Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 23 Mawrth 2021.
Mae'r rhain yn rheoliadau eang, ac a gaf i ddweud i ddechrau dwi'n cefnogi'r cyfeiriad cyffredinol rydym ni'n symud iddo fo a chyflymder neu bwyll y symudiadau tuag at godi cyfyngiadau yn gyffredinol? O ran ailagor ysgolion a cholegau, rydym ni i gyd, dwi'n credu, yn gweld hynny fel blaenoriaeth. Dwi'n falch ein bod ni wedi symud o gyfnod aros gartref i aros yn lleol, ac, er mai mater o ganllawiau, nid rhywbeth sydd yn y rheoliadau eu hunain ydy hynny, dwi'n cefnogi'r sylweddoliad y tro yma, yn wahanol i'r llynedd, fod angen rhywfaint o hyblygrwydd wrth ystyried beth ydy 'lleol' a bod 'lleol' yn golygu rhywbeth gwahanol mewn ardaloedd gwledig a threfol. Dwi'n falch o weld llefydd trin gwallt ar agor. Dwi'n cyd-fynd â chaniatáu chwaraeon elît.
A rhoi sylw arbennig i ganiatáu hyd at bedwar oedolyn o ddwy aelwyd wahanol i ddod at ei gilydd yn yr awyr agored, yn cynnwys mewn gerddi, dwi yn croesawu hyn. Dyma'r cyfeiriad rydym ni eisiau bod yn mynd iddo fo, wrth gwrs, achos dyna'r math o lacio gofalus a diogel sydd wir yn gallu gwneud gwahaniaeth i lesiant pobl.
Dwi am egluro, serch hynny, pam mai ymatal ein pleidlais fyddwn ni heddiw. Dau beth yn arbennig. Dydw i ddim cweit yn deall pam fod y Llywodraeth wedi penderfynu caniatáu i archfarchnadoedd werthu unrhyw beth y mynnon nhw ar y pwynt yma yn arbennig. Mi allaf i ddweud wrthych chi fod llawer o fanwerthwyr yn gweld hyn fel tipyn o gic. Â ninnau, gobeithio, mor agos at weld siopau yn gyffredinol yn cael agor, pam rhoi cymaint o fantais i archfarchnadoedd mawr rŵan? Mae'r Llywodraeth, roeddwn i'n meddwl, wedi bod yn glir ers y llynedd bod rhoi tegwch i fanwerthwyr bach, yn ogystal â rhesymau diogelwch COVID, yn egwyddor greiddiol y tu ôl i beidio â chaniatáu gwerthu nwyddau doedd ddim yn hanfodol.
A'r elfen arall ydy buaswn i wedi licio gweld mwy o ymgais i drio caniatáu llefydd ymarfer corff i agor dan do. Hynny ydy, dydw i ddim wedi galw am ganiatáu agor pob gym yn syth. Dwi'n meddwl y byddai angen asesiadau risg a'r math yna o beth, ond dwi eto yn galw am roi'r hawl i lefydd ymarfer corff wneud yr achos o leiaf dros allu agor yn ddiogel. Mae ymarfer corff, wedi'r cyfan, yn dda i'r corff a'r meddwl ar ôl blwyddyn mor heriol.
Mi wnaf i apêl hefyd i'r Llywodraeth fireinio ei negeseuo a thrio gweithio ar roi cymaint o rybudd â phosib ymlaen llaw, yn sicr rhai wythnosau, o fwriad i lacio cyfyngiadau i helpu busnes i baratoi, a phob un ohonon ni i gael gwell syniad o beth sydd i ddod, er bod beth sy'n digwydd yn fy etholaeth i rŵan, yn ogystal ag ambell ran arall o Gymru, yn dangos bod y feirws yma a'r pandemig yn gallu newid cyfeiriad yn sydyn.
Pwynt arall gwnaf i dynnu sylw ato fo ydy ein bod ni rŵan mewn cyfnod lle mae rheoliadau yn mynd i fod yn mynd â ni y tu hwnt i gyfnod yr etholiad a ffurfio Llywodraeth newydd. Dydyn ni ddim yn gwybod pwy fydd yma bryd hynny, ond pwy bynnag fydd mi fydd angen gweithredu'n gyflym i sicrhau sylfaen o reoliadau sy'n berthnasol i'r sefyllfa ar y pryd.
Ac i gloi, yn sydyn gen i, ar y ffaith ein bod ni rŵan flwyddyn ers dechrau'r cyfnod clo cyntaf. Mae'n ddiwrnod o fyfyrio ac o gofio. Mae wedi bod yn flwyddyn anodd i bawb ac yn eithriadol o boenus i lawer. Dwi, mi ydym ni'n cydymdeimlo efo nhw heddiw ac, unwaith eto, yn dweud diolch i bawb sydd wedi gofalu amdanon ni a helpu eu cymunedau yn y flwyddyn ryfeddol a fu.