– Senedd Cymru am 6:40 pm ar 23 Mawrth 2021.
Eitem 13 yw'r eitem nesaf, a'r eitem hynny yw'r Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021. Dwi'n galw ar y Gweinidog Amgylched, Ynni a Materion Gwledig i wneud y cynnig—Lesley Griffiths.
Cynnig NDM7658 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2021.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Hoffwn egluro'n gryno gefndir y ddadl heddiw ar Reoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Cynnwys Anifeiliaid) (Cymru) 2021. Yn gyntaf, bydd adran 1(1) Deddf Anifeiliaid Anwes 1951 yn peidio â bod yn effeithiol o ran Cymru a bydd y rheoliadau hyn yn eu disodli. Yn ail, ac efallai'n fwy arwyddocaol, mae'r rheoliadau'n ei gwneud yn drosedd gwerthu ci bach neu gath fach nad yw'r gwerthwr wedi'i fridio ei hun ar y safle. Gwnes i ymrwymo yn gyntaf i ymchwilio i wahardd gwerthiannau masnachol trydydd parti cŵn bach a chathod bach ym mis Mehefin 2018. Mae hi wedi bod yn daith hir, ond ar hyd y ffordd, rydym ni hefyd wedi cymryd camau eraill i gryfhau gallu awdurdodau lleol ledled Cymru i orfodi'r rheoliadau presennol, yn ogystal â'r rheoliadau newydd hyn.
Mae'r rheoliadau hyn yn gam arall eto tuag at sicrhau lles cŵn bach a chathod bach sy'n cael eu bridio a'u gwerthu ymlaen i drydydd partïon ar hyn o bryd. Mae eu lles yn gwella'n sylweddol drwy gael eu gwerthu gan fridwyr yn uniongyrchol i'r perchennog newydd yn unig. Ar hyn o bryd, gall trydydd partïon masnachol werthu cŵn bach a chathod bach, sy'n golygu, yn y rhan fwyaf o achosion, na fydd prynwyr yn gweld y ci bach na'r gath fach yn rhyngweithio â'r fam neu'r brodyr a chwiorydd. Efallai eu bod hefyd wedi gorfod dioddef nifer o deithiau cyn cyrraedd eu cartref newydd.
Daw'r rheoliadau sy'n cael eu gwneud heddiw i rym yn llawn ar 10 Medi. Yn ystod y cyfnod hwn, caiff canllawiau statudol eu cyd-gynhyrchu i gefnogi gorfodaeth gan awdurdodau lleol, a bydd yr amserlen hon hefyd yn caniatáu i werthwyr presennol y mae hyn yn effeithio arnyn nhw i wneud newidiadau ac ystyried model gweithredu gwahanol i liniaru unrhyw effaith bosibl. Hoffwn i ei gwneud yn glir y bydd canllawiau statudol ar gyfer swyddogion gorfodi yn rhoi'r hyblygrwydd sydd ei angen ar swyddogion awdurdodau lleol i orfodi'r gyfundrefn drwyddedu, sy'n llywio oddi wrth un dull gweithredu sy'n addas i bawb.
Rydym ni'n cyflwyno rheoliadau sy'n cau bylchau, o ran creu disgresiwn ar orfodi i weithio gyda sefydliadau allweddol sy'n ymwneud naill ai â gweithgareddau ailgartrefu neu achub. Maen nhw'n darparu sianel i awdurdodau lleol asesu a yw'r anifeiliaid yn cael eu defnyddio er budd ariannol yn unig drwy'r prawf busnes, a'u nod yw gwella lles anifeiliaid, gan gefnogi penderfyniadau gwybodus gan y cyhoedd sy'n prynu. Rwy'n cymeradwyo’r cynnig i'r Senedd. Diolch.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd. Gwnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn yn ffurfiol yn ein cyfarfod fore ddoe ac mae ein hadroddiad yn cynnwys dau bwynt teilyngdod. Mae ein pwynt rhinweddau cyntaf yn nodi bod rheoliad 12 o'r rheoliadau yn caniatáu i awdurdodau lleol godi ffioedd i dalu'r costau a ddaw i'w rhan wrth gyflawni eu swyddogaethau trwyddedu. Mae ein hail bwynt rhinweddau yn dangos bod pryderon wedi'u codi gyda ni ynglŷn â'r ymgynghoriad a gafodd ei cynnal o ran y rheoliadau hyn a chanlyniadau anfwriadol posibl. Oherwydd y rhesymau hyn, gwnaethom ni benderfynu ysgrifennu at y Gweinidog cyn i ni ystyried y rheoliadau'n ffurfiol, i dynnu ei sylw at y pryderon hyn. Rydym ni'n croesawi'r yr ymateb manwl y mae'r Gweinidog wedi'i ddarparu, ac rydym ni'n nodi cyfeiriadau'r Gweinidog at gynhyrchu canllawiau pellach a'r ymgynghoriad a fydd yn cael ei gynnal. Diolch, Llywydd.
