Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 23 Mawrth 2021.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym ni wedi clywed storïau torcalonus am wŷr a gwragedd yn marw o fewn ychydig ddyddiau i'w gilydd, am frodyr a chwiorydd yn cael eu cipio i ffwrdd gan y feirws, am genedlaethau o'r un teulu yn marw oherwydd COVID-19. Fe fyddan nhw'n aros yng nghalonnau a meddyliau pawb a oedd yn eu hadnabod ac yn eu caru nhw ac rydym ninnau'n cofio amdanyn nhw heddiw hefyd. Fe fydd yna ddwy gofeb fyw barhaol yng Nghymru i bawb a fu farw, wrth inni blannu coedwigoedd yn y Gogledd a'r De. Fe fydd y rhain yn gyrchfannau i deuluoedd fel y gallant gofio am eu hanwyliaid ac yn llecynnau ar gyfer myfyrdod i eraill. Oherwydd mae'r feirws hwn wedi dwyn rhywbeth oddi ar bob un ohonom ni sydd yma heddiw; ac mae pob un ohonom ni wedi adnabod rhywun a fu farw neu rywun sydd wedi dioddef afiechyd.
Fe deimlwyd y gost yn y ffyrdd yr ydym ni'n byw ein bywydau ni bob dydd. Fe dorrwyd ar draws ein traddodiadau ar gyfer dathlu'r Nadolig, Ramadan, Diwali a'r Hanukkah. Cafodd priodasau eu canslo ac fe newidiodd ein dull ni o ffarwelio â'r rhai a gollwyd. Cafwyd cost ariannol aruthrol wrth i fusnesau gau, ac yn anffodus, ni fydd rhai ohonyn nhw byth yn ailagor, ac fe gafodd swyddi eu colli hefyd. Ac mae'r feirws wedi newid yn sylfaenol ein ffyrdd ni o ryngweithio â'n gilydd, gan daflu cysgod dros ein bywydau ni i gyd. Nid yn unig o ran cyffwrdd penelin yn hytrach nag ysgwyd llaw, neu alwadau Zoom yn hytrach na chyfarfod rhywun wyneb yn wyneb; mae'r feirws wedi ein hamddifadu ni o gyffyrddiad dynol a chyswllt dynol. Rydym wedi gweld effaith y pandemig eisoes ar iechyd meddwl a'n llesiant ni, gyda theimladau o unigrwydd, arwahanrwydd, pryder, a rhwystredigaeth ac efallai nad yw dylanwad hynny wedi cyrraedd ei uchafbwynt eto, fel y trafodwyd yn gynharach y prynhawn yma.
Ac eto i gyd, Llywydd, er mor boenus fu'r gost i bobl, mae'r flwyddyn eithriadol hon wedi dangos pa mor ddi-syfl y gall pobl fod yn ogystal â'u parodrwydd aruthrol nhw i helpu ei gilydd mewn cymunedau. Wythnos ar ôl wythnos, rydym ni wedi gweld mwy o bobl yn gwirfoddoli i helpu'r rhai sydd wedi bod yn llochesu ac i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus ni; dros 100 o wirfoddolwyr newydd yn cynnig cymorth eto yn ystod yr wythnos diwethaf. Ac wrth i ysgolion a siopau gau am gyfnodau maith, mae ein cartrefi ni wedi bod yn ystafelloedd dosbarth a gweithleoedd, ac mae busnesau wedi dod o hyd i ffyrdd arloesol o gynnig gwasanaethau o bellter. Mae ciwiau'r oriau brig wedi diflannu, bron â bod, ac rydym ni wedi dysgu sut i ddefnyddio'r botwm 'mute'—neu'r rhan fwyaf ohonom y rhan fwyaf o'r amser, o leiaf.
Llywydd, fe hoffwn i dalu teyrnged i'r ffordd ryfeddol y mae ein gwasanaethau cyhoeddus wedi ymateb i'r pandemig, ac ymroddiad a phenderfyniad y degau o filoedd o bobl sy'n gweithio yn ein GIG ni a'n gwasanaethau gofal ni ac ym mhob un o'r gwasanaethau hynny o ddydd i ddydd yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw a ddarperir gan ein hawdurdodau lleol. A thu hwnt i hynny i gyd, fe hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi rhoi eu hunain mewn perygl yn eu gwaith nhw drwy roi gwasanaeth i eraill: mewn swyddi manwerthu, gyrwyr bysiau, trenau, a thacsis, athrawon a staff ysgol—mae'r rhestr yn faith ac yn hirach nag y gallaf i ei nodi y prynhawn yma. Eich gwaith diflino chi sydd wedi ein cadw ni i gyd yn ddiogel.
