– Senedd Cymru am 2:41 pm ar 26 Mai 2021.
Y cynnig nesaf, felly, yw'r cynnig o dan Reol Sefydlog 9.1 i gytuno ag argymhelliad y Prif Weinidog i'w Mawrhydi ynglŷn â pherson i'w benodi'n Gwnsler Cyffredinol. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig yn ffurfiol.
Wel, mae'n bleser i'w wneud ef, Llywydd, ond dwi'n ei wneud e'n ffurfiol.
Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd, a diolch i'r Prif Weinidog am fy enwebu. Hoffwn i dalu teyrnged i Jeremy Miles a oedd yn y rôl hon o'm blaen i. Diolch iddo ef am ei waith caled i hybu a datblygu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru ac amddiffyn statws cyfansoddiadol y Senedd hon ar ran pobl Cymru. Dros y blynyddoedd diwethaf, ers Brexit ac o ganlyniad i'r pandemig, mae pobl wedi dod i sylweddoli a deall yn well pa mor bwysig yw gwaith y Senedd hon.
Mae'r pandemig, Llywydd, wedi tynnu sylw penodol at y dylanwad a'r effaith y mae'r cyfreithiau a wneir yma, yn y Senedd hon, yn eu cael ar fywydau pob dydd pobl Cymru. Mae effaith lawn y setliad datganoli wedi ei chydnabod yma yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig. Mae'r Senedd hon a'r cyfrifoldebau deddfwriaethol yr ydym ni yma i'w harfer wedi eu hamlygu ym meddyliau poblogaeth Cymru. Edrychaf ymlaen at chwarae fy rhan i helpu'r Senedd a Llywodraeth Cymru i ymateb i'r heriau a'r anawsterau y byddwn yn eu hwynebu dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Byddaf, fel arfer, yn gweithio i amddiffyn a chryfhau uniondeb ein swyddogaeth gyfansoddiadol fel Senedd i bobl Cymru, ein democratiaeth Gymreig a rheolaeth y gyfraith. Diolch, Llywydd.
Y Prif Weinidog eisiau ymateb? O bosib ddim. Nac ydy, ac felly dwi'n gofyn y cwestiwn: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, ac felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.