Diogelu Da Byw Rhag Ymosodiadau Gan Gŵn

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 16 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:42, 16 Mawrth 2021

Wel, mae'r Aelod yn gwybod mai fy swyddogaeth i yw sicrhau bod Llywodraeth Cymru'n gweithio o fewn ei phwerau cyfansoddiadol, ond hefyd sicrhau ein bod ni'n gallu gweithio i'r eithaf pellaf o'n pwerau datganoledig, a hefyd yn ymchwilio am bob cyfle i sicrhau bod y setliad datganoli yn cael ei ddiwygio mewn ffordd sydd yn gweithredu er budd pobl Cymru. Mae'r Gweinidog dros yr amgylchedd wedi ysgrifennu'n ddiweddar at y Llywodraeth yn San Steffan i ofyn am newidiadau yn y maes hwn o ran deddfwriaeth yn seiliedig ar y math o feirniadaethau roedd yr Aelod yn sôn yn ei gwestiwn. Ac rŷn ni'n sicr, fel Llywodraeth, yn cefnogi'n gryf diwygio'r ddeddfwriaeth yn San Steffan, sydd yn ein galluogi ni, felly, yn y dyfodol i wneud mwy nag sydd yn bosibl ar hyn o bryd.