– Senedd Cymru am 5:46 pm ar 23 Mawrth 2021.
Eitem 7 ar yr agenda yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021. Nid wyf i'n credu y byddaf yn gweld eisiau'r holl gromfachau. A gaf i alw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig hwnnw? Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig ger ein bron. Cwblhawyd yr adolygiad diweddaraf o'r rheoliadau cyfyngiadau coronafeirws ar 11 Mawrth. Ers y flwyddyn newydd, mae sefyllfa iechyd y cyhoedd wedi bod yn gwella'n gyson. O ganlyniad i ymdrechion pawb yng Nghymru, rydym wedi bod mewn sefyllfa i wneud newidiadau cam wrth gam gofalus i'r cyfyngiadau presennol. Darperir ar gyfer y newidiadau hynny gan y rheoliadau diwygio sydd ger ein bron heddiw, y cyfeirir atynt fel rheoliadau Rhif 5.
Rydym wedi bod yn glir mai ein prif flaenoriaeth yw galluogi plant i ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb cyn gynted â phosibl. Dychwelodd pob disgybl ysgol gynradd a'r rhai mewn blynyddoedd cymwysterau ar 15 Mawrth; bydd pob disgybl yn dychwelyd i ddysgu ac addysgu wyneb yn wyneb ar ôl gwyliau'r Pasg ar ddydd Llun, 12 Ebrill. O 13 Mawrth, disodlwyd y cyfyngiadau aros gartref gan y rheol 'aros yn lleol' dros dro newydd. Mae hyn yn golygu y gall pobl adael eu cartrefi a theithio o fewn eu hardal leol. Mae hynny fel arfer o fewn pum milltir, er, fel yr wyf wedi egluro o'r blaen, mae hyblygrwydd, yn enwedig o ystyried y realiti i bobl sy'n byw mewn rhannau mwy gwledig o'r wlad. Hefyd o'r dyddiad hwnnw, mae pedwar person o ddwy aelwyd wedi gallu cyfarfod yn yr awyr agored, gan gynnwys mewn gerddi, ond nid cheir cymysgu dan do o gwbl o hyd, a dylid cymryd camau cadw pellter cymdeithasol o hyd.
Gall cyfleusterau awyr agored ar gyfer chwaraeon ailagor, gan gynnwys cyrsiau golff. Gallan nhw gael eu defnyddio'n lleol gan hyd at bedwar o bobl o ddwy aelwyd. Mae ymweliadau dan do â chartrefi gofal wedi cael ailgychwyn hefyd ar gyfer ymwelwyr unigol, dynodedig. Ac, o 15 Mawrth, mae siopau trin gwallt a barbwyr wedi cael ailagor ar gyfer apwyntiadau. Os bydd sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau'n gadarnhaol, bydd yr holl wasanaethau cyswllt agos yn agor o 12 Ebrill.
Ddoe, dechreuodd y camau cyntaf tuag at ailagor manwerthu nad yw'n hanfodol. Codwyd y cyfyngiadau ar werthu eitemau nad ydyn nhw'n hanfodol ar gyfer siopau sydd eisoes ar agor. Mae canolfannau garddio wedi cael ailagor hefyd, ac, unwaith eto, os bydd sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau i fod yn gadarnhaol, bydd pob siop yn cael agor o 12 Ebrill, fel y maen nhw'n debygol o allu bod yn Lloegr.
Mae newidiadau eraill a wnaed yn cynnwys dileu'r angen i Weinidogion awdurdodi digwyddiadau chwaraeon elit unigol. Erbyn hyn, gellir defnyddio theatrau a neuaddau cyngherddau ar gyfer ymarferion, pa un a ydyn nhw'n gysylltiedig â darllediad ai peidio, ac, yn olaf, diwygiwyd y dyddiad y daw'r rheoliadau hyn i ben i 31 Mai eleni.