Rwyf i wrth fy modd, mewn gwirionedd, o allu cadarnhau cefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig i'r rheoliadau hwyr hyn, rheoliadau sy'n debyg iawn i Reoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Cynnwys Anifeiliaid) (Lloegr) (Diwygio) 2019, a ddaeth i rym bron flwyddyn yn ôl. Felly, rwyf i yn dal yn siomedig, felly, na fydd ein rheoliadau ni'n dod i rym tan 10 Medi 2021.
Fel yr ydym ni i gyd yn ymwybodol, cafodd Lucy ei hachub o fferm cŵn bach yng Nghymru yn 2013—wyth mlynedd yn ôl—a gallai Llywodraeth Cymru fod wedi bod y cyntaf i ymateb i fater difrifol yng Nghymru ac ymgyrch bwysig a gafodd gefnogaeth glir gan etholwyr. Mae wedi bod yn fater deddfwriaethol a oedd yn hawdd ei gyflawni, ac mae'n ddirgelwch i mi pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n gynt.
Er hynny, bydd y Gweinidog yn falch o glywed ein bod ni'n croesawu sawl agwedd ar y rheoliadau, gan gynnwys y gofyniad yn rheoliad 4.2(a), bod
'Rhaid i'r awdurdod lleol—
'(a) penodi un neu ragor o arolygwyr â chymwysterau addas i archwilio unrhyw fangre lle mae'r gweithgaredd trwyddedadwy neu unrhyw ran ohono yn cael ei gynnal neu i'w gynnal' ac rydym ni'n cefnogi cyfyngu trwyddedau i flwyddyn a'r gofyniad i gadw anifeiliaid bob amser mewn amgylchedd sy'n addas ar gyfer eu rhywogaethau a'u cyflyrau.
Mae gennyf i ychydig o gwestiynau, serch hynny, Gweinidog. Bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am orfodi'r rheoliadau. Rydych chi'n cynghori nad oes cost ychwanegol iddyn nhw, ac rydym ni'n gwerthfawrogi'r hyblygrwydd o ran ffioedd, ond, ar hyn o bryd, nid oes gennym ni syniad oddi wrthych chi ynghylch nifer yr arolygwyr sydd yng Nghymru ar hyn o bryd a faint yn rhagor y byddwch chi'n eu disgwyl i gyflawni'r rheoliadau hyn, oherwydd mae hynny'n sicr yn mynd i effeithio ar y ffioedd y gall cynghorau eu codi.
Mae rheoliad 26 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol ddarparu rhai manylion o ran nifer y trwyddedau sy'n cael eu gorfodi yn yr ardal a lefel y ffioedd ar gyfartaledd, ond nid yw'n ymddangos ei fod yn cynnwys nifer o weithiau y caiff y drwydded ei thorri a rheswm dros hynny. Rwy'n tybio pam nad yw hynny wedi'i gynnwys yn y rheoliadau hyn. Mae'r Dogs Trust wedi tynnu sylw at y ffaith y gallai un gofalwr fod yn gyfrifol am hyd at 180 o gŵn aeddfed a chŵn bach ar yr un adeg, a byddwn i'n falch os gallech chi egluro sut y gallwn ni fod yn hyderus y bydd eu hanghenion lles yn cael eu diwallu gyda dim ond un ymweliad Atodlen 2 y dydd.
