Part of the debate – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 23 Mawrth 2021.
Diolch, Llywydd, rwy'n gwerthfawrogi hynna. Ar ôl fy sylwadau cadarnhaol i yn fy nghyfraniad cychwynnol i'r Prif Weinidog, roeddwn i am ofyn iddo a oedd yn edifarhau am y penderfyniad ar ddiwedd y cyfnod atal byr i ganolbwyntio ar orfodi ffin â Lloegr, wrth adfer y rhyddid llwyr i symud, fwy neu lai, o fewn Cymru, o'i gymharu â'r cyfyngiadau teithio llym a oedd gennym ni cyn hynny. Fe ofynnais iddo ar y pryd pam oedd yna ganiatâd i etholwyr o Ferthyr Tudful deithio i Drefynwy, o ardal haint uchel iawn i un haint isel, ac eto roedd y ffin hon yn cael ei gorfodi rhwng Trefynwy a'r Rhosan ar Wy. A oedd hynny'n gwneud unrhyw synnwyr? Fe welsom ni rai o'r cyfraddau heintio uchaf yn y byd ychydig wythnosau wedi hynny.
Rwy'n holi, wrth inni ddod allan o gyfnod y cyfyngiadau, a fydd yn gwneud popeth o fewn ei allu i groesawu twristiaeth ddomestig yn ôl i Gymru, ac rwy'n golygu o rywle arall yn y DU, ac egluro beth fydd y sefyllfa ar ôl 12 Ebrill? Rwy'n credu, yn gynharach, iddo wneud rhai sylwadau synhwyrol mewn ymateb i Andrew R.T. Davies ynghylch twristiaeth ryngwladol, ond yr ochr arall i hynny yw os nad yw pobl yn mynd i allu teithio dramor, a fyddwn ni'n gweithio i'w croesawu nhw i Gymru mewn ffordd synhwyrol sy'n cydymffurfio â COVID.
Yn olaf, a gaf i ofyn iddo fyfyrio, efallai, ar yr hyn yr adroddir i Brif Weinidog y DU ei ddweud ddoe—ei fod ef yn gresynu ei fod wedi caniatáu i'r gweinyddiaethau datganoledig, yn ei eiriau ef, fynd eu ffordd eu hunain wrth ymateb i COVID? Fe ellid bod wedi gwneud hynny mewn ffordd wahanol drwy'r Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, yn hytrach na thrwy Ddeddf Coronafeirws 2020 ar wahân a Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984. Pa wahaniaeth fyddai hynny wedi ei wneud pe byddai hynny wedi digwydd?
Onid yw COVID wedi ein rhoi ni ar lwybr gwahanol o ran datganoli? Mae llawer o bobl nad oedden nhw'n ymwybodol o ddatganoli o'r blaen neu heb ymgysylltu'n llawn â datganoli wedi gweld y pwerau hynod eithafol y gall y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru eu defnyddio i reoli eu bywydau er gwell neu er gwaeth. Ac mae llawer o bobl sy'n teimlo'n llawn mor Brydeinig â Chymreig, neu'n Saesnig hyd yn oed mewn rhai achosion, nad ydyn nhw'n hoffi'r ffaith bod gan y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru y pwerau enfawr hynny drostyn nhw. Ar yr adegau pan mae ef wedi gwneud pethau mewn ffyrdd gwahanol iawn i Lywodraeth y DU yn Lloegr, oni wnaeth hynny leihau cydymffurfiaeth, efallai, a'i gwneud hi'n anos i bobl ddod at ei gilydd? A oes ganddo unrhyw beth i'w ddweud ynglŷn â hynny?