Yr wythnos hon, byddwn yn pwyso a mesur y dystiolaeth ddiweddaraf cyn cadarnhau rhagor o newidiadau ar gyfer gwyliau'r Pasg. Os bydd sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau i fod ar y lefel well hon, byddwn yn codi'r cyfyngiadau 'aros yn lleol' ar 27 Mawrth ac yn dechrau'r broses o agor rhan o'n sector dwristiaeth, gan ddechrau gyda llety hunangynhwysol. Bydd gweithgareddau plant awyr agored yn ailddechrau hefyd mewn pryd ar gyfer gwyliau'r Pasg, a chaiff llyfrgelloedd ailagor hefyd. Mae'r pecyn hwn yn nodi'r cam sylweddol cyntaf tuag at ddatgloi'r cyfyngiadau lefel rhybudd 4 y bu'n rhaid i bob un ohonom ni fyw gyda nhw ers canol mis Rhagfyr.
Bydd yr Aelodau yn ymwybodol ein bod ni wedi cyhoeddi cynllun rheoli coronafeirws wedi'i ddiweddaru yr wythnos diwethaf. Mae hyn yn ystyried y cynnydd mewn brechiadau a'r amrywiolion newydd heintus iawn, yn enwedig amrywiolyn Caint. Mae'n adnewyddu'r ddau ymyriad ar bob lefel a'r ystod o ddangosyddion y bydd Llywodraeth Cymru yn eu dadansoddi. Ein diben a'n dull gweithredu yw mynd ati i godi cyfyngiadau, ar yr amod bod y feirws yn parhau i gael ei atal yn effeithiol.
Roeddwn i'n siomedig felly o glywed arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ddoe yn honni mai'r rheswm y mae rhai o wleidyddion yng Nghymru yn dymuno cadw'r cyfyngiadau symud ar waith yw eu hego grym. Yn anffodus, aeth ymlaen wedyn i honni ei bod yn hurt i wleidyddion ar y chwith sy'n dymuno parhau â'r cyfyngiadau hyn yn ddiangen. Rwy'n gobeithio y bydd arweinydd yr wrthblaid yn myfyrio ac, rwy'n gobeithio, yn tynnu'r sylwadau hynny yn ôl. Bydd ffigwr uwch mewn bywyd cyhoeddus yn honni'n ddig bod y cyfyngiadau yr ydym yn byw gyda nhw wedi eu sbarduno gan ideoleg a'u bod yn ddiangen yn drwydded i rai i beidio â dilyn y rheolau, ac mae hynny'n arwain at ganlyniadau, mae arnaf i ofn. Roedd y sylwadau ac mae'r sylwadau yn anghywir, ac, yn fwy na hynny, maen nhw'n warthus o anghyfrifol. Mae'n fater o ffaith, wrth gwrs, wrth i ni siarad, fod mwy o gyfyngiadau ar waith yn Lloegr, ac nid oes a wnelo hynny ddim â chyfyngiadau yn cael eu hysgogi yn ddiangen gan wleidyddion ar y dde neu'r chwith; mae oherwydd ein bod yn byw trwy argyfwng iechyd cyhoeddus nad yw wedi dod i ben.
