Diogelu Da Byw Rhag Ymosodiadau Gan Gŵn

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 16 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:41, 16 Mawrth 2021

Ond dŷn ni'n gwybod, wrth gwrs, Gwnsler, bod gan yr Alban y pwerau sydd eu hangen arnyn nhw i weithredu i daclo'r broblem yma, ac mae yna Fil eisoes wedi, wrth gwrs, ei osod a'i gyflwyno yn y Senedd yn fanna. Yn anffodus, rydym ni, ar y cyfan, yng Nghymru, yn ddibynnol ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu, ond maen nhw wedi gwrthod gwneud hynny. Maen nhw wedi gwrthod rhoi mwy o hawliau i'r heddlu gymryd samplau DNA, er enghraifft, gan gŵn sy'n cael eu hamau o ymosod, mwy o hawliau i atalfaelu cŵn mewn rhai achosion, cryfhau dirwyon, digolledu perchnogion da byw am eu colledion ac yn y blaen.

Felly, rydym ni wedi bod mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ers blynyddoedd. Gwnes i godi hyn dros ddwy flynedd yn ôl. Onid yw hi'n amser nawr i chi ymuno â fi ac eraill i alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig, gan nad ydyn nhw, yn amlwg, yn bwriadu gweithredu ar y mater yma—. A wnewch chi ymuno â ni i alw am ddatganoli'r pwerau angenrheidiol i ni fan hyn, yn y Senedd, fel sydd wedi digwydd yn yr Alban, wrth gwrs, er mwyn i ni allu taclo'r broblem yma unwaith ac am byth?