5. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Cymorth Iechyd Meddwl a Llesiant mewn Lleoliadau Addysgol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 23 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:53, 23 Mawrth 2021

Diolch am y datganiad. Hoffwn i hoelio sylw ar ddau fater penodol. Dwi'n gwybod eich bod chi'n cytuno ei bod hi'n hanfodol ein bod ni'n defnyddio dulliau ataliol wrth ymdrin â materion iechyd meddwl, a thra bod angen, wrth gwrs, ymateb i broblemau, mae'n bwysig hefyd gweithredu i atal problemau cyn iddyn nhw ymddangos.

Ac felly, mae angen mynd i'r afael ag un o achosion sylfaenol y problemau iechyd meddwl, ac mae tlodi yn un ohonyn nhw. Mae'n bwysig i ni gofio bod plant a phobl ifanc difreintiedig yn fwy tebygol o ddioddef o broblemau iechyd meddwl, ac felly bod mynd i'r afael â thlodi, drwy nifer o fesurau, yn ffordd effeithiol o atal problemau iechyd meddwl cyn iddyn nhw ymddangos. Mae ymchwil yn dangos bod plant sy'n mynd yn llwglyd yn llawer mwy tebygol o ddioddef o bryder—anxiety—a straen—stress—difrifol. Ac mae yna gyswllt hefyd wedi cael ei brofi rhwng newyn a thlodi mewn bywyd cynnar ag iselder a hunanladdiad yn nes ymlaen. Ac yn ychwanegol i hyn, er mwyn gweld twf ymennydd iach mewn plentyn, mae'n rhaid darparu gofynion maeth penodol iddyn nhw. Mae'r rhain yn cynnwys bwydydd sydd yn cynnwys sinc, fitamin D, haearn, seleniwm, protein, ïodin a maetholion allweddol eraill. Fel y gwyddoch chi, mae Plaid Cymru o blaid ehangu cymhwysedd ar gyfer cinio ysgol am ddim i blant i 70,000 o blant, ac yn y pen draw i bob plentyn, er mwyn sicrhau bod plant yn cael bwyd iach o leiaf unwaith y dydd. Felly, fy nghwestiwn i ydy hyn: onid ydy prydau ysgol am ddim angen bod yn gwbl ganolog i strategaeth iechyd meddwl a lles lleoliadau addysg unrhyw Lywodraeth oherwydd yr holl fanteision ataliol?

A'r ail faes dwi eisiau edrych arno fo ydy'r maes ôl-16. Mae cymorth iechyd meddwl yn allweddol mewn ysgolion, ond mae o hefyd yn hanfodol bod darpariaeth briodol yn parhau ym mhob lleoliad ôl-16, ac un maes sydd mewn perygl o gael ei ddiystyru ydy dysgu seiliedig ar waith a lles prentisiaid. Mae gan brentisiaid, yn ogystal â'r straen ychwanegol o gyflawni cymhwyster ar ôl cwblhau eu fframwaith, y pryder ychwanegol ynghylch cyflogaeth yn y dyfodol, ac yn ystod COVID mae'r pryder yna'n siŵr o fod wedi cael ei gynyddu, efo 1,690 o brentisiaid wedi cael eu rhoi ar ffyrlo llawn ers dechrau'r flwyddyn, gan ychwanegu at y pwysau. Felly, fy nghwestiwn olaf i, a'r ail gwestiwn: oes yna ddigon o gefnogaeth ar gael i'r grŵp penodol yma o ddysgwyr?