Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 24 Mawrth 2021.
Mae yna lawer i'w groesawu yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid yma. Mi wnaf i nodi nad ydw i'n aelod o'r pwyllgor ers peth amser erbyn hyn, ond mi hoffwn i ddiolch i Llyr Gruffydd am ei waith o yn cadeirio'r pwyllgor, ac i'r tîm, dwi'n gwybod, sydd yn ei gefnogi fo o ran y tîm clercio. Dwi wedi colli cael bod ar y pwyllgor yna.
O ystyried bod Deddf 2014 wedi bod yn weithredol ers pum mlynedd, a'n bod ni'n edrych ymlaen tuag at gyfnod o ailadeiladu ar ôl COVID, mae hwn yn amser da, dwi'n meddwl, i adolygu lle rydyn ni'n sefyll pan mae'n dod at bwerau ffisgal y Llywodraeth. Ar bapur, o leiaf, mae hwn wedi bod yn gyfnod arwyddocaol iawn o ran datblygiad pwerau a gallu ffisgal Llywodraeth Cymru. Mi oedd o'n gam hynod arwyddocaol ymlaen ein bod ni fel Senedd yn gyfrifol nid dim ond am wario arian yng Nghymru, ond am godi'r arian yna, ac wrth gwrs dyna'r sefyllfa rydyn ni eisiau bod ynddi hi.
Dwi'n cofio, pan drafodwyd y graddfeydd Cymreig o dreth incwm am y tro cyntaf yn y Senedd, mi ddywedais i ac eraill ein bod ni'n edrych ymlaen at weld sut y byddai Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau dros drethiant, ac dwi'n meddwl ei bod hi'n deg i ddweud mai cyfyngedig fu'r datblygiadau. I fod yn deg, mae'r ymdrechion diweddar i gyflwyno treth tir gwag wedi cael eu gwneud yn anoddach drwy amharodrwydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, dwi'n meddwl, i gydweithio ar gyflwyno hynny.
Ond os ydym ni'n edrych ar rywbeth fel treth cyngor, ychydig iawn mewn difrif sydd wedi cael ei wneud i fynd i'r afael â'r annhegwch rydym ni'n gwybod sydd yn bodoli efo treth cyngor, ac mae'r adroddiad yma yn cyfeirio at hynny. Do, mae'r Llywodraeth wedi cymryd rhai camau i liniaru pan mae'n dod at effaith treth cyngor ar y bobl dlotaf mewn cymdeithas, ond ychydig sydd wedi'i wneud o hyd er mwyn adolygu a diwygio'r dreth ei hun. Mi ddywedodd y Gweinidog yr wythnos diwethaf y byddai unrhyw ddiwygiadau yn cymryd tymor cyfan o'r Senedd—ac, wrth gwrs, mae hynny'n iawn; mae'n dasg enfawr—ond mae yna fwy o siawns o gyrraedd pen eich taith os ydych chi'n cychwyn ar y daith honno mewn difrif. Oes, mae yna waith ymchwiliadol wedi bod yn mynd ymlaen. Mae yna beth astudio mapiau, os liciwch chi, wedi bod, ond mae'r handbrec yna'n dal ymlaen yn dynn. Dwi'n atgoffa'r Senedd eto o'r dystiolaeth sydd yna gan yr IFS, er enghraifft, am y problemau efo treth cyngor—y 10 y cant tlotaf mewn cymdeithas yn talu rhyw 8 y cant o'u hincwm mewn treth cyngor, a'r 40 y cant mwyaf cyfoethog yn talu dim ond 2 y cant. Mae'n rhaid mynd i'r afael â hwn ar fyrder.
Yn symud ymlaen, mae'r pandemig wedi tanlinellu eto, onid yw, pa mor anaddas ydy'r cytundeb ffisgal presennol. Dwi, wrth gwrs, a Phlaid Cymru, yn cytuno efo canfyddiadau'r pwyllgor bod angen cynyddu ffiniau benthyg, ac y byddai hi'n dda o beth gweld rhagor o hyblygrwydd yn cael ei gyflwyno o ran gallu'r Llywodraeth i dynnu arian lawr o'r gronfa wrth gefn, er enghraifft. Dwi'n meddwl bod y diffyg hyblygrwydd yna, fel sydd wedi cael ei nodi droeon, wedi bod yn broblem yn ystod y flwyddyn eithriadol ddiwethaf yma, ac wedi atal y Llywodraeth rhag gallu gweithredu mewn ffordd dwi'n gwybod y byddai Gweinidogion Llywodraeth Cymru eisiau gallu ei wneud. Ond hefyd, ar y llaw arall, mae'n bwysig nodi, hyd yn oed efo'r pwerau cyfyngedig sydd gennym ni, bod Gweinidogion ar brydiau wedi methu â defnyddio'r rheini, a beth rydyn ni angen dwi'n meddwl, fwy nag erioed, ydy Llywodraeth sydd yn barod i wthio ffiniau'r cytundeb ffisgal presennol. Dwi'n gweld ychydig iawn o dystiolaeth bod y Llywodraeth Lafur yma'n wirioneddol eisiau gwthio'r ffiniau yna.
O edrych ar argymhelliad 10 yn yr adroddiad, mae hynny yn rhoi pwyslais ar y mater rydyn ni'n ymwybodol ohono fo ers talwm, sydd wedi dod yn fwy amlwg yn ddiweddar, sef yr angen am fwy o sicrwydd amlflwyddyn neu multi-year funding allocations. Dwi'n gobeithio y gallwn ni gyd gytuno ar yr angen am eglurder hefyd ar amseru prif ddigwyddiadau ffisgal Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Ydy, mae COVID wedi bod yn sbaner yn y wyrcs yn hynny o beth, ond wrth symud ymlaen mae angen i hyn fod yn flaenoriaeth, dwi'n meddwl, ar gyfer gwella'r sefyllfa bresennol.
Fel mae'r adroddiad yn pwyntio allan, mae ymgysylltu cyhoeddus ar faterion ffisgal yn bwysig iawn hefyd. Mae angen i waith diweddar sydd wedi cael ei wneud i gynyddu ymwybyddiaeth o'r ffaith bod gan Lywodraeth Cymru rŵan y gallu i amrywio trethi barhau i mewn i'r Senedd nesaf, fel mae argymhellion 1 a 2 yn eu nodi. Ac i gloi, Dirprwy Lywydd, yn y Senedd nesaf dwi'n meddwl bod yna lawer o waith sydd angen ei wneud er mwyn gwella gallu a chapasiti ffisgal Llywodraeth Cymru. Wrth i ni ddod allan o'r pandemig rŵan mi fydd angen i'r Llywodraeth nesaf fod yn barod, fel dwi'n dweud, i wthio ffiniau'r cytundeb presennol a bod yn barod i ddefnyddio'r pwerau sydd ganddi lle mae hi'n briodol i wneud hynny.