Arferion Diswyddo ac Ailgyflogi

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 8 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour

2. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r defnydd o arferion diswyddo ac ailgyflogi gan gyflogwyr yng Nghymru? OQ56530

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:38, 8 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i Mike Hedges am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae rhai cyflogwyr yng Nghymru wedi defnyddio arferion diswyddo ac ailgyflogi. Ni waeth pa mor brin y gallai'r achosion hyn fod, rwy'n rhannu barn y Prif Weinidog eu bod yn annerbyniol. Mae angen i Lywodraeth y DU weithredu yn awr i roi yr arferion hyn y tu hwnt i'r gyfraith.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 1:39, 8 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf i gytuno â'r hyn y mae'r Prif Weinidog newydd ei ddweud a diolch iddo am ei ymateb? Ond y cwestiwn yw: beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i annog pobl i beidio â diswyddo ac ailgyflogi? A yw'n gallu defnyddio ei pholisi caffael, a yw'n gallu defnyddio ei chymorth ariannol i fusnesau, i annog pobl i beidio ag arfer y broses hon, sydd yn anffodus wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, mae Mike Hedges yn iawn bod yr arfer wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Dangosodd tystiolaeth a gyhoeddwyd gan y TUC ym mis Ionawr eleni fod bron i un o bob 10 o weithwyr wedi cael gwybod bod yn rhaid iddyn nhw ailymgeisio am eu swyddi ar delerau salach neu gael eu diswyddo. A chanfu ymchwil pellach, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill eleni, fod 70 y cant o gwmnïau a oedd yn defnyddio'r tactegau hyn yn gwmnïau sy'n gwneud elw. Nid oedden nhw'n gwmnïau a oedd wedi eu gorfodi i wneud hynny oherwydd y pandemig ar ôl i bopeth arall fethu; roedden nhw'n gwneud elw, ac elw iach hefyd—yr archfarchnad Tesco, i sôn am un cwmni yn unig, sydd wedi gwneud yn dda iawn yn ystod y 12 mis diwethaf ac sy'n dal i ddefnyddio'r tactegau hyn. Roedd 50 y cant o'r cwmnïau hynny wedi hawlio cymorth gan Lywodraeth y DU yn ystod y pandemig. Nawr, gallwn ddefnyddio ein contract economaidd, fel yr awgrymodd Mike Hedges, gallwn ddefnyddio ein trefniadau partneriaeth gymdeithasol, gallwn weithio drwy'r undebau llafur a'r rhai sydd yn y Senedd i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i gymryd y camau deddfwriaethol y mae wedi eu haddo.

Yn 2019, Llywydd, yn Araith y Frenhines, addawodd Llywodraeth y DU Fil cyflogaeth. Cafodd ei ddisgrifio gan y Prif Weinidog fel yr uwchraddio mwyaf i hawliau gweithwyr mewn cenhedlaeth, ac eto nid yw'r Bil hwnnw erioed wedi ei gyhoeddi. Nawr, os yw'r Prif Weinidog o ddifrif bod arferion diswyddo ac ailgyflogi yn annerbyniol, ac os y dylai cwmnïau wybod yn well, fel y dywed Jacob Rees-Mogg, ac os, fel y dywed yr Ysgrifennydd Gwladol Kwasi Kwarteng,

'rydym ni wedi bod yn glir iawn bod yr arfer hwn yn annerbyniol' ac mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol

'wedi condemnio'r arfer yn y termau cryfaf ar sawl achlysur yn y Tŷ hwn', yna mae angen i Lywodraeth y DU weithredu ar y sail honno. Nawr, dywedir wrthyf y bydd y Gweinidog, y prynhawn yma yn Nhŷ'r Cyffredin, yn gwneud datganiad ac y bydd yn cyhoeddi adolygiad y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu o arferion diswyddo ac ailgyflogi a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU. Mae'n newyddion da y byddwn yn gallu gweld ffrwyth y gwaith hwnnw. Rwy'n gobeithio y bydd wedyn yn arwain at weithredu deddfwriaethol, a dim ond Llywodraeth y DU all ddwyn hynny ymlaen, i sicrhau bod yr arfer hwn, fel y dywedais, yn cael ei roi y tu hwnt i'r gyfraith. 

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 1:42, 8 Mehefin 2021

Prif Weinidog, mae'r arferion diswyddo ac ailgyflogi gan rai cyflogwyr, fel rydych chi wedi dweud, wedi eu comdenio gan Lywodraethau ar draws y Deyrnas Unedig, a dwi'n deall bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cadarnhau y bydd yna Fesur cyflogaeth yn cael ei osod maes o law i fynd i'r afael â'r mater hwn. Dwi'n gobeithio y bydd y ddeddfwriaeth yma yn cael ei chyflwyno yn y dyfodol agos, oherwydd gallai'r ddeddfwriaeth yma gael effaith sylweddol ar weithwyr ledled Cymru, yn ogystal â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac, felly, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar unrhyw gynigion deddfwriaethol. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau rhynglywodraethol sydd wedi digwydd gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y mater hwn? Pa waith mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i asesu graddfa'r broblem yma yng Nghymru, ac a wnewch chi gyhoeddi unrhyw wybodaeth a gasglwyd gan Lywodraeth Cymru ar y mater hwn? 

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:43, 8 Mehefin 2021

Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Paul Davies. Rydyn ni wedi cael cyfleon i drafod y pwnc yma gyda'r Gweinidogion yn San Steffan, ac, fel dywedais i pan oeddwn i'n ateb Mike Hedges, mae Gweinidogion y Deyrnas Unedig ar y record yn dweud dydyn nhw ddim yn meddwl bod hwnna'n rhywbeth derbyniol. Y peth yw, dydyn ni ddim wedi gweld dim byd eto i roi hyder i ni y bydd y geiriau yn troi mas i fod yn bethau rydyn ni'n gallu eu gwneud. Wrth gwrs, rydyn ni'n hollol fodlon i gydweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig os oes pethau gyda nhw i roi o'n blaen ni, a'n bod ni wedi siarad yn ein social partnership council ni. Does dim lot o enghreifftiau dwi'n ymwybodol ohonynt yng Nghymru, ond mae rhai—Centrica, er enghraifft. A dwi wedi cael nifer o lythyron yn ôl ac ymlaen gyda Centrica ar ran pobl sy'n gweithio iddyn nhw yma yng Nghymru. A dwi'n fodlon hefyd, os oes rhywbeth yn dod mas o Lywodraeth y Deyrnas Unedig, os oes Bil i ni ei ystyried, wrth gwrs, dwi'n fodlon rhannu gwybodaeth gyda'r Aelodau yma yn y Senedd.