Arferion Diswyddo ac Ailgyflogi

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 8 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 1:39, 8 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf i gytuno â'r hyn y mae'r Prif Weinidog newydd ei ddweud a diolch iddo am ei ymateb? Ond y cwestiwn yw: beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i annog pobl i beidio â diswyddo ac ailgyflogi? A yw'n gallu defnyddio ei pholisi caffael, a yw'n gallu defnyddio ei chymorth ariannol i fusnesau, i annog pobl i beidio ag arfer y broses hon, sydd yn anffodus wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf?