1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 26 Mai 2021.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd tai yn y farchnad leol yn Ynys Môn? OQ56522
Llywydd, diolch yn fawr. Mae pwysau sylweddol o ran nifer y tai sydd ar gael yn Ynys Môn. Yn ogystal â’r camau sydd ar waith yn barod—Cymorth i Brynu, swyddogion galluogi tai gwledig, a’r gronfa safleoedd segur, er enghraifft—byddwn ni’n cyflwyno cynigion newydd i helpu pobl o gymunedau lleol i gael tai, gan gynnwys cymunedau yn Ynys Môn.
Diolch yn fawr i chi, ac a gaf i eich llongyfarch ar eich ailethol yn Brif Weinidog? A dwi'n meddwl ei bod hi'n briodol iawn bod y cwestiwn cyntaf yn y tymor seneddol newydd yma yn ymwneud â mater sy'n gymaint o argyfwng ac yn un mae pobl yn mynnu gweld gweithredu arno fo. Un cyfraniad cwbl amlwg at yr argyfwng tai ydy'r twf cwbl ddireolaeth yn y farchnad am ail gartrefi. Dwi'n ei weld o bob dydd. Dwi'n ei weld o yn fy mhentref fy hun. Dwi'n ei weld o mewn pentrefi glan môr yn enwedig. Dwi'n ei weld o yn strydoedd gwag a ffenestri tywyll y gaeaf, yn rhwystredigaeth pobl ifanc yn methu fforddio cael cartref yn eu cymuned. Dwi'n ei weld o yn y cynnydd o 16 y cant mewn pris eiddo ar Ynys Môn yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae pethau'n mynd yn waeth bob dydd. Ac a gaf i wahaniaethu'n glir rhwng perchnogaeth ail gartrefi a thwristiaeth? Mae twristiaeth gynhenid, wedi'i pherchnogi'n lleol, yn arf economaidd pwysig, ond dydy perchnogaeth ail gartrefi ddireolaeth yn helpu dim.
Oes, mae angen gwell swyddi efo cyflogau uwch. Oes, mae eisiau adeiladu llawer mwy o dai gwirioneddol fforddiadwy i'w prynu a'u rhentu, ond mae'n rhaid i'ch Llywodraeth chi yn y Senedd yma weithredu ar frys i ddefnyddio pob arf cynllunio a threthiant, ac ati, i geisio dod â rhyw fath o reolaeth ar y farchnad dai, ac i roi rhyw fath o obaith, rhyw fath o siawns i bobl yn ein cymunedau ni. Dwi ac eraill wedi gofyn am weithredu ers blynyddoedd. A gaf i ofyn i chi reit ar ddechrau'r tymor yma i roi ymrwymiad llwyr a chlir, neu mi fydd hi'n rhy hwyr?
Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Rhun ap Iorwerth am y cwestiwn yna. Bydd yr Aelod yn gwybod bod hwn—ail gartrefi—yn fater rydw i wedi cynnig gweithio yn drawsbleidiol arno'n benodol. Ysgrifennais at arweinydd Plaid Cymru yr wythnos diwethaf yn cadarnhau bod y Llywodraeth yn barod i ystyried nifer o faterion yn y ffordd honno, a dwi'n edrych ymlaen at y sgwrs rŷn ni'n mynd i'w chael cyn diwedd y prynhawn.
Rydw i wedi gweld cynllun pum pwynt Plaid Cymru, a dwi'n siŵr bod syniadau yn y cynllun yna y byddwn ni'n gallu gweithio arnyn nhw gyda'n gilydd. Dwi'n cytuno gyda beth ddywedodd Rhun ap Iorwerth. Mae'n rhaid i ni ddefnyddio nifer o'r pethau sydd gyda ni ym maes trethi, ym maes cynllunio, a rhai pethau eraill—eu tynnu nhw gyda'i gilydd i drio gwneud gwahaniaeth yn y sefyllfa mae e wedi ei hesbonio y prynhawn yma, ac i'w wneud e, os gallwn ni, trwy gydweithio â'n gilydd.
Diolch, Prif Weinidog, am eich ymatebion hyd yn hyn i'r pwyntiau pwysig a godwyd gan Rhun. Yn sicr, mae pwysau ychwanegol ar y farchnad dai oherwydd perchnogaeth ail gartrefi, ond, efallai fod perygl o gael ein gweld yn chwarae'r crwth a Rhufain yn llosgi os mai dyna fydd y prif bwyslais mewn ffordd i gefnogi'r maes gwaith pwysig hwn, mae'n debyg mai'r peth pwysicaf i gefnogi hyn fyddai gweld mwy o gartrefi yn cael eu hadeiladu mewn gwirionedd. Felly, er enghraifft, mae asesiad eich Llywodraeth eich hun o angen yn y gogledd yn dweud y dylid adeiladu 1,600 o gartrefi bob blwyddyn am yr 20 mlynedd nesaf. Ar hyn o bryd, dim ond 1,200 o gartrefi y flwyddyn sy'n cael eu hadeiladu. Yn amlwg felly, mae problem yn yr amgylchedd o ran buddsoddi mewn adeiladu cartrefi. Felly, beth fyddwch chi'n bwriadu ei wneud i wella'r amgylchedd hwnnw, i weld mwy o fuddsoddiad, mwy o gartrefi i'w hadeiladu, ac felly mwy o bobl yn cael cyfle i gael gafael ar yr eiddo hynny?
