Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 8 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:57, 8 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Byddwch chi'n gwybod fy mod i, yn yr etholiad diweddar, wedi amlinellu cynlluniau Plaid Cymru i sicrhau y byddai gweithwyr gofal yn cael eu cydnabod hefyd gyda setliad cyflog teg. I ni, roedd hynny yn rhan o greu gwasanaeth iechyd a gofal cenedlaethol, gan symud gweithwyr gofal i raddfeydd cyflog y GIG. Fe wnaethoch chi addo talu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal. Felly, o leiaf, gadewch i ni weld hynny'n cael ei weithredu'n ddi-oed.

Yn yr un cyfweliad, mewn gwirionedd, ddydd Sul, dywedodd y Gweinidog iechyd a gofal y bydd eich Llywodraeth yn gwneud hynny cyn gynted ag y gallwch chi. Ond, rwy'n credu bod angen i ni wneud yn well na hynny o ran rhoi amserlen. Felly, gadewch i mi roi'r cyfle hwn i chi yn ystod Wythnos y Gofalwyr i roi'r addewid hwnnw na fydd unrhyw oedi. Yn fy marn i, nid yw 'Cyn gynted ag y gallwn ni' yn gysur i staff rheng flaen sydd wedi peryglu eu diogelwch eu hunain yn ystod y flwyddyn eithriadol ddiwethaf.