Ac mae'r ymateb i'r pandemig yng Nghymru wedi bod yn ymateb o ran partneriaeth gymdeithasol, boed hynny yn ein gwasanaeth profi ac olrhain llwyddiannus ni, a gafodd ei lunio o ddim ac fe ddywedodd Swyddfa Archwilio Cymru amdano'r wythnos diwethaf ei fod yn gwneud cyfraniad pwysig at reoli COVID-19, boed hynny wrth sicrhau cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol gan fusnesau Cymru ar gyfer y GIG a gofal cymdeithasol, neu ein system wyliadwriaeth genomeg ni yng Nghymru sy'n arwain y byd, sy'n helpu i nodi amrywiolion newydd o'r feirws, ac wrth gwrs, ein rhaglen frechu wych ni, sy'n parhau i fynd o nerth i nerth gan ei bod hi'n darparu brechlynnau i bobl yn anhygoel o gyflym. Mewn llai na phedwar mis, Llywydd, mae miloedd o staff y GIG, gyda chefnogaeth personél milwrol a gwirfoddolwyr, ac yn gweithio o 600 o ganolfannau, wedi rhoi'r dos cyntaf o'r brechlyn i fwy na hanner poblogaeth oedolion Cymru. A'r brechu sy'n rhoi gobaith gwirioneddol inni am ddyfodol gwell a pherthynas wahanol â'r feirws hwn—dyfodol lle byddwn ni'n gallu byw gyda llai o gyfyngiadau.
Oherwydd, yn ystod y 12 mis diwethaf, mae pob un o bedair Llywodraeth y DU wedi gwneud penderfyniadau digynsail i ddiogelu iechyd pobl a rheoli ymlediad y feirws. Mae hynny wedi golygu ymyrryd ym mywydau pobl mewn ffyrdd na welwyd eu tebyg ers cenedlaethau. Nid oes yr un o'r penderfyniadau hyn wedi bod yn hawdd, ac yn sicr nid oes yr un ohonyn nhw wedi cael eu gwneud ar chwarae bach, ond maen nhw wedi bod yn angenrheidiol i achub bywydau a bywoliaethau pobl.
Fe hoffwn i ddiolch i bawb yng Nghymru am eu cefnogaeth a'u cymorth nhw. Eich buddugoliaeth chi yw hon ac fe ddaeth â'r feirws dan reolaeth dro ar ôl tro yn ystod y flwyddyn hon. Mae pobl ar draws y genedl wedi dilyn y rheolau ac wedi cadw eu hunain a'u teuluoedd yn ddiogel ac oherwydd hynny fe allwn ni ddechrau llacio'r cyfyngiadau hyn nawr, gan ddatgloi Cymru fesul sector yn ofalus iawn. Ac fe fyddwn ni'n parhau i wneud hyn yn raddol, gam wrth gam, fel nad ydym yn colli dim o'r gwaith caled a'r aberthau a wnaeth 3 miliwn o bobl yn ystod y tri mis diwethaf, gan fod yn ymwybodol trwy'r amser o ba mor gyflym y gall y feirws hwn ddychwelyd, fel y gwelsom ni gyda'r profiadau sobreiddiol yn Ewrop yn ystod yr wythnos ddiwethaf.
Llywydd, ar draws Cymru rydym ni wedi teimlo ysbryd o undod cymdeithasol enfawr a channoedd o filoedd o weithredoedd bach unigol o garedigrwydd, a hynny hyd yn oed gyda'r holl darfu ar fywydau a bywydau'n cael eu dal yn ôl. Ac oherwydd yr ysbryd hwnnw rydym yn dechrau'r gwanwyn hwn ac yn nodi'r flwyddyn gron gydag ymdeimlad o obaith. Mae'r achosion wedi gostwng, mae'r pwysau ar ein GIG ni'n ysgafnhau; mae gennym ni fwy o brofion a phrofion amrywiol ar gael yn ogystal â brechu ar raddfa eang. Rydym ni'n dechrau datgloi ein cenedl ac rydym ni'n benderfynol o wneud hynny mewn ffordd sy'n cadw cyfraddau'r feirws yn isel. Fe fyddwn ni'n ailgodi ac yn adfer, gan adeiladu Cymru sy'n decach a gwyrddach, lle nad oes unrhyw un yn cael ei ddal yn ôl na'i adael ar ôl.
Llywydd, rydym ni'n byw gyda'r coronafeirws ac yn debygol o fod am gryn amser eto. Ond mae glynu at obaith mewn adfyd a bod yn llawn hyder a gobaith mewn hawddfyd, fel ei gilydd, yn rhan o gyflwr y ddynoliaeth. Dyma sy'n ein galluogi ni i ddweud y gall eleni fod yn wahanol ac y bydd eleni'n well na'r llynedd. Diolch yn fawr.