Part of the debate – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 23 Mawrth 2021.
Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad chi'r prynhawn yma. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r teimladau a fynegwyd yn y datganiad hwn. Flwyddyn i heddiw, yn amlwg, fe osodwyd y cyfyngiadau cyntaf arnom ni, a phrin iawn y gellir dychmygu maint y drasiedi sydd wedi digwydd i 7,000 a mwy o deuluoedd oherwydd colli aelod annwyl o'u teulu, ac mae'r cariad a'r cydymdeimlad sy'n cael eu harddangos gan y gymdeithas gyfan ledled Cymru yn glod i'r ysbryd cymunedol hwnnw sy'n bodoli ym mhob cwr o Gymru.
Mae'r ymroddiad yng ngwaith y gwasanaethau wrth gefnogi teuluoedd, o'r GIG yr holl ffordd at y sector cyhoeddus a'r sector elusennol, yn esiampl i unrhyw un ei hystyried gyda balchder mawr. Rwy'n credu y gallwn ni ymfalchïo llawer iawn yn y ffordd y mae'r wlad wedi wynebu'r feirws hwn. Mae'n ddigon posibl fy mod i wedi anghytuno gyda'r Prif Weinidog o bryd i'w gilydd o ran polisi, ond mae'n ffaith bod pawb, yn wlad o 3 miliwn o bobl, wedi chwarae eu rhan wrth wynebu'r feirws, ac, fel y nododd y Prif Weinidog, nid ydym wedi cyrraedd y lan eto, ond rydym wedi cefnu ar ran fawr o'r fordaith honno, ac mae'r gwanwyn yn edrych yn llawer goleuach nag yr oedd ychydig wythnosau yn ôl.
Gyda hynny mewn golwg, Prif Weinidog, hoffwn i ofyn cyfres o gwestiynau sy'n deillio o'r datganiad, fe fyddwn i'n ddiolchgar am rai atebion. Ar ddiwedd y datganiad rydych chi'n sôn ein bod ni'n byw gyda'r coronafeirws ac mae'n debygol y byddwn ni am gryn amser eto. Rydych chi wedi cyflwyno sylwadau yn y cyfryngau yn ddiweddar eich bod chi'n credu y bydd cryn dipyn o gyfyngiadau yn parhau arnom trwy gydol 2021 ac i mewn i 2022. A wnewch chi roi amcan o'r hyn sydd ar eich meddwl, o'r wybodaeth sydd ger eich bron, ynglŷn â pha fath o gyfyngiadau y gallem ni fod yn eu disgwyl yn ystod gweddill 2021 ac i mewn i 2022? Hefyd, y pwynt yr ydych chi'n ei wneud o ran cofebion byw—rwy'n croesawu hynny, yn enwedig y ffordd yr ydych chi wedi eu lledaenu nhw'n ddaearyddol i'r Gogledd a'r De, ond tybed pam na roddwyd ystyriaeth i sefydlu cofeb yn y Canolbarth, fel bod gardd goffa fel hyn ym mhob rhan o Gymru ac y byddai modd ymweld ag un heb deithio'n rhy bell o unrhyw fan yng Nghymru. Felly, tybed a ydych chi'n ystyried y syniad o sefydlu coetir o'r fath yn y Canolbarth, gan fod hynny'n amlwg yn absennol yn y cyhoeddiad a wnaethoch chi'r wythnos diwethaf.
Mewn rhan arall o'r datganiad, rydych chi'n sôn am unigrwydd, arwahanrwydd, pryder a rhwystredigaeth, ac efallai nad yw eu penllanw nhw wedi bod eto. Pa asesiad a wnaeth y Llywodraeth o'r gofynion y mae'n ddigon posibl y byddan nhw'n creu pwysau ar y gwasanaethau iechyd meddwl sy'n cael eu darparu? Roedd sefydlu swydd arbennig Gweinidog Iechyd Meddwl nôl yn yr hydref yn ddatblygiad i'w groesawu, ac rwy'n gobeithio bod y Llywodraeth wedi gallu gwneud asesiadau o'r gofynion y mae eu hangen arnom i adeiladu ein gwasanaethau ni yn y dyfodol. Ac rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn yn y datganiad hwn, ynghylch unigrwydd, arwahanrwydd, pryder a rhwystredigaeth, oherwydd mae llawer o bobl ledled Cymru wedi teimlo hynny'n enbyd.
Ac yn olaf, rydych chi'n tynnu sylw at y llwyddiant wrth gyflwyno'r brechiadau, rhywbeth y gallwn ni i gyd ei ddathlu ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, lle mae dros 50 y cant o'r boblogaeth oedolion wedi eu brechu. Yn anffodus, mae deialog wedi bod rhwng yr Undeb Ewropeaidd a'r DU a rhannau eraill o'r byd, ac yn enwedig yr Undeb Ewropeaidd, ynghylch atal cyflenwadau. Rwy'n gobeithio'n fawr nad yw hynny'n wir. Rwy'n sylweddoli maint yr anawsterau y mae'r Undeb Ewropeaidd yn eu hwynebu yn ystod eu proses gyflwyno, ac, yn wir, mae ymdrin â'r drydedd don sy'n traflyncu'r cyfandir nawr yn rhywbeth nad oes unrhyw un ohonom ni'n dymuno ei weld. Ond rwy'n eich gwahodd chi i roi sylw ar yr hyn y byddech chi'n ei anfon mewn neges bersonol i Arlywydd yr Undeb Ewropeaidd o ran peidio â dilyn y trywydd hwn o sancsiynau a thorri cytundebau, a chaniatáu rhwydd hynt i frechlynnau a addawyd mewn cytundebau. Nid oes unrhyw un yn bwriadu gweithredu y tu allan i baramedrau'r cytundebau, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ichi fynegi hynny ar goedd, Prif Weinidog. Oherwydd mae hwn yn destun cryn bryder ac, yn y pen draw, mae'r cytundebau hynny ar waith ac nid ydym yn dymuno gweld unrhyw beth a fyddai'n llesteirio'r broses o gyflwyno brechlynnau sydd, fel y cyfeiriodd eich datganiad ato y prynhawn yma, yn gyntaf, wedi bod yn llwyddiannus iawn ac, yn ail, yn cynnig heulwen olau'r gwanwyn sydd ar gerdded yn ein gwlad ni. Diolch, Prif Weinidog.