Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 8 Mehefin 2021.
Diolchaf i Mike Hedges am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae rhai cyflogwyr yng Nghymru wedi defnyddio arferion diswyddo ac ailgyflogi. Ni waeth pa mor brin y gallai'r achosion hyn fod, rwy'n rhannu barn y Prif Weinidog eu bod yn annerbyniol. Mae angen i Lywodraeth y DU weithredu yn awr i roi yr arferion hyn y tu hwnt i'r gyfraith.