4. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Statws Preswylydd Sefydlog yr UE

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 8 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 3:40, 8 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Rydym ni'n ymwybodol bod pobl nad ydyn nhw wedi gwneud cais i'r cynllun eto, ac rydym ni'n credu bod nifer o resymau yn cyfrannu at hyn: efallai bod rhai o ddinasyddion yr UE wedi dod i fyw yn y DU flynyddoedd lawer yn ôl ac nad ydyn nhw'n sylweddoli bod angen iddyn nhw wneud cais; efallai bod rhai wedi cael plant tra oedden nhw'n byw yma ac nid ydyn nhw'n ymwybodol bod yn rhaid gwneud ceisiadau ar gyfer pob aelod o'r teulu. Mae eraill yn wynebu rhwystrau a materion digidol wrth gael y dogfennau cywir ac rydym ni'n ymwybodol bod rhai yn cael eu llethu gan y broses. Yn ogystal â hyn, rwyf i hefyd yn dal i bryderu'n fawr ynghylch nifer y dinasyddion sy'n agored i niwed yng Nghymru nad ydyn nhw efallai wedi gwneud cais eto.

Yn anffodus, nid ydym ni'n gwybod maint yr her sy'n parhau, gan nad yw'n bosibl cyfrifo'n gywir nifer dinasyddion yr UE yng Nghymru nad ydyn nhw wedi gwneud cais. Y rheswm dros hyn yw nid yw Llywodraeth y DU yn gwybod faint yn union o ddinasyddion yr UE sy'n gymwys i wneud cais. Rhagwelwyd i ddechrau bod tua 70,000 o ddinasyddion cymwys o'r UE/AEE yn byw yng Nghymru, ond mae amcangyfrifon mwy diweddar gan awdurdodau lleol yng Nghymru yn awgrymu y gallai fod tua 95,000 o ddinasyddion cymwys yr UE. Er gwaethaf yr ansicrwydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu amrywiaeth helaeth o gymorth yn y gobaith y gall cynifer o ddinasyddion yr UE â phosibl ennill statws sefydlog. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth i ddinasyddion yr UE ers 2019, ac rydym ni wedi ymrwymo cyllid i'r flwyddyn ariannol hon i gydnabod maint yr her sy'n parhau. Mae'r gefnogaeth barhaus wedi galluogi ymestyn gwasanaethau cyngor mewnfudo dinasyddion yr UE y tu hwnt i ddyddiad cau cynllun statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE, yn ogystal ag ymestyn y gwasanaethau cynghori arbenigol sy'n cael eu darparu gan gwmni cyfraith Newfields, Cyngor ar Bopeth Cymru a sefydliad y trydydd sector Settled. Yn ogystal â'r cymorth uniongyrchol hwn, mae gan Lywodraeth Cymru gynllun cyfathrebu manwl wedi'i dargedu ar gyfer statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE a byddwn ni'n parhau i weithio gyda'n partneriaid yn ystod yr wythnosau nesaf i gyfleu negeseuon a chodi ymwybyddiaeth drwy'r cyfryngau cymdeithasol, grŵp cydgysylltu statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE Cymru, radio lleol, erthyglau newyddion a hysbysiadau i'r wasg gan Lywodraeth Cymru. Ac rydym ni'n parhau i ymgysylltu â byrddau iechyd lleol, awdurdodau lleol, swyddfeydd conswliaid, cartrefi gofal preifat, y comisiynydd pobl hŷn, y comisiynydd plant a nifer o sefydliadau trydydd sector arbenigol i dargedu grwpiau agored i niwed a sicrhau, lle nad yw unigolyn o bosibl yn gallu cyflwyno cais, bod gan ei gynrychiolydd neu warcheidwad y gefnogaeth i wneud hynny ar ei ran.

Ond, rydym ni'n canolbwyntio nid yn unig ar ddyddiad cau cynllun statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE, ond hefyd ar sut yr ydym ni'n cefnogi ein dinasyddion yn yr UE ar ôl 30 Mehefin. Rydym ni'n rhagweld y bydd angen cefnogaeth barhaus, o ganlyniad i geisiadau hwyr wedi'u gwneud yn unol â chanllawiau gweithwyr achos diweddaraf Llywodraeth y DU, ac rydym ni'n rhagweld y bydd apeliadau, a bydd angen ein cefnogaeth barhaus ar bob un ohonyn nhw. Ond gan edrych y tu hwnt i gymorth y broses, mae gan Lywodraeth Cymru a sector cyhoeddus Cymru rwymedigaeth statudol barhaus yn ogystal â rhwymedigaeth foesol i sicrhau bod hawliau dinasyddion yr UE yn cael eu diogelu ac yn parhau i gael eu cynnal. Rhwymedigaethau y mae'n rhaid i bob un ohonom ni chwarae ein rhan ynddyn nhw, a lle mae rheolau mewnfudo'r DU yn atal rhoi cymorth i'r rhai nad ydyn nhw eto wedi sicrhau statws sefydlog, rydym ni'n gweithio gyda'n hawdurdodau lleol i sicrhau ein bod ni i gyd yn gweithredu gyda thosturi a gwybodaeth ynghylch pa gymorth y mae modd ei roi ar waith. Yn ystod y misoedd nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu canllawiau cymorth arian cyhoeddus heb atebolrwydd, ar gyfer awdurdodau lleol, a fydd yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Rhaid i bob un ohonom ni weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod dinasyddion yr UE yn cael eu trin yn deg ac yn mwynhau'r un hawliau ag yr oedd ganddyn nhw o'r blaen. Yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i godi ymwybyddiaeth o hawliau dinasyddion yr UE, ac mae eisoes wedi hyfforddi 350 o staff awdurdodau lleol rheng flaen ar hawliau mudwyr a hawliau i wasanaethau. Maes o law, bydd gwybodaeth ychwanegol i ddinasyddion yr UE ynghylch eu hawliau a'u hawliau i wasanaethau yng Nghymru ar gael drwy wefan Noddfa Llywodraeth Cymru.

Rwy'n gobeithio y bydd holl Aelodau'r Senedd yn cefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod holl ddinasyddion cymwys yr UE y mae angen iddyn nhw wneud cais am statws preswylydd sefydlog yn cael digon o gyfle i wneud hynny, eu bod yn parhau i gael eu trin yn deg a bod ganddyn nhw'r un cyfle i fanteisio ar yr un hawliau yr oedden nhw'n eu mwynhau pan oeddem ni dal yn yr Undeb Ewropeaidd.