Wel, Llywydd, nid wyf i'n anghytuno bod cyd-destun ehangach y mae'n rhaid ystyried cwestiwn Rhun ap Iorwerth oddi mewn iddo. Ond roedd yn gofyn yn benodol iawn am y cyfresi hynny o amgylchiadau lle mae perchnogaeth ail gartref mewn perygl o yrru pobl allan o'r cymunedau lleol hynny oherwydd bod prisiau eiddo yn mynd yn rhy ddrud iddyn nhw allu eu prynu oherwydd bod pobl o bellach i ffwrdd sydd â phocedi dyfnach yn gallu gwneud cais. Felly, er bod cyd-destun ehangach, nid dyna oedd pwyslais y cwestiwn a ofynnwyd i mi.
O ran y cwestiwn ehangach ynghylch adeiladu mwy o gartrefi, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel at ddibenion rhentu cymdeithasol. Yr hyn na fyddwn ni'n ei wneud, Llywydd, yw ni fyddwn yn rhwygo'r amddiffyniadau y mae'r system gynllunio yn eu cynnig i unigolion a chymunedau lleol, fel y cynigir gan ei blaid ef yn Lloegr. Mae'r rhain yn amddiffyniadau pwysig a byddwn yn awyddus i'w gweld yn cael eu parhau yma yng Nghymru. Felly, er ein bod yn adeiladu mwy o dai, sy'n angenrheidiol yn y ffordd y mae cyfrifiadau Llywodraeth Cymru wedi'u nodi, rydym yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n cydbwyso'n briodol yr angen am dai newydd a'r amddiffyniadau sydd gan gymunedau lleol yn briodol, er mwyn sicrhau y gellir diogelu eu dyfodol hwythau hefyd.
Gwn fod y sefyllfa dai yn anodd i drigolion Ynys Môn. Mae wedi bod yn amlwg i mi drwy negeseuon e-bost fod angen mwy o dai fforddiadwy ar breswylwyr—felly, yn yr un modd. Prif Weinidog, rwy'n cymeradwyo Llywodraeth Cymru am gyrraedd ei tharged uchelgeisiol o 20,000 o dai fforddiadwy—dim ond y tymor diwethaf oedd hynny—ac am ymrwymo i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel eraill y tymor hwn. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi darparu cyllid trawsnewidiol hefyd ar gyfer tai cymdeithasol i awdurdodau lleol, fel sir y Fflint, lle'r wyf i'n aelod. Ac rydym ni'n bwriadu adeiladu 500 o dai fforddiadwy yn sir y Fflint, gan ganiatáu iddyn nhw adeiladu cartrefi fforddiadwy wrth greu swyddi a phrentisiaethau i bobl leol hefyd—felly mae'n creu swyddi hefyd. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r cynlluniau sydd gan ei Lywodraeth Lafur newydd yng Nghymru ar gyfer adeiladu cartrefi, trwy awdurdodau lleol, er mwyn helpu i fynd i'r afael â phrinder tai yn yr ardaloedd hyn lle mae pobl yn ei chael hi'n anodd fforddio cartref? Diolch.
Lywydd, a gaf i longyfarch yr Aelod ar gael ei hethol i'r Siambr, ac ar ei chyfraniad cyntaf hwn at ein dadleuon, a chyfraniad pwysig ydoedd hefyd? Oherwydd mae ein huchelgais i adeiladu 20,000 o gartrefi ar gyfer rhentu cymdeithasol yn dibynnu ar gapasiti newydd i'n cydweithwyr mewn awdurdodau lleol i adeiladu tai i'w rhentu yn y cymunedau hynny, lle mae'r stociau hynny, yn rhy aml o lawer, wedi'u lleihau gan bolisïau a hyrwyddir gan bleidiau eraill. Ac mae cynlluniau uchelgeisiol mewn nifer o rannau o Gymru i awdurdodau lleol chwarae eu rhan. A bydd y Llywodraeth hon yn sicr, trwy gyllid, ond hefyd trwy'r partneriaethau y byddwn yn eu creu, drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac eraill, yn ceisio sicrhau'r cyfraniad mwyaf y gall awdurdodau lleol ym mhob rhan o Gymru ei wneud i sicrhau bod tai fforddiadwy ar gael i'w rhentu i'r poblogaethau lleol hynny—pobl sy'n gweld eu dyfodol yn y cymunedau hynny ac sy'n awyddus i wybod bod ganddyn nhw dai y gallan nhw ddibynnu arnyn nhw, a fydd yno yn y tymor hir ac a fydd yn caniatáu iddyn nhw chwarae'r rhan y maen nhw'n dymuno ei chwarae wrth adeiladu dyfodol iddyn nhw eu hunain ac i'w cymunedau ehangach.