2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru ar 24 Mawrth 2021.
3. A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynigion i gryfhau'r Gymraeg fel iaith gymunedol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ56486
Diolch yn fawr, Helen. Bydd Llywodraeth Cymru yn dyrannu £1.2 miliwn i’r mentrau iaith yn y gorllewin a’r canolbarth yn 2021-22 i hybu a hyrwyddo defnydd y Gymraeg yn y gymuned. Rŷn ni hefyd wrthi’n gweithredu argymhellion awdit cymunedol i gryfhau’r Gymraeg ar draws cymunedau Cymru yn sgil COVID.
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am eich ymateb. Dwi'n gwybod eich bod chi'n ymwybodol iawn o faint mor galed mae'r mentrau iaith a grwpiau cymunedol eraill yn gweithio, fel Menter Cwm Gwendraeth Elli, a fel maen nhw wedi dioddef y llynedd trwy golli digwyddiadau sydd mor bwysig iddyn nhw—y festivals, y digwyddiadau cymunedol, sydd yn bwysig iawn iddyn nhw o ran creu cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg, ond hefyd sydd yn bwysig iawn o ran incwm y mudiadau, felly. Dwi'n falch i glywed am y buddsoddiad sydd wedi cael ei wneud, ond a ydy'r Gweinidog yn cytuno â fi y dylai Llywodraeth nesaf Cymru, pwy bynnag ydyn nhw, flaenoriaethu cefnogaeth i'r mudiadau cymunedol yma er mwyn sicrhau bod nhw'n gallu para nes maen nhw mewn sefyllfa lle maen nhw'n gallu codi mwy o arian eu hunain, achos mae'n bell o fod yn glir y byddan nhw'n gallu cynnal y math yna o ddigwyddiadau cymunedol yn ystod yr haf yma chwaith?
Diolch yn fawr, Helen Mary, ac yn sicr rŷm ni'n ymwybodol o'r gwaith aruthrol mae'r mentrau iaith wedi bod yn gwneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Un o'r pethau rŷm ni wedi gwneud yn ystod y pandemig yw sicrhau bod ni wedi cael audit cymunedol i weld beth yw'r effaith ar y Gymraeg yn ystod y pandemig, achos mae yna lot o grwpiau, wrth gwrs, wedi methu dod ynghyd yn ystod y cyfnod yna, ac mae'r mentrau iaith wedi helpu ni gyda lot o'r gwaith yna o sicrhau bod ni'n gwybod beth sy'n digwydd ar lawr gwlad. Dwi yn falch bod ni wedi gallu rhoi arian ychwanegol i'r ganolfan yn Llandeilo—£0.2 miliwn ym mis Mawrth i Menter Dinefwr—felly rŷm ni wedi gallu rhoi arian iddyn nhw, a dwi yn gobeithio bod hwnna'n gam ymlaen.
Ond un o'r pethau rŷm ni wedi'i wneud yw o ganlyniad i'r audit, fe ddaethom ni â grŵp at ei gilydd ac mae naw o argymhellion wedi dod ger ein bron ni. Ac un o'r pethau rŷm ni'n gobeithio gwneud yw rhoi siâp newydd ar y mentrau iaith—rŷm ni wedi gwneud hyn gyda'r mentrau iaith—i sicrhau bod nhw efallai'n symud tir fel bod nhw'n deall bod rhan bwysig nawr o'u gwaith nhw'n ymwneud â datblygu economaidd, yn hytrach na jest gwaith i fynd mas i'r cymunedau i wthio'r Gymraeg. Mae actually cynnal a chadw a thrio datblygu swyddi yn yr ardal gobeithio yn mynd i ddod yn rhan o'u gwaith craidd nhw. Rŷm ni wedi bod yn gweithio'n agos gyda nhw ar hynny, a dwi'n gobeithio bydd hwnna'n helpu i'w sefydlogi nhw am y tymor hir.
