Diogelu Da Byw Rhag Ymosodiadau Gan Gŵn

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru ar 16 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru

2. Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i Lywodraeth Cymru ynghylch y pwerau cyfreithiol sydd ar gael i gryfhau'r gallu i ddiogelu da byw rhag ymosodiadau gan gŵn yng Nghymru? OQ56443

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:40, 16 Mawrth 2021

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n gweithio’n agos gyda lluoedd yr heddlu, gyda Llywodraeth y DU, y llywodraethau datganoledig eraill a rhanddeiliaid i ystyried beth yw’r ffyrdd gorau o fynd i’r afael â’r mater difrifol hwn o ymosodiadau gan gŵn ar dda byw ac atal effeithiau dinistriol hyn.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:41, 16 Mawrth 2021

Ond dŷn ni'n gwybod, wrth gwrs, Gwnsler, bod gan yr Alban y pwerau sydd eu hangen arnyn nhw i weithredu i daclo'r broblem yma, ac mae yna Fil eisoes wedi, wrth gwrs, ei osod a'i gyflwyno yn y Senedd yn fanna. Yn anffodus, rydym ni, ar y cyfan, yng Nghymru, yn ddibynnol ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu, ond maen nhw wedi gwrthod gwneud hynny. Maen nhw wedi gwrthod rhoi mwy o hawliau i'r heddlu gymryd samplau DNA, er enghraifft, gan gŵn sy'n cael eu hamau o ymosod, mwy o hawliau i atalfaelu cŵn mewn rhai achosion, cryfhau dirwyon, digolledu perchnogion da byw am eu colledion ac yn y blaen.

Felly, rydym ni wedi bod mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ers blynyddoedd. Gwnes i godi hyn dros ddwy flynedd yn ôl. Onid yw hi'n amser nawr i chi ymuno â fi ac eraill i alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig, gan nad ydyn nhw, yn amlwg, yn bwriadu gweithredu ar y mater yma—. A wnewch chi ymuno â ni i alw am ddatganoli'r pwerau angenrheidiol i ni fan hyn, yn y Senedd, fel sydd wedi digwydd yn yr Alban, wrth gwrs, er mwyn i ni allu taclo'r broblem yma unwaith ac am byth?  

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:42, 16 Mawrth 2021

Wel, mae'r Aelod yn gwybod mai fy swyddogaeth i yw sicrhau bod Llywodraeth Cymru'n gweithio o fewn ei phwerau cyfansoddiadol, ond hefyd sicrhau ein bod ni'n gallu gweithio i'r eithaf pellaf o'n pwerau datganoledig, a hefyd yn ymchwilio am bob cyfle i sicrhau bod y setliad datganoli yn cael ei ddiwygio mewn ffordd sydd yn gweithredu er budd pobl Cymru. Mae'r Gweinidog dros yr amgylchedd wedi ysgrifennu'n ddiweddar at y Llywodraeth yn San Steffan i ofyn am newidiadau yn y maes hwn o ran deddfwriaeth yn seiliedig ar y math o feirniadaethau roedd yr Aelod yn sôn yn ei gwestiwn. Ac rŷn ni'n sicr, fel Llywodraeth, yn cefnogi'n gryf diwygio'r ddeddfwriaeth yn San Steffan, sydd yn ein galluogi ni, felly, yn y dyfodol i wneud mwy nag sydd yn bosibl ar hyn o bryd.