– Senedd Cymru am 6:33 pm ar 23 Mawrth 2021.
Sydd yn dod â ni nawr at y Gorchymyn ystadegau swyddogol. Ymddiheuriadau i'r Gweinidog. Gall y Gweinidog nawr gynnig y Gorchymyn yma. Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae'n bleser gennyf i gyflwyno Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2021. Mae'r pŵer i Weinidogion Cymru wneud y Gorchymyn wedi'i gynnwys yn adran 6(1)(b) o Ddeddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007. Mae adran 65(7) y Ddeddf honno yn datgan na chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Gorchymyn heb gymeradwyaeth gan y Senedd.
Diben y Gorchymyn diwygio yw dynodi'r ystadegau sydd wedi'u cynhyrchu neu sydd i'w cynhyrchu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru sydd newydd ei greu fel ystadegau swyddogol. Mae gwneud hynny'n cynnig sicrwydd bod yr ystadegau y maen nhw'n eu cynhyrchu yn ddibynadwy, o safon, ac o werth cyhoeddus. Mae hefyd yn golygu y bydd yr ystadegau hyn wedyn yn destun monitro ac adrodd gan Awdurdod Ystadegau'r DU. Cafodd y pŵer i wneud Gorchymyn ystadegau swyddogol hwn ei arfer yn gyntaf gan Weinidogion Cymru yn 2013, pan gafodd pum corff eu rhestru. Cafodd Gorchymyn pellach ei wneud yn 2017, i gynnwys 14 corff ychwanegol ledled gwahanol sectorau yng Nghymru. Mae'r Gorchymyn diwygio hwn yn adlewyrchu'r broses o drosglwyddo swyddogaethau a staff Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru o ymddiriedolaeth GIG Felindre i'r corff newydd.
Mae pwysigrwydd ystadegau a data swyddogol yn fwy cyffredinol, a diddordeb y cyhoedd ynddo, wedi'u hamlygu yn ystod y pandemig. Mae cyhoeddi ystadegau swyddogol a gwybodaeth reoli ynghylch COVID-19 yn cynnwys nifer o sefydliadau ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, yn enwedig Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd eisoes wedi'u henwi yn y Gorchymyn, a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Nid yw Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn cyhoeddi ystadegau COVID na gwybodaeth reoli eu hunain yn uniongyrchol, ond maen nhw'n darparu data i gefnogi eu cyhoeddi, er enghraifft, gwybodaeth frechu o system imiwneiddio Cymru. Felly, mae'n bwysig bod Iechyd a Gofal Digidol Cymru, fel sefydliad olynol, yn parhau i weithio yng nghyd-destun ystadegau swyddogol a'r cod ymarfer. Mae'r Gorchymyn yn galluogi Iechyd a Gofal Digidol Cymru i gyhoeddi data fel ystadegau swyddogol pan fyddan nhw o'r farn ei bod yn briodol a phan fydd trefniadau cadarn wedi'u sefydlu i wneud hynny.
Mae ystadegau swyddogol yn darparu ffenestr ar ein cymdeithas, yn llywio'r broses o wneud penderfyniadau ac yn galluogi'r cyhoedd i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif. Mae'r Gorchymyn hwn yn sicrhau y bydd y corff newydd sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal digidol i gleifion a'r cyhoedd yng Nghymru yn darparu ystadegau dibynadwy o safon a fydd yn helpu i lywio a llunio lles cenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r Gorchymyn.
Rwy'n siarad i wrthwynebu'r Gorchymyn hwn. Mae eisoes gennym ni 19 o ddarparwyr ystadegau swyddogol yn benodol ar gyfer Cymru, fel y disgrifiodd y Gweinidog, ac rydym ni nawr yn gweld Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cael ei ychwanegu atyn nhw. Fel y mae'r Gweinidog yn ei ddweud yn gywir, mae rhai o'i dasgau'n dod o Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ac ymddiriedolaeth GIG Felindre, ond hyd y gwn i, nid yw'r un o'r sefydliadau hynny'n cael eu dadgofrestru o'r broses hon, ac mae gennym ni ddarparwr ystadegau swyddogol newydd arall fel rhan o'r hyn y mae'r Gweinidog iechyd yn ei ystyried yn 'deulu GIG Cymru'.
