Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 24 Mawrth 2021.
Mae fy ngrŵp yn gwrthwynebu'r cynigion hyn yn gryf gan ein bod yn teimlo eu bod yn wrth-ddemocrataidd. Effaith y cynigion hyn fydd amddifadu Aelodau annibynnol o'r cyfle i gydweithio ar faterion cyffredin, amddifadu Aelodau annibynnol o'r gallu i fwydo i mewn i waith y sefydliad hwn, ac amddifadu Aelodau annibynnol o'r un cyfleoedd ag sydd gan y rhai mewn pleidiau gwleidyddol sefydledig, yr union bleidiau gwleidyddol rydym wedi'u gwrthod ac yn gynyddol, y pleidiau gwleidyddol y mae'r cyhoedd yng Nghymru wedi'u gwrthod.
Mae angen mwy o gefnogaeth ar Aelodau annibynnol, nid llai, gan nad oes ganddynt fanteision peiriant plaid y tu ôl iddynt. Ac rwyf wedi clywed y ddadl na all Aelodau annibynnol ffurfio grŵp am nad ydynt yn rhannu'r un credoau gwleidyddol, yr un delfrydau, ac mae hynny'n anghywir. Rydym i gyd yn rhannu'r gred gryfaf mai'r bobl sy'n ein hethol sydd fwyaf pwysig; nid arweinwyr pleidiau na'r rhai sy'n rhoi arian mawr iddynt—y cyhoedd. Felly, mae gan bob un ohonom nod cyffredin i ddwyn y blaid sydd mewn grym i gyfrif.
Dyna pam ein bod yn gweld mwy a mwy o Aelodau annibynnol mewn seddau, a pham mai dim ond traean o'r etholwyr y mae'r pleidiau traddodiadol gyda'i gilydd yn y Senedd hon yn eu cynrychioli. Byddwn yn gweld mwy a mwy o Aelodau annibynnol yn y dyfodol, ac felly galwaf ar yr Aelodau i wrthod y cynigion hyn yn enw tegwch a democratiaeth. Diolch.