15. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Diffiniad o Grwpiau Gwleidyddol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 24 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 4:08, 24 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae'n flin gennyf ddweud mai'r unig ffordd o ddisgrifio'r gwelliant arfaethedig hwn i'r Rheolau Sefydlog yw annymunol, llawdrwm ac awdurdodus sy'n arfer rheolaeth fympwyol a gormesol dros eraill. Fel y dywed adroddiad y Pwyllgor Busnes ar hyn:

'Nid oes gan y cynnig hwn gefnogaeth unfrydol y Pwyllgor Busnes. Gwnaethpwyd y cynnig gan Rebecca Evans AS (y Trefnydd) ac fe’i cefnogwyd gan Sian Gwenllian AS sydd, yn unol â Rheol Sefydlog 11.5(ii), gyda'i gilydd yn cynrychioli 39 pleidlais ar y Pwyllgor. Nid yw Mark Isherwood AS na Caroline Jones AS, sy'n cynrychioli cyfanswm o 14 pleidlais, yn cefnogi'r cynnig; maent yn cefnogi cadw’r Rheol Sefydlog bresennol.'

O dan yr esgus, ac rwy'n dyfynnu:

'Yn ystod y Bumed Senedd, mae aelodaeth y grwpiau gwleidyddol a’r broses o ffurfio a diddymu’r grwpiau hyn wedi bod yn fwy cyfnewidiol nag erioed o’r blaen,' mae cynghrair anfad rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn honni bod y lefel hon o gyfnewidioldeb yn annymunol, ac y dylid cyfyngu ar greu grwpiau gwleidyddol newydd yn awtomatig yn yr hyn sydd i fod yn Senedd y bobl i'r rhai sy'n cynnwys tri neu fwy o Aelodau'n perthyn i'r un blaid wleidyddol gofrestredig a enillodd sedd neu seddau yn etholiad cyffredinol diweddaraf y Senedd, oni bai bod y Llywydd yn fodlon fod amgylchiadau eithriadol yn berthnasol. Wel, er y byddai'r cynnig hwn wedi bod yn llawn cymaint o fudd pleidiol i fy mhlaid i ag i Lafur a Phlaid Cymru, mae wedi'i dargedu'n glir mewn ffordd gwbl anweddus ac anaddas, gan arddangos meddylfryd bwli'r iard chwarae yn hytrach na'r gwleidydd cyfrifol sy'n cydnabod mai'r hyn sy'n nodweddu democratiaeth gynrychioliadol yw'r modd y mae'n trin y lleiafrifoedd o'i mewn.

Mae dulliau o gadw cydbwysedd effeithiol mewn systemau democrataidd cynrychioliadol yn hanfodol os yw'r systemau hynny i barhau, ac eto mae'r cynnig hwn yn ceisio tanseilio'r egwyddor sylfaenol hon. Fel y mae fy nghyd-Aelodau yng ngwrthblaid swyddogol y Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud wrthyf, dylem gadw at y trefniadau presennol. Mae'r rhain eisoes yn rhoi rhywfaint o ddisgresiwn i'r Llywydd ac yn deg i bleidiau bach. Gall pleidiau newydd ddod i'r amlwg mewn democratiaethau bywiog fel Cymru, ac maent yn gwneud hynny, fel y dangoswyd drwy gydol bodolaeth y Senedd. Ac awtsh, jerimandro ar ei waethaf yw hyn, lle mae jerimandro wedi'i gynllunio i roi mantais annheg i bleidiau gwleidyddol a chadw swyddogion gwael mewn grym—diffiniad geiriadur; nid wyf yn cyfeirio at unrhyw beth yn bersonol.

Dywedaf wrth yr Aelodau gyferbyn felly: cyn ichi ddilyn chwipiaid eich plaid i bleidleisio ar y mater hwn, gofynnwch i chi'ch hun ai dyma'r ffordd rydych am i'r Senedd ifanc hon yng Nghymru fynd. Rwy'n gobeithio nad ydych am weld hynny'n digwydd.