Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 23 Mawrth 2021.
Diolch i chi am y sylwadau cadarnhaol iawn, Mr Reckless, ar ddechrau eich cyfraniad ac am dynnu sylw, a hynny'n gwbl briodol, at bedwar drwg coronafeirws. Fe ddylem ni i gyd fod yn myfyrio arnyn nhw heddiw. Roeddwn i'n credu ei fod wedi gwneud rhai pwyntiau diddorol iawn ynglŷn â'r ffordd y mae gwahanol wledydd ledled y byd, ar wahanol adegau, wedi gweld cyfnodau llwyddiannus o ran rheoli'r feirws, ac eto fe ddaeth y feirws yn ei ôl mewn ffyrdd sy'n llwyddo i danseilio'r gwahanol amddiffynfeydd a adeiladodd gwahanol lywodraethau. Mae hwnnw wedi bod yn brofiad cyffredin, ac mae'n debyg y byddai'n dda o beth ystyried y cyfyngiadau a brofodd unrhyw un—unrhyw un—lywodraeth o ran gallu dod o hyd i gyfres lawn o fesurau llwyddiannus.
O ran y pwyntiau y daethom ni'n ôl atyn nhw pan glywsom ni gan Mr Reckless wedyn, wrth edrych nôl dros y cyfnod atal byr, yr hyn sy'n fy nharo i fwyaf yw ein bod ni wedi ailagor y gymdeithas yma yng Nghymru ar adeg pan nad oeddem yn ymwybodol o'r ffaith bod amrywiolyn Caint yn ymledu trwy'r wlad. Fe wnaeth natur drosglwyddadwy ychwanegol yr amrywiolyn hwnnw wahaniaeth i'r gyfradd y digwyddodd llif coronafeirws ynddi yn ystod y cyfnod yn dilyn y cyfnod atal byr. Y cyfnod atal byr ei hun, yn ôl The Lancet, oedd y mwyaf llwyddiannus yng Nghymru o bob rhan o'r Deyrnas Unedig, oherwydd fe wnaethom ni ddechrau arno'n gynharach nag unman arall ac roeddem ni'n fwy trylwyr nag unman arall. Ond roeddem ni'n wynebu cyfres o amgylchiadau, wrth ddod allan ohono, nad oeddem wedi eu rhagweld nac yn gwybod amdanynt chwaith.
Nid yw obsesiwn yr Aelod ynglŷn â'r ffin yn un yr wyf fi'n ei rannu o gwbl. Rwyf wedi ceisio gwneud y pwynt hwn ar hyd y daith. I mi, nid mater sy'n ymwneud â'r ffin yw hwn byth; ond mater o geisio sicrhau ein bod ni'n diogelu ardaloedd lle mae yna lai o achosion rhag ardaloedd lle mae yna fwy o achosion, ble bynnag y bônt, a dyna sut y byddaf i'n parhau i ymdrin â hyn. Nid yw hwn erioed wedi bod yn fater o Gymru a Lloegr, yn fy marn i; ond yn fater o geisio sicrhau nad ydym ni'n mewnforio'r feirws unwaith eto i rannau o Gymru sydd wedi gweithio mor galed ac wedi aberthu cymaint i reoli'r niferoedd hynny.
Rwy'n awyddus iawn i groesawu ymwelwyr o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn ôl i Gymru pan fydd hi'n ddiogel inni wneud hynny. Ar hyn o bryd, nid yw Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr na Llywodraeth yr Alban ar gyfer yr Alban, na Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ychwaith, yn ystyried ei bod yn ddiogel i'w dinasyddion nhw deithio. Nawr, pan fydd y pethau hynny'n gwella, yna rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at groesawu pobl yn ôl i Gymru, oherwydd dyna pryd y bydd yn ddiogel inni wneud hynny. Ac, fel gŵyr yr Aelod, mae'n rhaid inni ystyried teimladau'r rhannau hynny o Gymru nad ydyn nhw wedi gweld ymwelwyr ers amser maith, lle mae niferoedd y boblogaeth frodorol yn gymharol isel ond yn chwyddo llawer iawn yn ystod y tymor ymwelwyr. Felly, mae'n rhaid inni feddwl am hynny i gyd hefyd.
Rwy'n ofni bod yr Aelod wedi datgelu ei feddylfryd ef ei hunan, yn sicr, ac, os oedd yn dyfynnu Prif Weinidog y DU yn gywir, meddylfryd y Prif Weinidog hefyd. Nid lle'r Prif Weinidog yw caniatáu i'r Senedd a etholir yn uniongyrchol yma yng Nghymru neu'r Senedd yn yr Alban arfer y pwerau a ddatganolwyd inni. Meddylfryd fel hyn sy'n credu mai rhyw fath o is-gorff ydym ni, rywsut, lle mae Prif Weinidog y DU yn rhoi ei ganiatâd ef i ni wneud rhai pethau neu beidio. Rwy'n siŵr y gallai dulliau eraill o weithredu fod wedi digwydd yn ystod argyfwng coronafeirws, ac fe allai'r pwerau enfawr a gafodd eu hymarfer fod wedi cael eu hymarfer gan rywun yma yng Nghymru. Rwyf i o'r farn ei bod wedi bod yn well i'r penderfyniadau sy'n effeithio ar bobl Cymru fod wedi cael eu gwneud gan bobl yng Nghymru a etholwyd gan bobl Cymru i wneud y penderfyniadau hynny ar eu rhan nhw. Rydym ni'n ddigon aeddfed i wneud hynny, ac nid oes angen i neb arall ddweud wrthym beth allwn ni a beth na allwn ni ei wneud.