Rhoi'r Brechlyn COVID-19 i Blant

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 9 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 3:11, 9 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am eich ateb. Rydym bellach wedi brechu cyfran fwy o'n poblogaeth nag unrhyw wlad arall sydd â mwy nag 1 filiwn o bobl, ac mae'r llwyddiant eithriadol hwn yn golygu y gallai Cymru ddechrau brechu plant, tra'n aros am y dystiolaeth a'r cyngor rydych newydd eu crybwyll. Ond mae arwain y byd yn golygu na allwn ddilyn drwy esiampl, a bydd cynnig y brechlyn i blant yn her newydd. Un o'r heriau hynny yw y bydd pobl eraill yn gwneud y penderfyniadau ar ran y plant hynny, ac mae hynny'n iawn wrth gwrs. Bydd rhieni a gwarcheidwaid yn penderfynu a ydynt yn ei gael ai peidio. Felly, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i baratoi ar gyfer yr her newydd hon wrth inni ddechrau ar y cam hollbwysig nesaf o gyflwyno'r brechlyn?