Rydym yn myfyrio heddiw ar flwyddyn ers y cyfyngiadau symud cyntaf. Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn hynod o heriol i bob un ohonom ni—y pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal, y niwed economaidd, COVID hir, yr effaith ar iechyd meddwl, yr ymyriadau eithriadol ac, wrth gwrs, colli bywyd. Rwyf wedi gwneud dewisiadau, Dirprwy Lywydd—dewisiadau anodd—i geisio cadw fy ngwlad yn ddiogel yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rwyf wedi cael fy ysgogi gan y dystiolaeth wyddonol a'r cyngor ar iechyd y cyhoedd a'r cyfrifoldeb anochel. Nid yw'r dewisiadau o ran cadw cyfyngiadau ar waith wedi eu hysgogi gan ego; mae'r cyfyngiadau yn cael eu codi, mewn gwirionedd, mor gyflym ac mor ddiogel ag y gallwn. A byddwn yn parhau i fod yn agored ac yn dryloyw gyda phobl Cymru. Byddwn yn parhau i gyhoeddi papurau gan ein grŵp cynghori technegol a chyngor ein prif swyddog meddygol. Rydym yn awr yn dechrau ar y cyfnod tyngedfennol nesaf yn y pandemig anorffenedig hwn. Gallwn yn wir gweld y golau ar ddiwedd y twnnel, ond nid yw wedi dod i ben eto.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod fore ddoe, ac mae ein hadroddiad yn cynnwys tri phwynt technegol a phum pwynt rhinwedd. Mae pob un o'r tri phwynt adrodd technegol yn tynnu sylw at yr hyn sy'n ymddangos yn faterion drafftio diffygiol. Mae ymateb Llywodraeth Cymru i'r pwyntiau adrodd hyn yn cydnabod y gwallau hyn, ac rydym yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i wneud y cywiriadau angenrheidiol cyn gynted â phosibl.
Bydd tri o'n pwyntiau adrodd ar rinweddau yn gyfarwydd i'r Aelodau. Rydym wedi nodi cyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol, na fu ymgynghoriad ffurfiol ar y rheoliadau, ac nad oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i gynnal. Mae ein dau bwynt rhinwedd olaf yn ymwneud â materion pwysig yn ymwneud â sut y gall dinasyddion Cymru ddeall y gyfraith sy'n berthnasol iddyn nhw. Mae pwynt 7 yn ein hadroddiad yn nodi bod y newidiadau a ddaw i rym gan y rheoliadau yn cael effaith, i raddau helaeth, drwy ei gwneud yn ofynnol i ddarllenydd y rheoliadau ddarllen darpariaethau amrywiol mewn ffordd arbennig. Yn nodedig, gwahoddir darllenwyr i ddarllen Atodlen 4 i'r prif reoliadau fel pe bai geiriad yr Atodlen honno yn wahanol i'r union eiriad sy'n ymddangos ynddo. Defnyddiwyd y dull hwn yn hytrach na diwygio'r prif reoliadau. Rydym yn cydnabod mai'r rheswm am hyn yn rhannol yw bod y newidiadau yn gyfyngedig o ran amser. Rydym hefyd yn cydnabod y pwysau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu ar hyn o bryd yn hyn o beth. Fodd bynnag, mae defnyddio'r dull cymhleth hwn yn golygu ei bod yn debygol, mewn llawer o achosion, mai dim ond darllenwyr deddfwriaeth profiadol a allai ddarganfod gwir effaith y rheoliadau, ac mae hyn yn amlwg yn codi materion yn ymwneud â'r diffyg elfen o dryloywder yn y gyfraith.
Wrth ymateb i'n pryderon, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod, ar y cyfan, o'r farn mai dyma'r ffordd fwyaf priodol o wneud y newidiadau gofynnol wrth gadw'r prif ofynion a strwythur craidd Atodlen 4 yn gyfan. Mae ymateb y Llywodraeth hefyd yn dangos, er ei bod yn gobeithio na fydd angen, y byddai'r system y darperir ar ei chyfer yn y rheoliadau yn galluogi dychwelyd at gyfyngiadau llymach yn gyflymach, naill ai ar gyfer Cymru gyfan neu ran o Gymru. Yn ei hymateb i'n hadroddiad, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cydnabod pwysigrwydd y rheoliadau i'r cyhoedd.
Rydym yn croesawu penderfyniad y Llywodraeth i gyhoeddi dogfen enghreifftiol ar dudalennau coronafeirws a'r gyfraith yn llyw.cymru sy'n dangos y cyfyngiadau a'r gofynion lefel 4 rhybudd fel y maen nhw wedi eu haddasu dros dro. Rydym hefyd yn croesawu bwriad y Llywodraeth i ystyried ffyrdd o dynnu sylw'r cyhoedd at y ddogfen hon pe byddai'r dull drafftio hwn yn parhau i gael ei ddefnyddio yn y dyfodol.