Dyma'r cwestiwn mwyaf priodol fel cwestiwn olaf yma yn y Senedd hon. Ar ôl priodi, fe wnes i symud i bentref Cymraeg ei iaith yn y canolbarth a phenderfynais i fod yn ddewr ac i ddefnyddio fy Nghymraeg sylfaenol iawn, i ddatblygu'r iaith ac i fagu fy mhlant yn ddwyieithog. Ac ers cyrraedd y Senedd, fy ngweithle, wrth gwrs, dwi wedi bod yn llefarydd fy mhlaid ac rwy'n gobeithio yn enghraifft i holl ddysgwyr nad oes rhaid i chi fod yn gywir bob amser er mwyn ei gael yn iawn.
Weinidog, jest hoffwn i ddweud diolch i chi am ein perthynas waith dda dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae rhannu uchelgais realistig ar gyfer twf defnydd yr iaith, dealltwriaeth o le'r dysgwr a lle'r gweithiwr yn y weledigaeth, wedi gwneud hynny'n haws. Felly, dim syndod efallai mai dyma fy nghwestiwn. Bydd defnydd o'r Gymraeg gan famau sy'n gweithio yn hanfodol i lwyddiant strategaeth 2050. Yn ogystal â threulio mwy o amser gyda'u plant ifanc, rydym ni'n gwybod bod menywod yn fwyaf tebygol o gefnogi plant gyda gwaith ysgol, a bod yn fwyaf tebygol o gymdeithasu â theuluoedd eraill yn y cylchoedd chwarae a'r ysgol. Mae'r ffordd rydym ni'n cymdeithasu yn y gweithle hefyd wedi ei adeiladu ar wrando a rhannu trwy siarad. Sut ydych chi'n gafael yn y pethau gorau am sut mae menywod yn cymdeithasu a chyfathrebu yn eich cynllun iaith nesaf?
Diolch yn fawr, Suzy, ac rwyt ti wirioneddol yn fodel o beth rŷm ni'n treial ei gyflawni gyda'r strategaeth Gymraeg, rhywun sydd wedi datblygu o ran hyder yn y Gymraeg, a diolch i ti am gyfrannu nid yn unig wrth ddysgu Cymraeg ac wrth ymarfer Cymraeg, ond hefyd wrth siarad Cymraeg gyda dy blant di, ac maen nhw hefyd yn helpu ni i gyrraedd 1 miliwn. Felly, diolch yn fawr i ti am hynny.
Yn sicr, o ran mamau sy'n gweithio, dwi'n gwybod bod y gwaith rŷch chi wedi bod yn wneud ers sbel wedi bod yn pwysleisio'r angen yma i sicrhau bod dysgwyr yn dod yn rhan o beth rŷm ni'n treial ei gyflawni fan hyn, a gweithwyr. Mae'r ffaith bod chi'n pwysleisio rôl y fam, rôl y fenyw yn rhywbeth rŷm ni'n cydnabod. Dyna pam, er enghraifft, rydym ni wedi dod lan gyda pholisi newydd o ran trosglwyddo iaith yn y teulu, ac rŷm ni'n cydnabod bod rôl y fam yn hyn o beth yn hollbwysig; y dechrau o'r dechrau a thrio cael pobl i feddwl, cyn eu bod nhw'n cael plant, pa iaith maen nhw eisiau siarad gyda'u plant nhw hefyd.
Ond un prosiect rŷm ni wedi symud ymlaen gydag e yn ystod y sesiwn yma yw'r rhaglen Cymraeg Gwaith. Dwi'n gwybod bod hwnna yn rhywbeth roeddech chi yn gefnogol iawn ohoni, wrth gwrs. Mae hi wedi bod yn anodd gwneud hynny yn ystod y pandemig, ond dwi'n gobeithio byddwn ni'n cael cyfle i fynd yn ôl at hynny, a oedd yn profi i fod yn llwyddiannus iawn. Ond jest i danlinellu fy niolch i ti, Suzy, am bopeth rwyt ti wedi gwneud yn y Senedd yma, am bopeth rwyt ti'n gwneud dros yr iaith Gymraeg, a dwi'n siŵr bod dy gyfraniad di hefyd yn mynd i gael ei weld fel rhywbeth sydd wedi gwneud gwahaniaeth, nid jest yma yn y Senedd ond ar lawr gwlad. A diolch yn fawr i ti am bopeth rwyt ti wedi'i wneud.