1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 23 Mawrth 2021.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi economi leol Aberafan? OQ56511
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gynorthwyo economïau lleol ledled Cymru, gan gynnwys economi Aberafan, gyda'n pecynnau cyllid sydd ar gael i fusnesau mewn ymateb i'r pandemig yn ogystal â thrwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, ac a gaf i groesawu'r cymorth a roddwyd i'r miloedd o fusnesau bach ledled Aberafan yn ystod y pandemig i sicrhau, fel y dywedodd y Prif Weinidog, y gall y rhai a oedd mewn busnes yn 2019 aros mewn busnes pan fyddwn ni'n dod allan o'r pandemig hwn? Nawr, mae rhai y gallai fod angen y cymorth hwnnw arnyn nhw o hyd am ychydig yn hwy oherwydd y sectorau y maen nhw'n gweithio ynddyn nhw, fel Sonalyst yn fy etholaeth i. Ond mae'r rhan fwyaf o'n busnesau bach yn dibynnu mewn gwirionedd ar ein prif gyflogwr ym Mhort Talbot, a dur yw hwnnw, ac mae'r angen i'r Llywodraeth barhau ei gymorth i'r diwydiant dur yn hollbwysig, yn enwedig yn wyneb gwadiad y Torïaid ynghylch dyfodol y sector dur yng Nghymru. Mae'n ymddangos bod ffrindgarwch yn rhemp yn y Blaid Dorïaidd, oherwydd rydym ni'n gweld David Cameron yn lobïo Rishi Sunak am gefnogaeth i gwmni buddsoddi yn uniongyrchol, ond nid i'r busnesau hyn y mae'r buddsoddiad yn eu cynorthwyo ar hyn o bryd. Felly, a all y Prif Weinidog roi sicrwydd i weithwyr dur yn fy etholaeth i, ac yn y rhanbarth ehangach, y bydd y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn parhau i sefyll dros ein sector dur ac yn cefnogi'r diwydiant wrth iddo symud tuag at ddatgarboneiddio er mwyn adeiladu diwydiant dur cryf a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol ac am genedlaethau i ddod?
Llywydd, diolchaf i David Rees am y cwestiwn atodol yna. Wrth gwrs, mae hwn yn gyfnod pryderus i weithwyr dur. Roedd fy nghyd-Weinidog Ken Skates yn bresennol yn un o gyfarfodydd Cyngor Dur y DU—a gafodd ei oedi am amser maith, ond a gyfarfu o'r diwedd ar 5 Mawrth. Cafodd gyfarfod hefyd gyda Liberty Steel ar 18 Mawrth a chododd yr holl faterion hyn eto mewn cyfarfod pedairochrog, yn cynnwys Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru, ar yr un diwrnod. A'r pwynt y mae Llywodraeth Cymru bob amser yn ei wneud, Llywydd, yw arwyddocâd strategol diwydiant dur—ni allwch chi obeithio bod yn economi fodern, heb sôn am economi gweithgynhyrchu, heb fod gennych chi diwydiant dur cynhenid. Dyna arwyddocâd y gwaith sy'n digwydd yn etholaeth yr Aelod ei hun. Nawr, yno, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gynorthwyo yn uniongyrchol ymdrechion ym Mhort Talbot i sicrhau'r math o ddyfodol di-garbon i'r diwydiant dur y mae David Rees wedi ei gefnogi ers tro byd. Mae'r Sefydliad Dur a Metelau ym Mhrifysgol Abertawe, a agorwyd gan fy rhagflaenydd yn y swydd hon ym mis Chwefror 2018, yn canolbwyntio ar leihau allyriadau carbon yn y diwydiant dur. Mae Sefydliad ASTUTE, unwaith eto ym Mhrifysgol Abertawe, gan ddefnyddio £23 miliwn o gyllid Ewropeaidd, yn canolbwyntio ar dechnolegau gweithgynhyrchu cynaliadwy uwch a all helpu i sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r diwydiant dur. Yma yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo'r diwydiant hwnnw yn uniongyrchol, ond hefyd i wneud y ddadl mai dim ond Llywodraeth y DU all ddarparu cytundeb sector o'r math sydd ei angen ar y diwydiant dur, ac rydym ni'n gwneud y ddadl honno iddyn nhw pryd bynnag y cawn ni'r cyfle.