Yn olaf, mae pwynt adrodd 8 yn dilyn y pwynt blaenorol ac yn tynnu sylw at ddrysfa arbennig o gymhleth o ddarpariaethau, sy'n cael eu hesbonio'n llawn yn ein hadroddiad. Mae'r pwynt yn ymwneud â'r newid a wnaed gan reoliad 3(2) o reoliadau diwygio Rhif 5. Felly, wrth ymateb i'n pryderon, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn ystyried bod y drafftio yn ddigon clir. Fodd bynnag, mae wedi cytuno i ystyried ffyrdd ychwanegol o sicrhau rhwyddineb y darpariaethau hyn pe byddai angen gwneud addasiad tebyg mewn rheoliadau diwygio yn y dyfodol. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Mae'r rhain yn rheoliadau eang, ac a gaf i ddweud i ddechrau dwi'n cefnogi'r cyfeiriad cyffredinol rydym ni'n symud iddo fo a chyflymder neu bwyll y symudiadau tuag at godi cyfyngiadau yn gyffredinol? O ran ailagor ysgolion a cholegau, rydym ni i gyd, dwi'n credu, yn gweld hynny fel blaenoriaeth. Dwi'n falch ein bod ni wedi symud o gyfnod aros gartref i aros yn lleol, ac, er mai mater o ganllawiau, nid rhywbeth sydd yn y rheoliadau eu hunain ydy hynny, dwi'n cefnogi'r sylweddoliad y tro yma, yn wahanol i'r llynedd, fod angen rhywfaint o hyblygrwydd wrth ystyried beth ydy 'lleol' a bod 'lleol' yn golygu rhywbeth gwahanol mewn ardaloedd gwledig a threfol. Dwi'n falch o weld llefydd trin gwallt ar agor. Dwi'n cyd-fynd â chaniatáu chwaraeon elît.
A rhoi sylw arbennig i ganiatáu hyd at bedwar oedolyn o ddwy aelwyd wahanol i ddod at ei gilydd yn yr awyr agored, yn cynnwys mewn gerddi, dwi yn croesawu hyn. Dyma'r cyfeiriad rydym ni eisiau bod yn mynd iddo fo, wrth gwrs, achos dyna'r math o lacio gofalus a diogel sydd wir yn gallu gwneud gwahaniaeth i lesiant pobl.
Dwi am egluro, serch hynny, pam mai ymatal ein pleidlais fyddwn ni heddiw. Dau beth yn arbennig. Dydw i ddim cweit yn deall pam fod y Llywodraeth wedi penderfynu caniatáu i archfarchnadoedd werthu unrhyw beth y mynnon nhw ar y pwynt yma yn arbennig. Mi allaf i ddweud wrthych chi fod llawer o fanwerthwyr yn gweld hyn fel tipyn o gic. Â ninnau, gobeithio, mor agos at weld siopau yn gyffredinol yn cael agor, pam rhoi cymaint o fantais i archfarchnadoedd mawr rŵan? Mae'r Llywodraeth, roeddwn i'n meddwl, wedi bod yn glir ers y llynedd bod rhoi tegwch i fanwerthwyr bach, yn ogystal â rhesymau diogelwch COVID, yn egwyddor greiddiol y tu ôl i beidio â chaniatáu gwerthu nwyddau doedd ddim yn hanfodol.
A'r elfen arall ydy buaswn i wedi licio gweld mwy o ymgais i drio caniatáu llefydd ymarfer corff i agor dan do. Hynny ydy, dydw i ddim wedi galw am ganiatáu agor pob gym yn syth. Dwi'n meddwl y byddai angen asesiadau risg a'r math yna o beth, ond dwi eto yn galw am roi'r hawl i lefydd ymarfer corff wneud yr achos o leiaf dros allu agor yn ddiogel. Mae ymarfer corff, wedi'r cyfan, yn dda i'r corff a'r meddwl ar ôl blwyddyn mor heriol.
