Part of the debate – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 23 Mawrth 2021.
Llywydd, mae hwn yn feirws dychrynllyd a chreulon. Mae wedi taro heb ystyriaeth i oedran, gan gipio'r hen a'r ifanc. Mae wedi amlygu anghydraddoldebau ystyfnig yn ein cymdeithas ni, gan ddatgelu ymraniadau ac effeithio ar y cymunedau hynny sydd fwyaf agored i niwed, yn enwedig pobl anabl, menywod, a chymunedau pobl dduon, Asiaidd, a lleiafrifoedd ethnig.