Diolch, Prif Weinidog, am ateb synhwyrol yn y fan yna yn hytrach na darllediad gwleidyddol. Fel y gwyddoch chi, mae'r Ceidwadwyr Cymreig eu hunain wedi ymrwymo yn llwyr i ddyfodol y diwydiant dur yng Nghymru. Mae cryn dipyn o dir ac eiddo sy'n eiddo cyhoeddus yn fy rhanbarth i o hyd, yn enwedig yn Aberafan. Fel y mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi dweud y bydd diweithdra ymhlith pobl ifanc yn cael ei lesteirio o ganlyniad i COVID, ac yng ngoleuni pryderon parhaus am gyflogwr craidd yr etholaeth, fel yr ydych chi newydd gyfeirio ato, beth yw'r ffordd orau o ddefnyddio asedau sy'n eiddo cyhoeddus i helpu i greu buddsoddiad a swyddi sydd o fudd i bobl ifanc yn Aberafan?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi symiau sylweddol o arian yn ceisio dychwelyd tir i ddefnydd buddiol, na fyddai byth yn cael ei gynnig o'i adael i'r farchnad. Yn aml, fel yn y mathau o ardaloedd y mae Suzy Davies wedi cyfeirio atyn nhw, y rheswm am hynny yw mai tir diwydiannol yw hwn lle mae halogiad wedi digwydd mewn blynyddoedd blaenorol, ac, os byddwch chi'n rhoi'r tir ar werth, yna ni all neb ei brynu gan na allan nhw ymdopi â'r costau suddedig y byddai'n rhaid eu talu cyn y gellid defnyddio'r tir. Felly, mae ein cronfa safleoedd segur, er enghraifft, wedi'i chynllunio i wneud y buddsoddiad hwnnw ar dir cyhoeddus fel y gellir ei ddefnyddio wedyn, er enghraifft, ar gyfer tai, gyda'r holl swyddi y mae hynny ynddo'i hun yn eu cynnig. Ac rwy'n cytuno â'r Aelod—ceir her wirioneddol i Gymru, pa bleidiau gwleidyddol bynnag sy'n mynd i'r afael â hi, o ran sicrhau nad yw ein pobl ifanc yn ysgwyddo baich yr argyfwng economaidd y mae coronafeirws wedi ei greu. Ac mae dod o hyd i ffyrdd y gallwn ni greu cyfleoedd iddyn nhw ym meysydd addysg, cyflogaeth, hyfforddiant fel eu bod nhw'n dod drwy'r pandemig, yn barod i fanteisio ar gyfleoedd gwaith pan fydd yr economi yn gwella, yn fy marn i, ar frig y rhestr o heriau y bydd angen i dymor nesaf y Senedd eu hwynebu.
Prif Weinidog, mae Aberafan yn dal i fod ag un o'r cyfraddau cyflogaeth isaf yng Nghymru, gyda chwarter y trigolion yn economaidd anweithgar. A ydych chi'n derbyn bod eich polisïau economaidd wedi siomi pobl Aberafan a rhanbarth cyfan Gorllewin De Cymru? Felly, yr hyn sydd ei angen ar bobl yn fy rhanbarth i yw mwy o gymorth i fusnesau domestig, yn enwedig y rhai hynny sy'n mynd ar drywydd technolegau gwyrdd, yn ogystal â gobeithio denu cwmnïau tramor. Prif Weinidog, sut gwnaiff eich Llywodraeth chi annog ysbryd entrepreneuraidd yn Aberafan? Diolch.
Wel, Llywydd, mae llawer yn yr hyn a ddywedodd yr Aelod yn ail hanner ei chyfraniad y gallaf i gytuno ag ef. Fodd bynnag, mae ei dadansoddiad yn ddiffygiol iawn. Mae'n un o nodweddion mwyaf rhyfeddol economi Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf ein bod ni wedi symud o fod ag un o'r cyfrannau uchaf o'n poblogaeth yn economaidd anweithgar, a chyfran gynyddol hefyd, ym 1999, ar ddechrau datganoli, i fod wedi gostwng y ffigur hwnnw i gyfartaledd y DU neu'n is na hynny weithiau, a phe byddech chi wedi dweud hynny 20 mlynedd yn ôl, y gellid cyflawni hynny, byddech chi wedi cael eich ystyried yn wirioneddol ar eich pen eich hun o ran posibiliadau economaidd bryd hynny. Felly, rwy'n credu bod ei dadansoddiad yn gamdybiaeth fawr, ond mae ei hawgrymiadau cadarnhaol ar gyfer yr hyn sydd ei angen ar gyfer economi Aberafan ac economi ehangach y de-orllewin yn cynnwys llawer o bethau synhwyrol.
Wrth gwrs, rydym ni eisiau annog mentrau cynhenid. Rydym ni wedi rhoi arian, yn ystod y pandemig hwn, yn uniongyrchol i gynorthwyo pobl ifanc yn arbennig, sydd â syniadau ar gyfer hunangyflogaeth, gan wneud yn siŵr bod ganddyn nhw'r mentora sydd ei angen arnyn nhw, y cymorth sydd ei angen arnyn nhw a rhywfaint o'r cyfalaf cychwyn y gallai fod ei angen arnyn nhw er mwyn troi'r syniadau hynny yn fusnesau hyfyw y dyfodol. Ac er y bu gan y Llywodraeth hon bwyslais penodol ar yr economi sylfaenol, y swyddi hynny na ellir eu symud o gwmpas y byd, rydym ni'n parhau i helpu i ddod â buddsoddiad i Gymru o fannau eraill hefyd. Does dim un ateb unigol i ddyfodol economi Cymru. Mae angen iddi fanteisio ar amrywiaeth eang o wahanol ffyrdd y gallwn ni gynorthwyo busnesau sydd yma eisoes, cefnogi doniau a brwdfrydedd pobl ifanc sydd â syniadau ar gyfer swyddi'r dyfodol, a, phan fo cyfleoedd yn codi, croesawu mewnfuddsoddiad i Gymru hefyd.