Mi wnaf i apêl hefyd i'r Llywodraeth fireinio ei negeseuo a thrio gweithio ar roi cymaint o rybudd â phosib ymlaen llaw, yn sicr rhai wythnosau, o fwriad i lacio cyfyngiadau i helpu busnes i baratoi, a phob un ohonon ni i gael gwell syniad o beth sydd i ddod, er bod beth sy'n digwydd yn fy etholaeth i rŵan, yn ogystal ag ambell ran arall o Gymru, yn dangos bod y feirws yma a'r pandemig yn gallu newid cyfeiriad yn sydyn.
Pwynt arall gwnaf i dynnu sylw ato fo ydy ein bod ni rŵan mewn cyfnod lle mae rheoliadau yn mynd i fod yn mynd â ni y tu hwnt i gyfnod yr etholiad a ffurfio Llywodraeth newydd. Dydyn ni ddim yn gwybod pwy fydd yma bryd hynny, ond pwy bynnag fydd mi fydd angen gweithredu'n gyflym i sicrhau sylfaen o reoliadau sy'n berthnasol i'r sefyllfa ar y pryd.
Ac i gloi, yn sydyn gen i, ar y ffaith ein bod ni rŵan flwyddyn ers dechrau'r cyfnod clo cyntaf. Mae'n ddiwrnod o fyfyrio ac o gofio. Mae wedi bod yn flwyddyn anodd i bawb ac yn eithriadol o boenus i lawer. Dwi, mi ydym ni'n cydymdeimlo efo nhw heddiw ac, unwaith eto, yn dweud diolch i bawb sydd wedi gofalu amdanon ni a helpu eu cymunedau yn y flwyddyn ryfeddol a fu.
Fe wnes i rai sylwadau cyffredinol yn gynharach, ond o ran manylion y rheoliadau, rwy'n croesawu yn gyffredinol bod pethau yn symud i gyfeiriad rhyddfrydoli. Rwyf i yn cael trafferth deall pam, gan geisio cysylltu cyflymder agor i'r cyflymder y mae'r data'n gwella. Mae'n fy nharo bod data wedi bod yn gwella y tu hwnt i'n disgwyliadau gorau yn ystod yr wythnosau diwethaf, ond nid yw'n ymddangos bod hynny'n bwydo trwyddo i gyflymu'r broses o agor. Roedd gennym ni'r cyfyngiadau cam 4 ac mae'n ymddangos bod lefelau cyffredinol yr achosion a'r profion amrywiol a wnaed yn llawer mwy tebyg i lefel 2, ond nid yw'n ymddangos bod y rheoliadau'n symud ar gyflymder tebyg i ganiatáu i hynny agor. Rwy'n gwybod y bu llawer o sôn am amrywiolyn Caint, ond siawns bod hynny wedi ei ystyried yn yr ystadegau yr ydym yn eu gweld yn awr.
