'n gweision cyhoeddus sydd wedi ein harwain ni drwy'r argyfwng hwn, yn y ffordd y mae ein system profi, olrhain, diogelu yn ei ddangos, ni fydd y bobl hynny yn cael unrhyw godiad cyflog o gwbl y flwyddyn nesaf. Dyna eu gwobr gan Lywodraeth y DU. Byddai gan y Llywodraeth hon, a Llywodraeth Lafur ar lefel y DU hefyd, gyfres wahanol iawn, iawn o flaenoriaethau, ac rwy'n credu bod y blaenoriaethau hynny yn cael eu rhannu gan bobl yma yng Nghymru.
Cynnig da gan y siaradwr blaenorol i 'redeg ar y Llywodraeth Dorïaidd ddrwg yn San Steffan'. Prif Weinidog, clywais eich ymateb ynglŷn â phreifat yn erbyn cyhoeddus, ond rydym ni i gyd yn gwybod, wrth gwrs, mai Kate Bingham a gyflogwyd yn breifat a wnaeth ddiogelu'r Deyrnas Unedig, gan gynnwys Cymru, mewn gwirionedd, yn llwyddiannus dros ben, o ran y brechlynnau, trwy brynu, buddsoddi a chefnogi'r holl wyddonwyr rhyfeddol hynny. Felly, gadewch i ni glywed clod i'r sector preifat hefyd. Pan fyddwch chi'n sôn am gael system profi, olrhain a diogelu hynod effeithiol i Gymru, dyna'n union yr wyf i ei eisiau, ond gadewch i ni fod yn eglur: mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud mai system olrhain cysylltiadau lwyddiannus yw un sy'n gallu olrhain 80 y cant o gysylltiadau o fewn tri diwrnod. Mae eich system profi, olrhain a diogelu chi yn cyrraedd 90 y cant o gysylltiadau—da iawn—ond o fewn naw diwrnod ar ôl y cyswllt cychwynnol hwnnw. Mae llawer o ledaenu yn ystod y cyfnod hwnnw o naw diwrnod, sy'n llawer mwy nag argymhelliad awdurdod iechyd y byd mai tri diwrnod y dylai fod. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i geisio torri'r bwlch hwnnw o naw diwrnod i'r tri diwrnod a argymhellir gan Sefydliad Iechyd y Byd, er mwyn sicrhau bod gennym ni'r system profi, olrhain a diogelu fwyaf effeithiol yma yng Nghymru?
Nid wyf i'n cydnabod y ffigur naw diwrnod o gwbl. Bydd yr Aelod yn falch iawn o wybod, o ystyried ei phryderon, y cyrhaeddwyd 90 y cant o gysylltiadau agos yr wythnos diwethaf o fewn 24 awr, ac y cyrhaeddwyd 93 y cant o achosion mynegai o fewn 24 awr. Felly, o ble mae'r naw diwrnod yn dod, wn i ddim, ond yr wythnos diwethaf dyna'r ffigurau a adroddwyd. Mae hynny yn llawer iawn gwell na'r tridiau y mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi ei nodi, ac rwy'n credu bod hynny yn dangos unwaith eto lwyddiant y system sydd gennym ni yma yng Nghymru.