Rwy'n ei chael hi'n fwyfwy anodd llywio drwy ystadegau a arferai gael eu cyflwyno'n gyson ledled y Deyrnas Unedig. Mae'r Gweinidog yn sôn am gael ystadegau ar sail Cymru gyfan, ond mewn gwirionedd, os ydych chi'n llunio'ch ystadegau ar sail Cymru gyfan, yn ôl gweithdrefnau'r 19 corff hyn, sydd nawr yn 20, maen nhw'n dueddol o symud oddi wrth y modd y mae ystadegau'n cael eu llunio mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig. Mae'r Gweinidog yn sôn, a hynny'n briodol, y dylai cyrff sy'n gwneud hyn fod yn ddibynadwy, gydag ystadegau o safon; ystadegau y mae'r cyhoedd yn eu gwerthfawrogi. Synhwyrol iawn. Rwy'n credu y dylen nhw hefyd fod yn ystadegau sy'n caniatáu cymhariaeth ledled y Deyrnas Unedig, ac nid o fewn un o'r gwledydd yn unig. Mae'r Gweinidog yn sôn am fod ag atebolrwydd dros Lywodraeth Cymru, ond y gwirionedd yw bod y gwahaniaeth hwn mewn ystadegau yn gwneud yr atebolrwydd hwnnw'n llai a llai, oherwydd ni allwn ni gymharu sut mae Llywodraeth Cymru yn gwneud o'i chymharu â mannau eraill.
Roedd y Gweinidog yn sôn rywfaint am y gwaith yr oedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ei wneud ar COVID, ac rwy'n credu y dylem ni gydnabod y gwaith gwych y mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi'i wneud—ac mae 'cenedlaethol' yn y cyd-destun hwnnw'n golygu cenedlaethol, y Deyrnas Unedig. Mae hi wedi cynnal arolwg ar draws y pedair gwlad, rwy'n credu, sydd wedi darparu gwybodaeth ddefnyddiol iawn ynghylch nifer yr achosion, ac mae hi wedi gwneud hynny mewn ffordd wirioneddol amserol. Cyn i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ymgymryd â hynny, ni wnaeth sefydliadau iechyd a oedd yn gwneud hyn, p'un ai yma neu mewn man arall yn y DU, y gwaith gyda'r ansawdd a'r safon yr ydym ni wedi'u gweld gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Felly, rwy'n credu y dylem ni gydnabod yr hyn y maen nhw wedi'i wneud.
Rwy'n pryderu, gan fod gennym ni fwy a mwy o ddarparwyr ystadegau yn gwneud eu hystadegau eu hunain ac yn eu gwneud ar sail Cymru, yn hytrach na sail y DU, ein bod ni'n tanseilio'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn y pen draw—sydd wedi'i lleoli yng Nghasnewydd, ac yn rhywbeth y dylem ni yng Nghymru fod yn falch iawn ohono, ac yn rhanbarth y de-ddwyrain rydym ni yn falch iawn ohono. Nid wyf i'n credu ei bod hi'n syniad da bod â mwy a mwy o ymwahanu ystadegol. Dylem ni fod â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wrth y llyw a dylen nhw drefnu ystadegau'n fwy ar sail y DU, a dylem ni fod â llai o ymwahanu a mwy o gysondeb. Felly, oherwydd y rheswm hwnnw, rwy'n cydnabod hyn fel cam bach ar y ffordd, yn hytrach nag un mawr, ond serch hynny hoffem ni osod arwydd a gwrthwynebu'r Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2021 hwn.
Y Gweinidog Cyllid i ymateb.
Rwy'n ddiolchgar i Mark Reckless am ei gyfraniad i'r ddadl y prynhawn yma, er ein bod ni'n amlwg yn dod o safbwyntiau gwahanol iawn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod gennym ni wybodaeth ac ystadegau a data cadarn ar lefel Cymru ar gael i ni er mwyn helpu Llywodraeth Cymru i wneud penderfyniadau da, ond yna hefyd i ganiatáu i eraill, gan gynnwys Mark Reckless, ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rwy'n credu bod tryloywder ac annibyniaeth wrth gynhyrchu data ac ystadegau yn gwbl hanfodol a dyna'r hyn y mae'r Gorchymyn hwn yn caniatáu iddo ddigwydd yn achos Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Bydd hefyd yn rhoi sicrwydd bod yr wybodaeth a gaiff ei darparu o safon uchel iawn a'i bod yn ddibynadwy ac o werth cyhoeddus da. Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig myfyrio ar y ffaith bod gan Lywodraeth Cymru berthynas waith ragorol â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Yn amlwg, rydym ni'n cael trafodaethau aml ynghylch y math o wybodaeth sydd ei hangen arnom ni yma yn Llywodraeth Cymru a'r ffyrdd y gallwn ni gydweithio i sicrhau bod gwybodaeth o'i holl ffynonellau yn ddefnyddiol ac y mae modd ei chymharu mewn ffyrdd defnyddiol hefyd. Felly, nid wyf i'n credu bod unrhyw densiwn yno o ran cael data penodol i Gymru gan hefyd weithio o fewn y cyd-destun ehangach hwnnw. Ar y sail honno, byddwn i'n annog cyd-Aelodau i gefnogi'r Gorchymyn y prynhawn yma.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Oes. Dwi'n gweld gwrthwynebiad ac felly, byddwn yn gohirio'r eitem tan y cyfnod pleidleisio.