Rwy'n difaru—. Mae gennym ni rai newidiadau. Nid wyf i wedi manteisio ar y toriadau gwallt sydd ond ar gael yng Nghymru eto, ond rwy'n gwybod bod rhai pobl yn gwerthfawrogi hynny, ac mae hynny'n un maes lle'r ydym ar y blaen i Loegr. Y meysydd y mae'n ymddangos ein bod ar ei hôl hi: nid wyf i'n glir beth sy'n digwydd o ran ailagor campfeydd a chwaraeon dan do, na pham y mae'n rhaid gwneud hynny'n arafach. Rwy'n credu mai dim ond y gwahaniaethau bach hynny—. Unwaith eto, mae'r Gweinidog yn ymosod yn dda ar rywun o'r canol-de sy'n awgrymu bod gwleidyddion o'r canol-chwith yn fwy awyddus i reoli ac am reolau a rheoliadau. Fe wnaeth ddigio yn fawr ynghylch hynny. Ond unwaith eto, rwy'n gwneud y pwynt, i'r rhai hynny ohonom ni sy'n undebwyr ac y byddai'n well ganddyn nhw pe bai'r penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn hytrach na Llywodraeth Cymru, fod cael gwahaniaethau bach ar bob cam (a) yn cymhlethu'r cyfathrebu, ond (b) rwy'n credu ei bod yn rhoi heriau o ran cydymffurfio a fyddai'n llai pe byddai Llywodraeth Cymru yn ymdrechu'n fwy i gadw'n agosach at ddull pedair gwlad mewn mwy o feysydd ac yn nes at yr hyn yr oedd Llywodraeth y DU yn ei wneud.
Fy mhryder mwyaf ynghylch y rheoliadau hyn, neu o leiaf sut y maen nhw'n cael eu gweithredu ar lawr gwlad, yw ysgolion. Dywedwyd wrthym mai cael plant yn ôl i'r ysgol oedd y peth pwysicaf, ac eto dyma'r drydedd wythnos y mae pob plentyn wedi bod yn ôl yn Lloegr, ac eto rydym ni'n gweld niferoedd enfawr o blant yn dal i beidio â mynd i'r ysgol, yn gorfforol o leiaf, a byddwn i'n cwestiynu pa mor effeithiol yw rhai o'r addysgu ar-lein o'i gymharu, yng Nghymru. A dywedir wrthym y gall pobl alw i mewn, ond rwy'n siarad â phlant etholwyr sydd ag un diwrnod lle maen nhw'n galw i mewn, ym mlwyddyn 7, 8 neu 9, yn y cyfnod cyn y Pasg, ac rwyf i'n amau a yw hynny'n foddhaol ac na allem ni fod yn gwneud mwy yn hynny o beth. Rydym yn bwriadu ymatal ar y rheoliadau hyn. Diolch.
Nid oes urnhyw Aelod wedi dweud ei fod yn dymuno ymyrryd, felly galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Fe wnaf i ddechrau trwy ddiolch i Mick Antoniw a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad unwaith eto. Rydym yn mynd trwy'r meysydd y maen nhw'n eu codi yn rheolaidd i'w gwella neu eu hegluro, ac rwyf i'n dweud yn rheolaidd, ac fe wnaf i ddweud eto, rwy'n credu bod craffu yn golygu bod gennym ni lyfr statud gwell â mwy o eglurder i aelodau'r cyhoedd ac, yn hollbwysig, i bobl mewn busnesau ac ardaloedd a'u cynrychiolwyr cyfreithiol ddeall ystyr ac effaith y mesurau eithriadol hyn mewn darlun sy'n dal i symud yn gyflym. Ac efallai y bydd yn ofynnol i ni wneud rheoliadau gwahanol yn y dyfodol i gadw pobl yn ddiogel, ond rwyf i yn credu yn wirioneddol bod y pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn rhan allweddol o'n helpu i sicrhau bod hynny'n digwydd.
