Part of the debate – Senedd Cymru am 5:53 pm ar 23 Mawrth 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod fore ddoe, ac mae ein hadroddiad yn cynnwys tri phwynt technegol a phum pwynt rhinwedd. Mae pob un o'r tri phwynt adrodd technegol yn tynnu sylw at yr hyn sy'n ymddangos yn faterion drafftio diffygiol. Mae ymateb Llywodraeth Cymru i'r pwyntiau adrodd hyn yn cydnabod y gwallau hyn, ac rydym yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i wneud y cywiriadau angenrheidiol cyn gynted â phosibl.
Bydd tri o'n pwyntiau adrodd ar rinweddau yn gyfarwydd i'r Aelodau. Rydym wedi nodi cyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol, na fu ymgynghoriad ffurfiol ar y rheoliadau, ac nad oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i gynnal. Mae ein dau bwynt rhinwedd olaf yn ymwneud â materion pwysig yn ymwneud â sut y gall dinasyddion Cymru ddeall y gyfraith sy'n berthnasol iddyn nhw. Mae pwynt 7 yn ein hadroddiad yn nodi bod y newidiadau a ddaw i rym gan y rheoliadau yn cael effaith, i raddau helaeth, drwy ei gwneud yn ofynnol i ddarllenydd y rheoliadau ddarllen darpariaethau amrywiol mewn ffordd arbennig. Yn nodedig, gwahoddir darllenwyr i ddarllen Atodlen 4 i'r prif reoliadau fel pe bai geiriad yr Atodlen honno yn wahanol i'r union eiriad sy'n ymddangos ynddo. Defnyddiwyd y dull hwn yn hytrach na diwygio'r prif reoliadau. Rydym yn cydnabod mai'r rheswm am hyn yn rhannol yw bod y newidiadau yn gyfyngedig o ran amser. Rydym hefyd yn cydnabod y pwysau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu ar hyn o bryd yn hyn o beth. Fodd bynnag, mae defnyddio'r dull cymhleth hwn yn golygu ei bod yn debygol, mewn llawer o achosion, mai dim ond darllenwyr deddfwriaeth profiadol a allai ddarganfod gwir effaith y rheoliadau, ac mae hyn yn amlwg yn codi materion yn ymwneud â'r diffyg elfen o dryloywder yn y gyfraith.
Wrth ymateb i'n pryderon, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod, ar y cyfan, o'r farn mai dyma'r ffordd fwyaf priodol o wneud y newidiadau gofynnol wrth gadw'r prif ofynion a strwythur craidd Atodlen 4 yn gyfan. Mae ymateb y Llywodraeth hefyd yn dangos, er ei bod yn gobeithio na fydd angen, y byddai'r system y darperir ar ei chyfer yn y rheoliadau yn galluogi dychwelyd at gyfyngiadau llymach yn gyflymach, naill ai ar gyfer Cymru gyfan neu ran o Gymru. Yn ei hymateb i'n hadroddiad, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cydnabod pwysigrwydd y rheoliadau i'r cyhoedd.
Rydym yn croesawu penderfyniad y Llywodraeth i gyhoeddi dogfen enghreifftiol ar dudalennau coronafeirws a'r gyfraith yn llyw.cymru sy'n dangos y cyfyngiadau a'r gofynion lefel 4 rhybudd fel y maen nhw wedi eu haddasu dros dro. Rydym hefyd yn croesawu bwriad y Llywodraeth i ystyried ffyrdd o dynnu sylw'r cyhoedd at y ddogfen hon pe byddai'r dull drafftio hwn yn parhau i gael ei ddefnyddio yn y dyfodol.
Yn olaf, mae pwynt adrodd 8 yn dilyn y pwynt blaenorol ac yn tynnu sylw at ddrysfa arbennig o gymhleth o ddarpariaethau, sy'n cael eu hesbonio'n llawn yn ein hadroddiad. Mae'r pwynt yn ymwneud â'r newid a wnaed gan reoliad 3(2) o reoliadau diwygio Rhif 5. Felly, wrth ymateb i'n pryderon, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn ystyried bod y drafftio yn ddigon clir. Fodd bynnag, mae wedi cytuno i ystyried ffyrdd ychwanegol o sicrhau rhwyddineb y darpariaethau hyn pe byddai angen gwneud addasiad tebyg mewn rheoliadau diwygio yn y dyfodol. Diolch, Dirprwy Lywydd.