Ac i orffen, gofynnodd Janet Finch-Saunders i chi am allu sefydliadau achub ac ailgartrefu yng Nghymru, i barhau i ailgartrefu anifeiliaid sy'n cael eu hachub o sefyllfaoedd o esgeulustod, os oes rhaid iddyn nhw aros tan fod eu cathod bach neu gŵn bach o leiaf chwe mis oed cyn ailgartrefu'r rhieni, a gwnaethoch chi ddweud wrthi fod gan awdurdodau lleol elfen o ddisgresiwn wrth ystyried a fyddai angen trwydded ar eu canolfannau achub ac ailgartrefu di-elw cyfreithlon. Rwy'n chwilfrydig pam nad ydych chi wedi ymdrin â hynny yn y rheoliadau hyn.
Ac yna, dim ond un arall: mae Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru wedi esbonio wrthym ni fod angen rhagor o ymgynghori pwrpasol ar les anifeiliaid, a tybed pam nad yw hynny eisoes wedi digwydd yn ystod Senedd bum mlynedd. Ond a ydych chi'n disgwyl i Lywodraeth nesaf Cymru wneud hynny, waeth pa liw ydyw hi? Ond, er mwyn cadarnhau, Gweinidog, byddwn ni'n pleidleisio o blaid y rheoliadau heddiw ac yn cytuno â chi pan wnaethoch chi alw hyn yn gam ymlaen ychydig funudau'n ôl; mae'n drueni nad dyma'r nod terfynol. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog am y ffaith ein bod ni'n cael y ddadl yma. Fel clywon ni, efallai'n hwyrach nag y byddai nifer ohonom ni wedi'i ddymuno, ond mi fydd Plaid Cymru yn cefnogi'r rheoliadau yma hefyd, oherwydd mae e'n faes lle mae angen mynd i'r afael ag e, ac rŷm ni wedi aros yn hirach efallai nag y dylem ni i gyrraedd y pwynt yma.
Nawr, rwyf innau hefyd eisiau codi y consérn y mae nifer yn y sector wedi'i godi o gwmpas nad yw hi'n glir ynglŷn ag eithrio mudiadau achub ac ailgartrefu anifeiliaid. Mi glywon ni gyfeiriad yn gynharach i'r ffaith eich bod chi wedi awgrymu bod yna ddisgresiwn i awdurdodau lleol. Wel, mae yna risg yn fanna bod hwnna'n mynd i arwain at bob math o anghysondebau ar draws Cymru. Felly, mae angen bod yn glir ynglŷn â hynny. Rŷn ni'n gwybod yn yr Alban, wrth gwrs, mae'r sefyllfa wedi cael ei delio â hi drwy gyflwyno system o gofrestru a thrwyddedu canolfannau o'r fath. Nawr, dwi ddim yn gwybod os ydy hynny'n rhywbeth rŷch chi yn ei ystyried, ac, os ydych chi, a ydy hwnna'n rhywbeth fyddai'r Llywodraeth yn gallu symud arno fe'n weddol fuan ar ôl yr etholiad? Dwi ddim yn gwybod, ond buaswn i'n hoffi clywed mwy gennych chi ynglŷn â chael yr eglurder o gwmpas y risg y bydd rhai o'r canolfannau a'r mudiadau yma sydd yn ailgartrefu cŵn a chathod ddim yn gallu gweithredu, efallai, yn y modd y maen nhw pan mae'n dod i gyflawni'r hyn maen nhw eisiau ei wneud.
Mae'r pwynt yma ynglŷn â chapasiti, dwi'n meddwl, yn bwysig. Dwi eisiau clywed mwy gan y Llywodraeth ynglŷn â sut yn union mae awdurdodau lleol yn mynd i gwrdd â'r galw yma, oherwydd, gallwn ni basio'r rheoliadau gorau yn y byd, ond, oni bai bod modd i orfodi'r rheoliadau yna'n effeithiol, yna, yn amlwg, dŷn nhw ddim yn mynd i gael yr effaith rŷn ni'n ei ddymuno. Felly, yn yr ysbryd o sicrhau bod y rheoliadau hyn yn cael yr effaith rŷn ni gyd am ei weld, dwi'n gofyn i chi, efallai, i sôn ychydig mwy wrthym ni ynglŷn â sicrhau bod gan yr awdurdodau lleol y capasiti sydd ei angen. Diolch.
Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl—Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Hoffwn i ddiolch i'r Aelodau am eu cefnogaeth. Hoffwn i ddiolch hefyd i bawb sydd wedi cyfrannu at gael y rheoliadau hyn i'r cam hwn, a hoffwn i ddechrau gyda fy swyddogion yn swyddfa Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, sydd wedi cael cefnogaeth dda gan gydweithwyr eraill ledled Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod ni'n gallu cyflwyno'r rheoliadau hyn cyn diwedd y tymor. Rwyf i hefyd eisiau cydnabod y lobïo penderfynol gan unigolion, ac mae hynny'n cynnwys Aelodau'r Senedd a hefyd sefydliadau'r trydydd sector ar y mater hwn.
O ran rhai o'r cwestiynau a gafodd eu codi gan Aelodau, rwy'n pwysleisio eto fod y rheoliadau hyn yn mynd y tu hwnt i gyfraith Lucy, ac rwy'n falch bod Aelodau o'r gwrthbleidiau'n hapus i gefnogi'r rheoliadau wrth fynd ymlaen. Rwy'n credu mai'r hyn y mae gwahardd hefyd yn ei wneud yw annog agweddau parchus a chyfrifol, ac mae hynny'n arbennig o bwysig i mi o ran datblygu agweddau plant a phobl ifanc tuag at anifeiliaid, a bydd hefyd yn cyfrannu at well canfyddiad o eiddo trwyddedig, ac yn grymuso awdurdodau lleol i weithredu os ydyn nhw'n teimlo bod ganddyn nhw bryderon ynghylch sut mae cŵn bach a chathod bach yn cael eu bridio a'u gwerthu.
Bydd y rheoliadau newydd yn darparu mecanwaith deddfwriaethol ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol—gofynnodd Suzy Davies y cwestiwn hwnnw—i gynnwys diweddariad o'r sefydliadau lles anifeiliaid trwyddedig, ac mae hynny'n cynnwys, ond nid yn unig, pob stabl, er enghraifft, ysgolion marchogaeth a sefydliadau lletya cŵn. Efallai y byddai hefyd yn briodol ystyried cynnwys y rheoliadau bridio cŵn pan gaiff y rhain eu hadolygu yn y dyfodol. Mae prosiect gorfodi awdurdodau lleol yn brosiect tair blynedd wedi'i ariannu, ac mae hynny'n mynd i gasglu rhagor o ddata a gwybodaeth ynghylch y ffordd orau o orfodi'r rheoliadau, ond hefyd ar yr hyn y mae modd ei wneud i'w gwella.
Nid bwriad y polisi yw cyflwyno cyfundrefn drwyddedu newydd ar gyfer canolfannau ailgartrefu, ond rwy'n credu ei bod yn hanfodol iawn nad ydym ni'n defnyddio eithriadau cyffredinol o fewn y rheoliadau hyn, a allai wedyn gyflwyno cyfleoedd i gamfanteisio. Felly, bydd yn bosibl i awdurdod lleol ddefnyddio ei ddisgresiwn a'i ystyriaeth o ran a oes angen trwydded ar y canolfannau achub ac ailgartrefu di-elw cyfreithlon.
O ran yr effaith ariannol ar awdurdodau lleol, caiff effeithiau posibl y ddeddfwriaeth newydd eu hystyried yn y memorandwm esboniadol a'r asesiad effaith rheoleiddiol, ac mae angen i werthwyr masnachol trydydd parti eisoes wneud cais am drwydded, ond maen nhw eisoes yn destun arolygiadau parhaus. A bydd awdurdodau lleol yn gallu pennu ffi'r drwydded i dalu'r costau cofrestru, arolygu a gorfodi sy'n cael eu rhagweld a hynny drwy godi ffi am roi trwydded.
Rwy'n credu y bydd gwaharddiad ar werthiannau trydydd parti masnachol cŵn bach a chathod bach yn gwneud rhywfaint i ailddatblygu enw da Cymru—sydd wedi'i niweidio'n annheg mewn sawl ffordd—o ran bridio cŵn, a bydd yn addysgu ac yn amddiffyn y cyhoedd yn well wrth wneud penderfyniadau gwybodus cyn prynu ci bach neu gath fach. Rwy'n credu ei fod yn gam mawr ymlaen heddiw o ran lles anifeiliaid yng Nghymru, ac rwy'n falch bod Aelodau wedi dweud y byddan nhw'n cefnogi heddiw. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi ddim yn gweld unrhyw wrthwynebiad i hynna, ac felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.