Rwy'n croesawu pwyntiau eang Rhun ap Iorwerth ynglŷn â chroesawu'r cyfeiriad a'r dull gofalus sydd wedi ei gymryd. Rwy'n nodi bod ei grŵp yn mynd i ymatal. O ran manwerthu nad yw'n hanfodol, roedd gennym ni ddewis anodd i'w wneud, nid un syml, ynghylch p'un a ydym yn agor meysydd newydd, a gallai hynny ynddo'i hun fod yn anniben ac yn gymhleth, neu a ydym yn ailagor y lleoliadau hynny sydd eisoes ar agor a byddai hynny wedi bod yn dderbyniol dim ond yn y ffordd yr ydym wedi gwneud hynny, o ran sicrhau bod rhagor o gymorth ar gael i'r busnesau hynny nad ydyn nhw eto wedi gallu agor, er y gallan nhw i gyd weld y datganid clir mai 12 Ebrill fydd y dyddiad i ailagor yn llawnach. Ac unwaith eto, daw hynny yn ôl at y pwynt ynglŷn â phroses ddychwelyd raddol briodol a gallu rhagweld y newidiadau hynny. Ac mae'r broses ddychwelyd raddol i ysgolion wedi golygu ein bod wedi bod â rhywfaint o le i wneud pethau'n wahanol, ond nid i'r graddau y gallem ni agor yr holl fanwerthu nad yw'n hanfodol ar yr un pryd, ac felly bu'n rhaid gwneud dewis.
O ran eich pryder ynglŷn â chydbwysedd ymarfer corff dan do ac yn yr awyr agored—ac rwy'n sylwi na wnaethoch chi roi term absoliwt, gan ddweud agor llawer mwy o ymarfer dan do—mae'n dod yn ôl at bwynt rwy'n credu y gwnaethoch chi yn gynharach yn eich cyfraniad: mae tuedd i weithgareddau awyr agored fod yn llai peryglus, a dyna pam—fel y gwnaethom yr haf diwethaf a'r gwanwyn diwethaf—ein bod yn ceisio agor gweithgareddau awyr agored fel arfer yn gyntaf o ran ymarfer corff a chymysgu posibl. Mae hynny'n ffordd fwy diogel o wneud hyn. Rydym yn ystyried agor ymarfer corff dan do a gweithgarwch dan do yn fwy graddol, ac wrth gwrs mae'n rhaid i ni feddwl am gydbwysedd y risg a'r lle sydd ar gael i ni yn y cyngor yr ydym yn ei gael gan ein cynghorwyr gwyddonol a'r prif swyddog meddygol.
Er hynny, rydym ni wedi darparu rhagolwg ar gyfer y dyfodol; mae gennym syniad o ryw chwe wythnos o'r hyn sy'n debygol o ddigwydd yn ein barn ni, ond ni allwn warantu y bydd y pethau hynny yn digwydd. Fel y gŵyr yr Aelod, yn eich cyfeiriad at faterion yn eich ardal leol chi o amgylch Caergybi, mae'n bosibl y gall amgylchiadau newid, mae'n bosibl y byddwn yn gweld cynnydd anffodus a mwy eang yn nifer yr achosion a allai olygu bod angen i ni oedi. Felly, fel arfer, dyna pam yr ydym yn cael ein hysgogi gan ddata ac nid dyddiadau ar y cyfan.
Fe wnaf i ymdrin â phwynt Mark Reckless, ac rwy'n credu, pan ddaw'n fater o'r data yn symud yn gyflymach na'r broses agor, rwy'n credu, â phob parch, nad yw hynny'n ystyried y cyngor clir yr ydym wedi ei gael ac yr ydym wedi ei gyhoeddi, nac ychwaith y sylwadau cyhoeddus iawn gan y grŵp cynghori technegol, gan y pwyllgor SAGE, a gan brif swyddogion meddygol ledled y DU. Mae Prif Swyddog Meddygol Lloegr wedi rhoi cyngor clir iawn ar beidio ag ailagor yn rhy gyflym, oherwydd byddai hynny'n peryglu heintiau coronafeirws yn dychwelyd yn sylweddol gyda'r holl niwed a achosir yn gorfforol, yn feddyliol ac, yn hollbwysig, yn economaidd hefyd. Rwy'n cydnabod bod gan yr Aelod awydd i weld cymaint o ryddfrydoli cyn gynted â phosibl; rydym ni, yn syml, yn ystyried cyngor iechyd y cyhoedd a gwyddonol o ddifrif ar sut i wneud hynny mor ddiogel â phosibl cyn gynted â phosibl, a dyna fydd y sefyllfa o hyd yn ystod oes y Llywodraeth hon.
Sylwaf iddo ddigio ar ran Andrew R.T. Davies. Rwy'n credu, â phob parch, pan fo arweinydd yr wrthblaid yn gwneud y sylwadau a wnaeth ac yn ensynio cymhellion y gwleidyddion sy'n gwneud dewisiadau eithriadol o anodd, nid wyf i'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylid ei adael heb roi sylw arno. Ac rwy'n credu, â phob parch, ei fod wedi cymryd pwynt llawer ehangach o'r materion penodol iawn, lle'r wyf i yn credu y dylai arweinydd yr wrthblaid fyfyrio ar y safbwynt y mae wedi ei nodi yn gyhoeddus. Nid yw'r rheoliadau hyn a'r mesurau y bu'n rhaid i mi eu cyflwyno—y mesurau y bu'n rhaid i holl Aelodau'r Cabinet gymryd rhan ynddyn nhw—wedi eu gwneud oherwydd ego, ond oherwydd realiti ein sefyllfa, ac ar ddiwrnod pan rydym yn myfyrio ar flwyddyn o gyfyngiadau symud ers yr un cyntaf a'r golled anhygoel mewn bywydau yr ydym wedi'i gweld er gwaethaf y mesurau hynny, rwyf i'n credu ei fod yn ddewis gwael o naws yn ogystal â chynnwys bwriadol y geiriau hynny ddoe gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig i awgrymu bod egos amherthnasol ac ideolegol eraill, yn hytrach na chadw'r cyhoedd yn ddiogel.
O ran bod yn undebwr, rwy'n dweud fy mod i'n undebwr hefyd. Ond nid wyf i'n dymuno troi datganoli yn ôl yn y ffordd y mae ef yn dymuno'i wneud. Mae'r pwerau y mae pobl Cymru wedi pleidleisio amdanyn nhw ar ddau achlysur yn golygu mai dyma pam yr ydym yn cael y dadleuon hyn, dyma pam y mae Gweinidogion Cymru yn gwneud yr ystod o benderfyniadau yr ydym wedi eu gwneud. Ac â phob parch, mae'n gwybod yn iawn ein bod yn anghytuno ar hyn, ond rwyf i yn gwrthwynebu'r awgrym i fod yn undebwr mae'n rhaid i chi fod o blaid troi pwerau yn ôl a'u hanfon yn ôl i San Steffan, yn hytrach na rhannu cyfrifoldeb a phwerau yn briodol ledled y Deyrnas Unedig mewn modd sy'n parchu'r ddau refferendwm datganoli yr ydym wedi eu cael. Ac roeddwn i yn meddwl bod Mr Reckless yn hoffi parchu canlyniadau refferenda, ond nid yn yr achos hwn yn ôl pob tebyg.
Pan ddaw'n fater o ddychwelyd i ysgolion yn raddol, rydym yn parchu'r cyngor gan SAGE a'n grŵp cynghori technegol ein hunain a'r prif swyddog meddygol. Mae dychwelyd yn raddol i ysgolion—
Mae angen i'r Gweinidog ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda. Mae'n ddrwg gen i, mae amser yn brin.
Rwy'n dirwyn i ben yn fan hyn. Ac mae hynny'n golygu ein bod yn gwneud yn union fel y mae'r cyngor wedi ei ddweud. Rwy'n edrych ymlaen at weld pob plentyn yn dychwelyd i addysg wyneb yn wyneb ar 12 Ebrill yn unol â'r cyngor yr ydym wedi ei gael, a sut yr ydym yn ceisio defnyddio'r hyblygrwydd arall sydd ar gael i ni. Rwy'n gobeithio y bydd y mwyafrif o'r Aelodau yn cefnogi'r rheoliadau sydd ger ein bron.
Diolch. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwelaf wrthwynebiad. Iawn, felly gohiriwn bleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.